Dewiswyd Lorna Williamson i dderbyn Gwobr Eric McGraw am ei gwaith ar euogfarnau anghyfiawn wrth astudio yn Ysgol y Gyfraith. 

Rhoddir y Wobr, sy’n cael ei hadnabod yn gyffredin fel 'The Eric', i fyfyriwr sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol at achos euogfarnau anghyfiawn. 

Yn ystod ei hamser yn Abertawe, bu Lorna'n gwirfoddoli gyda'r Prosiect Camweinyddiad Cyfiawnder a arweinir gan y brifysgol, sy'n adolygu achosion sydd wedi mynd drwy bob proses apêl arall, ond efallai y ceir rhyw amheuaeth ynghylch diogelwch yr euogfarnau hyn. 

Cyflwynir y Wobr gan Inside Justice, sy'n cyfeirio achosion posib at sylw’r Prosiect Camweinyddiad Cyfiawnder yn Abertawe, sy'n golygu y bu Lorna'n cystadlu yn erbyn myfyrwyr ledled y DU. 

Roedd yr argymhelliad dros ddyfarnu’r Wobr i Lorna'n darllen fel a ganlyn:  

Ystyriodd y tri aelod panel yn ofalus yr holl enwebiadau rhagorol ar gyfer gwobr ERIC 2022 gan ddod i'r un casgliad yn annibynnol y dylai'r wobr fynd i Lorna Williamson, myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe. Yn gyffredinol, roedd ei brwdfrydedd, ei hymrwymiad, ei hymchwil a'i sgiliau dadansoddi yn gwneud iddi sefyll ben ac ysgwyddau uwchlaw'r enwebiadau eraill.

Yn siarad am gyflawniad Lorna, meddai'r Athro Richard Owen, Cyfarwyddwr Clinig y Gyfraith Abertawe ac arweinydd y Prosiect Camweinyddiad Cyfiawnder: 

"Dyma gydnabyddiaeth wych a chwbl haeddiannol i Lorna. Roedd ei gwaith ar y Prosiect Camweinyddiad Cyfiawnder yn rhagorol, y gorau rwyf erioed wedi'i weld". 

Wrth dderbyn ei gwobr, roedd gan Lorna hyn i'w ddweud: 

“Roedd hi’n anrhydedd cael clywed mai fi fyddai’r person cyntaf i dderbyn y wobr hon! Diolch i Richard ac Eve am eu holl gymorth yng Nghlinig y Gyfraith. Mae cyngor pro-bono yn rhan hollbwysig o alluogi cyfiawnder i fod yn hygyrch i’r holl gymuned heb ystyried statws economaidd. Rwy’n gobeithio y bydd y clinig yn gallu ehangu ymhellach a helpu mwy o ddinasyddion mewn angen yn y dyfodol."

Ar ôl derbyn y wobr, gwnaeth Lorna hefyd benderfynu’n garedig iawn i roi’r arian i Glinig y Gyfraith Abertawe er mwyn hyrwyddo’r ymgyrch o gynnig mynediad at gyfiawnder ymhellach.

Rhannu'r stori