Dyfarnwyd grant gwerth bron £40,000 i Glinig y Gyfraith Abertawe gan Raglen Cymorth Cymunedol Cydgysylltiedig (CCS) Cymdeithas y Plant.

Bydd y grant yn galluogi Clinig y Gyfraith Abertawe i arwain prosiect peilot blwyddyn o hyd i weithredu system gyfeirio ar-lein i asiantaethau cyngor yn ardal Abertawe ei defnyddio.

Drwy gyflwyno a defnyddio system gyfeirio ar-lein, y gobaith yw y byddwn yn hyrwyddo gweithio ar y cyd, ymysg asiantaethau cyngor lleol, yn ogystal â gwella taith y cleient, drwy symleiddio cyfeiriadau rhwng asiantaethau.Bydd y gwaith yn cefnogi cryfhau rhwydweithiau lleol ac ymgysylltu cymunedol â phartneriaid gan gynnwys lleoliadau addysg, banciau bwyd a mannau cymunedol eraill si'n cefnogi pobl sy'n wynebu argyfwng.

Nod y Rhaglen Cymorth Cymunedol Cydgysylltiedig  yw gwella ymwybyddiaeth o gymorth sydd ar gael i unigolion a theuluoedd sy'n wynebu argyfwng, a gwella ei gydlyniant a mynediad ato.

Mae Abertawe'n un o bedwar safle peilot y rhaglen, a bydd y tîm CCS yn cefnogi'r prosiect peilot hwn, yn ogystal â hwyluso mynediad i safleoedd peilot eraill ar gyfer datblygu cyfoedion a dysgu gan eu profiadau.

Yn siarad am y dyfarniad, meddai Cyfarwyddwr Clinig y Gyfraith Abertawe, Richard Owen:

"Rydym yn falch o fod yn gweithio ar yr ap hwn, a fydd yn gwella cyfathrebu rhwng asiantaethau cyngor yn ardaloedd awdurdod lleol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Bydd hyn yn gwneud bywyd yn llawer haws i gleientiaid pan fydd angen eu cyfeirio o un asiantaeth i un arall a bydd yn arwain at fynd i'r afael â'u hanghenion cyngor yn gyflymach."

Rhannu'r stori