
Yn ystod y ddau ddegawd diwethaf, mae Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) Prifysgol Abertawe wedi tyfu i fod yn un o'r darparwyr cyrsiau LLM uchaf eu parch ym maes cyfraith fasnachol, masnach, eiddo deallusol, olew a nwy, a chyfraith forwrol.
Heddiw, ceir graddedigion yr IISTL mewn swyddi allweddol ledled y byd mewn cwmnïau cyfreithiol, y sectorau yswiriant ac ariannol, ac yn y byd masnachol.
Cyfarfu aelodau o’r IISTL â rhai o'u cyn-fyfyrwyr sy'n gweithio yn Llundain mewn digwyddiad gwobrwyo a gynhaliwyd yn Swyddfa HFW yn Llundain. Roedd y digwyddiad yn gyfle i gyn-fyfyrwyr Abertawe gwrdd â'i gilydd, a chwrdd hefyd â nifer o staff addysgu'r IISTL; yr Athrawon Soyer a Tettenborn, a Dr Kurtz-Shefford.
Roedd staff yr IISTL wrth eu boddau'n clywed straeon llwyddiant eu graddedigion, a chlywed am eu cynnydd; roedd yn galonogol clywed bod ganddynt i gyd atgofion melys o Abertawe a'u profiad ar y cwrs LLM. Mae'r IISTL hefyd yn hynod ddiolchgar i HFW am hwyluso'r digwyddiad hwn.