Yn ogystal â darparu addysg gyfreithiol sy'n torri tir newydd, mae'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) ym Mhrifysgol Abertawe'n ymrwymedig i gefnogi datblygiad sgiliau cyfreithiol myfyrwyr y gyfraith, o ran cyfraith fasnachol a morwrol, yn Abertawe a ledled y byd.

I'r perwyl hwn, mae’r IISTL wedi gweithio gyda Phrifysgol Cyfraith Genedlaethol Odisha (India), Siambr Cyflafareddu Morwrol Singapôr, Informa Law a Sefydliad Datrys Anghydfod Amgen Asia, i gynnal y 9fed Gystadleuaeth Ffug-lys Barn Morwrol Ryngwladol rhwng 24 a 27 Mawrth 2022.

Yn agored i holl fyfyrwyr ysgolion y gyfraith yn India, cynhaliwyd y digwyddiad yn rhithwir oherwydd y pandemig byd-eang, ond denwyd nifer mawr o dimau serch hynny. Enillydd y gystadleuaeth ffug-lys barn oedd y School of Excellence in Law (Prifysgol y Gyfraith Tamil Nadu Dr Ambedkar) a drechodd dîm gwych o fyfyrwyr o Brifysgol Genedlaethol y Gyfraith yn Gujarat.

Roedd cyfraniad IISTL at y digwyddiad yn enfawr. Roedd tîm o arbenigwyr (yr Athrawon Simon Baughen ac Andrew Tettenborn a'r Athro Cysylltiol George Leloudas) wedi paratoi cwestiwn y ffug-lys barn gan feirniadu'r sgerbydau a gyflwynwyd.

Roedd yr Athrawon Baughen a Tettenborn hefyd yn rhan o feirniadu'r rownd derfynol ynghyd â Mr Aritave Majumdar (Bose & Mitra & Co) a Mr Ian Teo (Helmsman LLC Advocates and Solicitors, Singapôr).

Rhannu'r stori