
Mae'r Sefydliad Cyfraith Morgludiant a Masnach Ryngwladol (IISTL) wedi cynnal digwyddiad ar y cyd â Choleg y Brifysgol Llundain (UCL), a wnaeth ganolbwyntio ar Forgludiant Awtonomaidd.
Y prif nod oedd adeiladu ar lwyddiant y digwyddiad cydweithredol cyntaf a gynhaliwyd yn 2021, drwy ystyried agweddau cyfraith gyhoeddus ryngwladol morgludiant awtonomaidd.
Yn ychwanegol at siaradwyr o’r IISTL, yr Athro Simon Baughen, Dr Youri van Logchem a Dr Zoumpoulia (Lia) Amaxilati, cyflwynodd y siaradwyr canlynol bapurau diddorol:
- Frederick Kenney (Cyfarwyddwr, Adran Materion Cyfreithiol a Chysylltiadau Allanol, IMO),
- Luci Carey(Prifysgol Caeredin),
- Dr Melis Ozdel (UCL),
- Cdr Caroline Tuckett RN (gwasanaethau cyfreithiol y llynges), a
- Tom Walters(HFW, Partner).
Denodd y digwyddiad gynrychiolwyr o'r DU a thramor ac roedd yn gyfle gwych i drafod materion cyfreithiol diddorol gan gynnwys y broses o ddiwygio Confensiynau'r IMO, gwneud diwygiadau angenrheidiol i UNCLOS a deddfwriaeth forgludiant berthnasol yn y DU.
Yn siarad ar ôl y digwyddiad, diolchodd yr Athro Soyer, Cyfarwyddwr yr IISTL, i'r cynrychiolwyr a'r siaradwyr am eu cyfraniad amhrisiadwy a nododd fod yr IISTL wrthi'n gwneud trefniadau am gydweithio pellach â chydweithwyr o UCL a sefydliadau academaidd eraill.