Yr Her
Mae problemau iechyd corfforol ac iechyd meddwl yn effeithio’n waeth ar bobl awtistig na phobl nad ydynt yn awtistig. Mae hyn yn cynnwys marw rhwng 16 a 30 o flynyddoedd yn gynnar. Mae naratifau sy'n canolbwyntio ar ddiffygion pobl awtistig, gwahaniaethu yn eu herbyn a phroblemau sylweddol o ran derbyn gofal iechyd i gyd yn cyfrannu at hyn. Mae'n bwysig deall profiadau pobl awtistig a'u hanghenion gofal iechyd er mwyn lleihau a dileu anghydraddoldebau iechyd.