
Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Llundain ar 13 Hydref, a chafodd aelodau o dîm SW4NSE4 CYB3R, Louise Wilson a Florence King, gwmni Dr Kris Stoddart a gefnogodd eu taith i'r rownd derfynol.
Mae Cyber 9/12 yn gystadleuaeth polisi a strategaeth seiber, sy'n cynnwys myfyrwyr o bedwar ban byd yn cystadlu i ddatblygu argymhellion polisi i fynd i'r afael â thrychineb seiber ffug. Dyma'r unig gystadleuaeth o'i bath yn y byd, a'i nod yw meithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol ym maes seiberddiogelwch.
Mae'r gystadleuaeth yn y DU yn un o 14 cystadleuaeth Cyber 9/12 a gynhelir o gwmpas y byd dan gyfarwyddyd yr Atlantic Council, sef melin drafod flaenllaw yn UDA.
Dyma gyfle gwych i fyfyrwyr MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth, sy'n gallu profi eu sgiliau a'u gwybodaeth mewn senario bywyd go iawn. Cynhelir y gystadleuaeth nesaf ym mis Chwefror 2023, a gobaith Dr Stoddart yw arwain tîm llwyddiannus arall.
Gan siarad am dîm SW4NSE4 CYBR3 yn cyrraedd y rownd derfynol, meddai Dr Kris Stoddart:
"Roeddwn i'n falch iawn o arwain ein myfyrwyr i rownd derfynol Cyber 9/12. Mae'n gystadleuaeth sy'n gystadleuol dros ben ac yn bwysig wrth inni geisio datblygu ein sylfaen seiberddiogelwch a cheisio nodi a meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr."