Mae carfan gyntaf llawn Rhaglen Gradd Ddeuol Trent-Abertawe wedi graddio'n ddiweddar o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, ac mae pump o'r un ar bymtheg o fyfyrwyr wedi graddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf.

Drwy bartneriaeth Trent-Abertawe, mae Abertawe'n cynnig gradd ddeuol a fydd yn arwain at radd Baglor yn y Celfyddydau (BA) neu radd Baglor Gweinyddu Busnes (BBA) gan Trent, a gradd y Gyfraith Anrhydedd Sengl (LLB) gan Ysgol y Gyfraith Abertawe. Mae'r bartneriaeth yn rhoi cyfle i fyfyrwyr gyflawni'r ddwy radd mewn chwe blynedd yn hytrach na'r saith mlynedd arferol (mae graddau israddedig yng Nghanada fel arfer yn bedair blynedd o hyd).

Mae myfyrwyr ar y rhaglen yn treulio'r ddwy flynedd gyntaf yn Trent, yna'n teithio i Abertawe i gwblhau eu gradd LLB tair blynedd, cyn dychwelyd i Trent am eu chweched flwyddyn, sef yr un olaf, i gwblhau’r ail radd a gyflawnir drwy'r rhaglen hon. Mae'r chweched flwyddyn yn Trent hefyd yn ymroddedig i addysgu ar gyfer yr arholiadau cyfwerthedd y bydd angen iddynt lwyddo ynddynt i gael eu cydnabod yn broffesiynol yng Nghanada.

Dau o raddedigion y Rhaglen Gradd Ddeuol a fu'n arbennig o lwyddiannus oedd Alexis Rudat a Victoria Smith, y mae'r ddwy ohonynt wedi ennill gradd anrhydedd dosbarth cyntaf.

Dyfarnwyd Gwobr y Gyfraith Oxford University Press i Alexis am y Cyflawniad Gorau yn ei seremoni raddio am berfformio'n well na phob myfyriwr arall yn holl garfan y gyfraith. Rhagorodd Victoria hefyd, gan raddio ymhlith 10% uchaf ei grŵp blwyddyn.

Mae'r canlyniadau diweddaraf hyn yn adeiladu ar y llwyddiannau sydd eisoes wedi'u cyflawni yn y Rhaglen Gradd Ddeuol - Shelby Hayes oedd y myfyriwr cyntaf i raddio o'r rhaglen yn 2020, gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf hefyd. Mae'r Ysgol yn gobeithio y bydd y gyfres hon o ganlyniadau gwych gan bartneriaeth Trent-Abertawe yn parhau; mae tua 30 o fyfyrwyr ar fin ymuno â'r Ysgol o Trent ym mis Medi 2022.

Yn siarad am ei hamser yn Abertawe, meddai Alexis:

“Fel myfyriwr o Ganada ar Raglen Gradd Ddeuol Trent/Abertawe a gynigir drwy Brifysgol Trent, mae Prifysgol Abertawe wedi teimlo fel cartref oddi cartref.

"Rwyf wedi gwireddu breuddwyd i dderbyn fy addysg gyfreithiol yn y ddinas arfordirol hyfryd hon. Rwyf wrth fy modd bod y ddau gampws ger y môr gan fod rhywbeth hamddenol a therapiwtig am ymgymryd â'ch astudiaethau ger corff o ddŵr.  Os ydych am astudio'r gyfraith mewn lleoliad godidog lle gallwch deithio'n lleol a thramor yn ogystal â chael cymuned gefnogol a chynhwysol o'ch amgylch, byddwn i’n bendant yn argymell astudio yma yn Abertawe.”

Wrth siarad am Raglen Gradd Ddeuol Trent-Abertawe, meddai Victoria:

Cefais y profiad mwyaf anhygoel yn astudio yn Abertawe. Fel myfyriwr rhyngwladol, roeddwn yn teimlo'n hollol gartrefol. Mae'r bobl mor garedig a chroesawgar ac mae'n ddinas hyfryd, fel cartref oddi cartref. Rwyf mor ddiolchgar am y cyfle i fynd dramor a dysgu am system gyfreithiol wahanol, ac yna fynd â'r wybodaeth hon yn ôl i Ganada i'w defnyddio yn fy ngyrfa yn y dyfodol fel cyfreithiwr.  Mae holl staff Ysgol y Gyfraith yn wych, nid oeddwn byth yn teimlo ar fy mhen fy hun a neb i droi ato am gymorth. Byddaf bob amser yn ddiolchgar i Abertawe a phopeth a gefais o'r profiad hwn - cwrdd â ffrindiau newydd, gallu archwilio'r DU ond hefyd lawer o Ewrop, cael addysg arbennig a chysylltiadau rhagorol ymhlith staff Ysgol y Gyfraith sydd wedi cynnig cymorth i mi ar gyfer y dyfodol.  

Rhagor o wybodaeth am raglen Gradd Ddeuol Trent-Abertawe.

Rhannu'r stori