Mae Hannaford Turner LLP yn gwmni deinamig sy'n tyfu ac sy'n arbenigo mewn llongau, asedau a nwyddau.

Mae'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) yn falch iawn eu bod wedi dewis cyflwyno gwobr i'r myfyriwr gorau ym modiwl Cyllid Llongau ac Asedau Symudol Eraill Prifysgol Abertawe.

Yn ogystal â gwobr ariannol, mae'r wobr hon hefyd yn rhoi cipolwg amhrisiadwy i'r myfyriwr buddugol ar y maes ymarfer arbenigol a chyffrous hwn drwy interniaeth yn swyddfeydd y cwmni yn Llundain.

Yr enillydd eleni oedd Edmundo Deville del Aguila. Cyflwynwyd y wobr i Edmundo yn Llundain gan bartner sefydlol y cwmni, Mr Matt Hannaford, mewn cinio a gynhaliwyd gan y cwmni.

Wrth siarad ar ôl y cinio, dywedodd Cyfarwyddwr yr IISTL, yr Athro Soyer:

"Mae'r IISTL yn hynod ddiolchgar am gefnogaeth a haelioni parhaus Hannaford Turner. Mae hwn yn gwmni cyfreithiol arbenigol blaengar a does gennym ni ddim amheuaeth bod y Wobr a'r interniaeth sy'n gysylltiedig ag ef yn gyfle gwych i Edmundo fynd â'i yrfa broffesiynol i lefel wahanol."

Rhannu'r stori