
Mae Prifysgol Abertawe'n cynnig ystod o raglenni LLM mewn Cyfraith Llongau a Masnach sy’n cwmpasu meysydd arbenigol cyfraith forwrol, fasnachol, masnach ac ynni.
Yn yr Arolwg Profiad Myfyrwyr Ôl-raddedig a Addysgir (PGTSES) diweddar am flwyddyn academaidd 21/22, derbyniodd yr adran ganlyniadau rhagorol.
Mae'r PGTSES yn seiliedig ar gyfres o arolygon a ddosberthir i fyfyrwyr ar draws pob lefel astudio er mwyn dysgu mwy am eu profiadau fel myfyrwyr, sydd wedyn yn helpu i wella’r dysgu ac addysgu yn Abertawe. Arolwg mewnol ydyw sy’n rhestru pynciau yn ôl deg metrig gwahanol, a derbyniodd Cyfraith Llongau a Masnach Abertawe y canlyniadau canlynol:
- 100% ar gyfer Boddhad Cyffredinol
- 98% ar gyfer Addysgu
- 98% ar gyfer Cyfleoedd Dysgu
- 97% ar gyfer Cymorth Academaidd
- 96% ar gyfer Trefnu a Rheoli
- 94% ar gyfer Asesu ac Adborth
- 93% ar gyfer Adnoddau Dysgu
- 90% ar gyfer Sgiliau a Thraethawd Estynedig
- 88% ar gyfer Llais Myfyrwyr
- 85% ar gyfer y Gymuned Ddysgu
Mae’r rhain yn welliannau sylweddol i’r adran; er ei bod wedi derbyn canlyniadau uchel yn gyson mewn perthynas â hyn, y mae dal wedi llwyddo i wella ar bob un metrig a restrir yn PGTSES eleni.
Wrth siarad am y canlyniadau hyn, meddai’r Cyfarwyddwr Cyfraith Llongau a Masnach ym Mhrifysgol Abertawe, yr Athro Barış Sover:
"Ein nod yw cynnig addysg gyfreithiol gyfredol i’n myfyrwyr, a ddarperir gan gydweithwyr sy’n flaengar yn eu meysydd. Eleni, cafodd rhan helaeth o’n cwricwlwm ei haddysgu wyneb yn wyneb er gwaethaf y pandemig sy’n parhau, a darparwyd gweithgareddau allgyrsiol amrywiol, megis ffug lysoedd barn a theithiau addysgol.
"Mae gweld bod ein myfyrwyr wedi mwynhau eu hamser gyda ni yma yn Abertawe yn rhoi boddhad mawr”. Mae eu hadborth yn werthfawr iawn a byddwn yn gwneud ein gorau i gynnig addysg ôl-raddedig sy’n addas ar gyfer gofynion yr 21fed ganrif”.
Darganfyddwch fwy am raglenni gradd LLM Cyfraith Llongau a Masnach ym Mhrifysgol Abertawe