Yn ddiweddar, bu myfyrwyr y Gyfraith Connah Snape, Megan Croombs, Matthew Baker, Ruth Evans a Ryan Johnson yn mwynhau diwrnod diddorol yn Lincoln’s Inn. Llundain.

Mae Lincoln's Inn yn un o bedwar Ysbyty'r Frawdlys yn Llundain lle mae bargyfreithwyr Cymru a Lloegr yn perthyn a lle maent yn cael eu galw i'r Bar.Mae Lincoln's Inn, ynghyd â thri Ysbyty'r Frawdlys arall, yn cael ei gydnabod fel un o'r cyrff proffesiynol o fri ar gyfer barnwyr a chyfreithwyr.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys sgyrsiau, cyfleoedd i rwydweithio a phryd tri chwrs. Roedd y myfyrwyr yn gallu siarad â phobl o broffesiynau cyfreithiol gwahanol yn ogystal â myfyrwyr eraill tebyg o brifysgolion eraill, a chawson nhw’r cyfle i siarad yn bersonol â bargyfreithwyr, barnwyr a hyd yn oed Jonathon Crow CF, Trysorydd Lincoln's Inn.

Yn siarad am y cyfle, dyma a oedd gan y myfyrwyr i'w ddweud:

"Roedd hyn yn ddefnyddiol iawn, oherwydd roedd ein sgyrsiau'n amrywio o hanesion a chyngor o'r byd go iawn i ni fel pobl sydd am ddilyn gyrfa yn y Bar. Cawsom olwg realistig o natur gystadleuol gyrfa bargyfreithiwr, gan gynnwys cwrs y Bar a chael tymor prawf.

Mae'r cyfle hwn yn ein galluogi i wella ein gwybodaeth am y pwnc a'n hysgogi ymhellach tuag at ein nodau. Hefyd, roedd hwn yn ddigwyddiad anhygoel cael mynd iddo, ac rydym oll yn gobeithio parhau i fynd i bethau fel hyn yn y dyfodol".

Rhannu'r stori