Yn ddiweddar, bu arweinwyr Cymuned Galwad Christchurch yn cymryd rhan yn nhrydedd Uwchgynhadledd yr Arweinwyr yn Efrog Newydd, a lle cynrychiolwyd Canolfan Ymchwil i Seiberfygythiadau (CYTREC) Ysgol y Gyfraith gan Dr Katy Vaughan, sy'n gyd-gadeirydd interim Rhwydwaith Cynghori'r Alwad.

Crëwyd Galwad Christchurch gan Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, a Phrif Weinidog Aotearoa Seland Newydd, Jacinda Ardern, yn 2019, ar ôl ymosodiad Christchurch, a'i nod yw "mynd i'r afael â therfysgaeth a chynnwys eithafol treisgar ar-lein", wrth sicrhau hyrwyddo a diogelu hawliau dynol a rhyngrwyd agored, am ddim a diogel.

Rhwydwaith Cynghori Galwad Christchurch (CCAN) yw adain cymdeithas sifil yr Alwad. Mae CCAN yn cynnwys sefydliadau nid er elw ac unigolion o'r gymdeithas sifil, y byd academaidd a'r gymuned dechnegol. Mae CCAN yn canolbwyntio ar ddiogelu hawliau dynol, tryloywder, atebolrwydd a lleihau niwed ar-lein, ac mae'n darparu cyngor arbenigol i'r Alwad, sy'n gyson â chyfraith hawliau dynol ryngwladol.  Dyma ble mae cyfraniad CYTREC a Dr Vaughan yn hollbwysig, fel aelod allweddol a chyd-gadeirydd y Rhwydwaith Cynghori.

Roedd 8 arweinydd gwlad yn bresennol yn Uwchgynhadledd yr Arweinwyr eleni, gan gynnwys Prif Weinidog Aotearoa Seland Newydd Jacinda Ardern, Arlywydd Ffrainc Emmanuel Macron, Brenin Abdullah II yr Iorddonen, a Phrif Weinidog Canada Justin Trudeau, gydag arweinwyr o'r diwydiant technoleg gan gynnwys Meta, Amazon, Twitter, Microsoft, Google, Daily Motion a Mega'n gwmni iddynt.

Roedd y drafodaeth yn yr Uwchgynhadledd yn ddi-flewyn ar dafod ac yn agored gydag arweinwyr y byd yn galw ar y cwmnïau technoleg i wneud mwy o gynnydd tuag at ddileu trais, cynnwys sy’n ysgogi terfysgaeth, yn enwedig yn sgîl llofruddiaeth dorfol a ysgogwyd gan hiliaeth yn Buffalo yn ddiweddar, a gafodd ei hysbrydoli gan gynnwys ar-lein a’i ffrydio’n ar y platfform Twitch.

Trafodwyd hefyd ddiogelu democratiaethau gydag arweinwyr y byd gan nodi'n benodol lefel y dwyllwybodaeth a'r bygythiadau i ddemocratiaeth sy'n deillio o ddiffyg gweithredu gan gwmnïau technoleg wrth fynd i'r afael â bygythiadau mewn ieithoedd nad ydynt yn rhai Saesneg.  Cafodd preifatrwydd a diffyg mynediad at ddata am yr algorithmau sy'n dylanwadu ar ymddygiad defnyddwyr hefyd eu hamlygu, gyda'r Prif Weinidog Ardern yn cyhoeddi menter newydd a arweinir gan Seland Newydd, yr UD a Twitter i wneud data ar gael i'w astudio. Roedd cyhoeddiadau pwysig eraill yn cynnwys mwy o gyllid i Fforwm y Rhyngrwyd Byd-eang i Atal Terfysgaeth (GIFCT) a Thechnoleg yn erbyn Terfysgaeth i gefnogi ymhellach ddatblygiad eu Platfform Dadansoddi Cynnwys Terfysgol (TCAP).

Yn siarad am gyfraniad Abertawe yng Ngalwad Christchurch ac Uwchgynhadledd yr Arweinwyr, meddai Dr Katy Vaughan:

"Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio gyda'r Rhwydwaith Cynghori, fel rhan bwysig o gymuned aml-randdeiliad Galwad Christchurch, i fynd i'r afael â'r materion pwysig hyn. Mae'n hanfodol ymateb i gynnwys terfysgol ac eithafol a threisgar ar-lein mewn ffordd sy'n gyson â'r gyfraith a chyfraith hawliau dynol ryngwladol, ac mewn ffordd sy'n diwallu anghenion y cymunedau mae hyn yn effeithio arnyn nhw".

Rhannu'r stori