Ydych chi eisiau blwyddyn fythgofiadwy o astudio mewn gwlad, cwrdd â phobl newydd, ymdrochi mewn diwylliannau newydd a datblygu fel unigolyn, yn broffesiynol ac yn bersonol?

Mae Blwyddyn Dramor ar gael i bob myfyriwr israddedig sy'n astudio yn yr Ysgol Reolaeth ac mae'n eich galluogi i dreulio blwyddyn yn astudio yn un o'n sefydliadau partner rhyngwladol.

Graddau pedair blynedd yw ein graddau Blwyddyn Dramor, a byddwch yn treulio'r drydedd flwyddyn yn astudio dramor. Mae'r cynllun Blwyddyn Dramor 12 mis yn cynnwys credydau a bydd yn cyfrif tuag at radd gyffredinol eich gradd.

Sylwer:
Rhaid i chi gael cyfartaledd o 50% yn eich blwyddyn gyntaf i fod yn gymwys am y Flwyddyn Dramor/cynnal cyfartaledd sylfaenol o 50% ym modiwlau'r ail flwyddyn i barhau.

Sylwer:
Nid yw cofrestru ar raglen sy'n cynnwys semester/blwyddyn dramor yn gwarantu lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor yn awtomatig. Mae nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ac yn amodol ar broses ddethol gystadleuol. Os na fyddwch chi'n llwyddo i ennill lleoliad gwaith semester/blwyddyn dramor, cewch chi eich trosglwyddo i gwrs safonol eich cynllun gradd heb semester neu flwyddyn dramor. I ddysgu mwy am astudio dramor, ewch i'n tudalennau gwe Go Global.

Beth yw manteision y flwyddyn dramor?

Byddwch yn datblygu ac yn gwella amrywiaeth o sgiliau amhrisiadwy wrth astudio dramor am flwyddyn. Bydd rhai o'r manteision y byddwch yn elwa ohonynt yn cynnwys:

  • datblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol ac annibyniaeth
  • astudio mewn lleoliad sy'n adnabyddus fel canolfan flaenllaw yn eich maes diddordeb
  • annibyniaeth
  • datblygu iaith
  • paratoi ar gyfer gwaith rhyngwladol
  • mae astudio dramor yn ychwanegiad gwerthfawr iawn at eich CV
  • datblygiad proffesiynol a phersonol

CLYWED GAN EIN MYFYRWYR SY'N ASTUDIO DRAMOR

“Uchafbwyntiau fy nghyfnod astudio dramor oedd cwrdd â chynifer o bobl wych o wledydd nad oeddwn i hyd yn oed yn gwybod eu bod yn bodoli.

Dw i wedi gwneud ffrindiau am byth a dw i'n bwriadu ymweld â phob un ohonynt ar ryw adeg yn y dyfodol, o'r Almaen yr holl ffordd i El Salvador.

Ynghyd â hyn, ces i'r cyfle i ddysgu llawer am fy hun o ran fy ngallu i fod heb fy ffrindiau a'm teulu a bod yn hapus o hyd."

Bethan Williams
Blwyddyn Dramor: École Supérieure de Commerce de Rennes yn Ffrainc.

female sitting on a balcony