YDYCH CHI'N GWEITHIO YM MAES YMCHWIL SY'N CYD-FYND Â NODAU'R GCRF?
Mae'r Swyddfa Ymchwil Ôl-raddedig yn falch o gynnal ein rhaglen gyntaf erioed â’r nod o gefnogi ymchwilwyr ôl-raddedig sy'n gweithio ar ymchwil i heriau byd-eang, wedi'i hariannu gan y GCRF.
Mae'r rhaglen yn cynnwys gweithdai sy'n cynnig cipolwg ar y profiadau a'r heriau o weithio ar ymchwil i heriau byd-eang, sesiynau datblygu i helpu ein myfyrwyr i ddod yn arweinwyr ymchwil y dyfodol, ac mae'n gorffen â symposiwm ar-lein lle mae myfyrwyr yn gallu cyflwyno eu hymchwil mewn amgylchedd cefnogol a chael ymarfer gwerthfawr yn esbonio eu hymchwil.
Symposiwm Ymchwil Ôl-raddedig
Bydd y digwyddiad hwn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig rannu eu canfyddiadau neu eu profiadau o ymchwil â chynulleidfa anarbenigol.
Bydd y symposiwm, a fydd yn canolbwyntio ar ymchwil sy'n cyd-fynd â'r GCRF, yn cysylltu myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ar draws disgyblaethau, gan gynnig cyfle i rannu syniadau ac ymarfer ac amlinellu eich gwaith mewn amgylchedd cefnogol.
Cynhelir y symposiwm ar-lein. Bydd galwad lawn am bapurau, gan gynnwys manylion am sut i gadw lle, yn cael ei dosbarthu yn ystod yr wythnosau i ddod.
Rhaglen Arweinwyr Ymchwil y Dyfodol
Cynhelir Rhaglen Arweinwyr Ymchwil y Dyfodol y GCRF ar 26 a 27 Mai rhwng 9:00-12:00 a 13:00-15:30. Mae’n gyfle i archwilio, mewn grŵp bach, y sgiliau, yr wybodaeth a’r nodweddion sy’n gysylltiedig ag arweinyddiaeth ymchwil.
Ar gyfer pwy
Anelir y rhaglen at fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig sy’n dyheu am ennill rôl arweinyddiaeth mewn sefydliad ymchwil . Mae'n berthnasol i'r rhai a allai fod yn arwain tîm neu grŵp ymchwil a'r rhai sy'n arwain timau gweinyddol mewn sefydliad ymchwil.
Bydd y gweithdy hwn yn ystyried:
- Arddulliau arweinyddiaeth, gan gynnwys arweinyddiaeth sefyllfaol
- Arddulliau cyfathrebu a chyfarfodydd effeithiol
- Dirprwyo
- Rheoli perfformiad, gan gynnwys pennu disgwyliadau, cadw ar y trywydd a thrafod perfformiad gwael.
- Trin newid a sefyllfaoedd anodd
- Bod yn strategol
- Arwain tîm ymchwil
- Sicrhau cynhyrchiant gwaith cyhoeddi
- Rheoli amser a tharo'r cydbwysedd cywir
- Cynllunio camau gweithredu
Gallwch gyflwyno ceisiadau nawr.
Hyfforddiant a Gweithdai
Beth am gefnogi’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr wrth ymgymryd â gwaith ymchwil sy’n cyd-fynd â’r GCRF ac SDG y CU drwy gyfres bellgyrhaeddol o weithdai a fydd yn:
Galluogi holl fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig Abertawe i ddatblygu eu dealltwriaeth o themâu allweddol sy’n effeithiol ar ymchwil sy’n ymwneud â’r GCRF, wedi’i hwyluso gan ymchwilwyr gyda phrofiad ymarferol yn y meysydd hyn
Archwilio sut gall ymchwil sy’n cyd-fynd â’r GCRF weithio’n ymarferol, drwy weithdai astudiaeth achos sy’n defnyddio profiadau ymchwilwyr ac ymarferwyr.
Hyrwyddo datblygiad sgiliau proffesiynol ac effeithiolrwydd personol a fydd yn cefnogi myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i fod yn arweinwyr ymchwil y dyfodol mewn disgyblaethau sy’n cyd-fynd â’r GCRF.
Cynnig cyfle i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i rannu eu hymchwil, eu methodolegau sy’n cyd-fynd â’r GCRF, neu brofiadau o ymchwil, mewn fforwm ymchwil ôl-raddedig dynodedig a chefnogol.
Cliciwch ar deitl y gweithdy i gadw eich lle.
Gweithdy |
Dyddiad |
Amser |
15/04/2021 |
10:00- 12:00 |
|
Research and life from the outside in - learning to work in a new culture |
20/04/2021 |
11:00 - 12:30 |
10/05/2021 |
10:00 - 11:30 |
|
17/05/2021 |
14:00 - 16:00 |
|
18/05/2021 |
11:00 - 12:30 |
|
20/05/2021 |
13:30 - 15:30 |
|
24/05/2021 |
14:00 - 15:30 |