O archfarchnadoedd i drenau cyflym iawn, gan gynnwys gwleidyddiaeth a thocynnau ar gyfer y loteri; mae economeg yn rhan annatod o bopeth rydym yn ei wneud. Mae'n fwy na mathemateg ac arian yn unig, mae'n ymwneud â sut mae popeth wedi'i gysylltu ac mae ymddygiad pobl yn elfen bwysig - mae ein hapusrwydd yn ein dewisiadau'n hollbwysig.
Yn y podlediad hwn, mae Dr Simon Rudkin yn esbonio'r broses benderfynu o ran prynu tocyn ar gyfer y loteri a sut mae craffu ar ddata mawr yn llywio'r broses llunio polisïau ym maes lles cymdeithasol.
Mae ymchwil Simon yn parhau i wneud argraff ac mae'n cyfuno elfennau gorau economeg ag elfennau gorau disgyblaethau eraill megis cyfrifiadureg. Mae'n archwilio sut y gall economegwyr egluro materion cymdeithasol a chyfrannu at lunio polisïau.
At hynny, mae Simon yn annog pawb i fynegi popeth ar raddfa: y syniad yw nad oes unrhyw beth yn bodoli ar y ddau begwn; yn hytrach, mae'n rhaid i ni ddadlau a gwerthuso ble rydym ni rhwng y ddau begwn. Mewn geiriau eraill, nid oes unrhyw beth mor syml â chwith/dde; cywir/anghywir; Ie/Nage.