
Mae Alecia Spence wedi'i henwebu ar gyfer Gwobr LawWorks a Pro Bono i Fyfyrwyr gan yr Atwrnai Cyffredinol am y 'Cyfraniad Gorau gan Fyfyriwr Unigol'.
Mae'r Gwobrau, a gynhelir gan LawWorks, gyda chefnogaeth yr Atwrnai Cyffredinol, y Gwir Anrhydeddus Suella Braverman CF AS, yn cydnabod ac yn dathlu gwaith pro bono rhagorol a wnaed gan ysgolion y gyfraith a myfyrwyr y gyfraith ar draws y DU.
Cafodd Alecia ei henwebu gan yr Athro Richard Owen, Cyfarwyddwr Clinig y Gyfraith Abertawe, am ei gwaith gyda'r Clinig, ac mae wedi cael ei gwahodd i fynychu seremoni yn Nhŷ'r Arglwyddi ym mis Mai eleni, lle cyhoeddir enillwyr y wobr.
Yn siarad am ei henwebiad, meddai'r Athro Owen:
"Mae Alecia wedi dangos ymrwymiad enfawr i Glinig y Gyfraith. Mae wedi gwirfoddoli yn ystod pob blwyddyn o'i hastudiaethau ac mae wedi gwneud cyfraniadau arbennig i Fwrdd Myfyrwyr y Clinig. Mae ei chyfraniad at ofal cleientiaid sy'n byw gyda gwendidau, yn benodol, wedi bod heb ei ail, yn ogystal â dangos arloesedd, ac mae'n gwbl haeddiannol o'r gydnabyddiaeth genedlaethol hon".
Mae'r enwebiad diweddaraf hwn yn adeiladu ar lwyddiannau diweddar Clinig y Gyfraith, a'i fyfyrwyr, yng Ngwobrau Pro Bono LawWorks, a hefyd Wobrau Myfyrwyr LawWorks ac Atwrnai Cyffredinol, gyda myfyrwyr Clinig y Gyfraith Isabel a Tahmid sydd wedi ennill yr un wobr am roi dros 750 awr o'u hamser i'r Clinig.
Mae Clinig y Gyfraith yn cynnig cyngor cychwynnol am ddim am broblemau cyfreithiol gan roi'r cyfle i fyfyrwyr y gyfraith yn Abertawe'r weithio gyda chyfreithwyr sy'n ymarfer i gynghori cleientiaid go iawn, gan gynnig gwasanaeth amhrisiadwy i'r gymuned leol.
Gallwch gael mwy o wybodaeth am y gwaith a wneir yng Nghlinig y Gyfraith Abertawe.