Mae Cyngor Ariannu Addysg Uwch Cymru wedi darparu ariannu, trwy Gronfa Arloesedd Ymchwil Cymru, i gynnal gweithgareddau arloesedd presennol ym Mhrifysgol Abertawe a chynyddu capasiti i gefnogi sefydliadau ar draws y rhanbarth dros y 3 blynedd nesaf.
Bydd hyn yn hwyluso cynlluniau uchelgeisiol i gydweithio gyda sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector er mwyn cau bwlch cynhyrchiant Cymru o’i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. Ymhlith y blaenoriaethau bydd cynyddu gweithgareddau cyfnewid, rhoi hwb i’r gefnogaeth ar gyfer datblygu’r gweithlu, cynyddu lefelau cyfranogiad y cyhoedd, denu buddsoddiad mewnol, derbyn ariannu a arweinir gan ddiwydiant ac ymateb i bandemig COVID-19.