Mae paratoi myfyrwyr ar gyfer bywyd ar ôl eu gradd a gwella eu rhagolygon yn flaenoriaeth fawr yn Abertawe.

Drwy gysylltiadau'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnachu Rhyngwladol â byd diwydiant, trefnwyd taith addysgol i Lundain ar gyfer myfyrwyr LLM.

O ganlyniad i'r daith, roedd modd iddynt ddysgu am waith Clybiau Diogelu ac Indemnio, mewn sesiynau a gyflwynwyd gan Grŵp Rhyngwladol Clybiau Diogelu ac Indemnio, a gynhaliwyd gan Glybiau Diogelu ac Indemnio y Steamship Mutual a'r Standard. Hefyd, cawsant gyfle i siarad â chyn-fyfyrwyr Abertawe ac uwch-aelodau cwmni Steamship Mutual, gan feithrin cysylltiadau defnyddiol ar gyfer y dyfodol.

Rhannu'r stori