
Mae Bloomfield LLP yn gwmni cyfreithiol sy’n arbenigo mewn cyfraith fasnachol a datrys anghydfodau yn Nigeria â sawl cysylltiad rhyngwladol.
Bedair blynedd yn ôl, ymrwymodd Ysgol y Gyfraith yn Abertawe i gytundeb gyda Bloomfield i lansio Gwobr flynyddol a chyfle interniaeth ar gyfer y myfyriwr LLM gorau o Nigeria ym maes cyfraith fasnachol, forwrol, eiddo deallusol ac olew/ nwy.
Eleni, Agnes Omada Audu yw enillydd y wobr. Graddiodd Agnes o Brifysgol Talaith Benue ac mae ganddi radd meistr o Brifysgol Lagos. Mae hi wedi cofrestru ar ein cwrs LLM mewn eiddo deallusol, arloesi a'r gyfraith ar hyn o bryd a disgwylir iddi gwblhau'r cwrs ym mis Tachwedd.
Cyflwynwyd y wobr i Agnes gan Alison Perry (Pennaeth Ysgol y Gyfraith) ac Adedoyin Afun. Mae Mr Afun, sydd hefyd yn meddu ar radd LLM o Abertawe, yn bartner yn y cwmni ac yn gyfreithiwr masnachol o fri. Yn ystod y seremoni, canmolodd Mr Afun yr addysg gyfreithiol a gynigir yn Abertawe a nododd y bydd Agnes yn cael cynnig interniaeth yn eu swyddfa yn Lagos i gysgodi sawl partner o fis Tachwedd ymlaen.