Ymchwiliwch i'r rhyfedd a'r godidog o gysur eich cartref eich hun! Os oes gyda chi ddiddordeb mewn pethau rhyfeddol ac annifyr, ymunwch â Simon Watt a gwesteion ar gyfer ‘The Mirror Trap’, profiad ymgolli/gosodwaith/stori arswyd ar-lein am seicoleg a ffiseg gwantwm. Caru hud a lledrith? Yna cofrestrwch ar gyfer ‘Hud Ocsigen’ y Brifysgol Agored a darganfod pam mae ocsigen mor bwysig i ni, sut y gallwch chi gynnau tân o ddŵr a sut y gall cemeg achub bywydau. Amser am seibiant neu a oeddent ar seibiant? Gwnewch baned o goffi i’ch huna darganfod y wyddoniaeth y tu ôl i ‘Friends’ yn ein recordiad byw o bodlediad.
23 Hydref 2021
Live & Ticking – Deall Rhythmau Annormal y Galon
Ymunwch â’r British Heart Foundation am rifyn arbennig o’u cyfres ar-lein Live & Ticking.
Bydd Pennaeth BHF Cymru, Adam Fletcher, yn cael cwmni yr Athro Chris George, o Brifysgol Abertawe, a ariennir gan y BHF ac a fydd yn rhannu ei ymchwil i ddeall rhythmau annormal y galon, neu arhythmia, sy’n gallu lladd.
Yn chwarae ar 23 a 24 Hydref

Bydd Leigh Manley, sydd wedi cael diagnosis o gardiomyopathi arythmogenig ar y fentrigl dde (ARVC), yn ymuno â ni hefyd. Bydd Leigh yn rhannu ei brofiad o’r cyflwr ac o gael diffibriliwr cardiaidd mewnblanadwy (ICD) sy’n rheoli ei galon pan fydd yn dechrau curo ar rhythm peryglus.
Er ein bod yn deall rhai o brosesau arhythmia, mae llawer o achosion rhythmau annormal y galon yn dal yn ddirgelwch.
Mae’r Athro George a’i dîm yn ymchwilio i weld sut y gall newidiadau i brotein yn y galon arwain at annormaleddau a all achosi arhythmia difrifol a gallai’r gwaith hwn arwain at ffyrdd newydd o drin pobl sydd â chyflyrau sy’n peryglu eu bywyd.
Cewch wybod sut y mae ymchwilwyr a ariennir gan y BHF yn gweithio yng Nghymru i ddeall ein calonnau’n well ac i’n gwarchod rhag problemau â rhythmau peryglus yn y dyfodol.
Sylwch: bydd y drafodaeth hon ar gael i’w wylio ar 23 a 24 Hydref fel rhan o benwythnos Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe

Hud, Lledrith a Dewiniaeth - Gemau CluedUpp
10am-5pm | Oedran 13+ | Digwyddiad Mewn Person
Cymerwch eich ffyn hud a gwisgwch eich clogynnau, gan fod byd y dewiniaid yn dod i Abertawe! Ymunwch â ni am ddigwyddiad hud a lledrith newydd sbon, hollol swynol sydd yn mynd â'r chwaraewr ar daith ryfeddol a hudol i fyd llawn dewiniaeth ddu, lle bydd timau'r muggles yn cystadlu i ddod o hyd i dystion rhithwir, datrys cliwiau a threchu endidau tywyllaf y deyrnas. Dyma geo-chwarae ar ei orau!

Ymchwilio i'r Byd Anweledig
10-11am | Oedran 8+ | Digwyddiad Rhithwir
Ydych chi erioed wedi meddwl sut y gall gwyfyn weld? Neu pam mae rhai deunyddiau'n dal dŵr? Ymunwch â’r Gwyddonydd Deunyddiau Dr Mark Coleman, yn fyw ym Mhrifysgol Abertawe wrth iddo ddefnyddio Microsgop Sganio Electron i ymchwilio i’r byd ar raddfa ficro a nano, gan edrych ar wrthrychau bob dydd fel nad ydych erioed wedi eu gweld o’r blaen.
24 Hydref 2021
.png)
Hud Ocsigen
12.30-1.30pm | Oedran 12+ | Digwyddiad Rhithwir
Beth yw atomau a moleciwlau? Pam bod ocsigen mor bwysig i ni? Sut y gallwch chi greu tân o ddŵr? Yn y sesiwn hon, byddwn ni’n ateb y cwestiynau a gweld sut y gall cemeg gael ei defnyddio i achub bywydau!

Yr wyddoniaeth y tu ôl i 'Friends'
6-7pm | Oedran 13+ | Digwyddiad Rhithwir
Caffein: beth fyddai’n digwydd i’ch corff pe baech chi’n byw yn Central Perk? Sut maen nhw’n rhoi’r arogl mewn nwy? Allwch chi wynnu eich dannedd cymaint fel eu bod yn disgleirio yn y tywyllwch? Ymunwch â ni wrth i ni archwilio’r wyddoniaeth y tu ôl i un o raglenni comedi sefyllfa mwyaf poblogaidd yn y byd, Friends.

Magl y Ddrych
7-8pm | Oedran 18+ | Digwyddiad Rhithwir
Mae Paul Gato wedi wynebu llawer yn ei fywyd, mae ar absenoldeb o'r Brifysgol, mae ei gydweithwyr yn dweud nad ydyw wedi bod gant y cant. Mae wedi bod yn anfon e-byst atynt sy'n llawn rwtsh. Meddai: "Does dim byd yn fwy peryglus na chael eich maglu rhwng drychau." Efallai bod Paul yn colli ei feddwl, ond efallai ei fod dal i fod yn gywir. Ydych chi'n mynd i gymryd rhan yn ei arbrawf olaf?