Dadlau mewn ffug lys barn yn Abertawe
Mae dadlau mewn ffug lys barn yn ffordd wych i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu, ymchwil a datrys problemau. Ceir cyfleoedd i’n myfyrwyr gymryd rhan yn y llu o gystadlaethau drwy gydol y flwyddyn.
Mae dadlau mewn ffug lys barn yn ffordd wych i ddatblygu eich sgiliau cyfathrebu, ymchwil a datrys problemau. Ceir cyfleoedd i’n myfyrwyr gymryd rhan yn y llu o gystadlaethau drwy gydol y flwyddyn.
2018/2019
Dyma flwyddyn gyntaf y Gystadleuaeth Dadlau mewn Ffug Lys Barn y Flwyddyn Gyntaf hon, ac o’r herwydd, yn anochel, roedd yn cynnwys fframwaith nad oedd eto wedi’i brofi a allai fynd yn gwbl anghywir.Yn ffodus, ni aeth o’i le, ac mae hynny i raddau helaeth oherwydd ymrwymiad darlithwyr Ysgol y Gyfraith a fu’n ymateb i nifer o e-byst yn gofyn iddynt roi o’u hamser o amserlen a oedd eisoes yn brysur i feirniadu yn ystod camau amrywiol y gystadleuaeth.
Roedd pedwar nod i’r gystadleuaeth, ac roedd yn targedu pedair prif egwyddor y gystadleuaeth:
Y myfyriwr oedd yn rheoli yn ystod y rownd hon, a oedd yn rhoi elfen o hyder iddo a’i alluogi i ddangos ei sgiliau dadlau mewn amgylchedd diogel.
Roedd y gystadleuaeth ei hun yn llwyddiant am i’r holl fyfyrwyr a orffennodd y broses hir ddangos gwelliant yn eu sgiliau, a dros y chwe rownd, roedd pum prif sgoriwr gwahanol ym mhob rownd. Dyma’r rowndiau:
Rownd | Pwnc | Penodol | Prif Sgoriwr | Marc |
---|---|---|---|---|
Rownd 1 | Hunan-ddewis | Sophie-May Lewis | 28/30 | |
Rownd 2 | Cyfraith Contract | Cynnig a Derbyn | Dora Velenczei | 84/100 |
Rownd 3 | Cyfraith Camweddau | Esgeulustod | Mari Watkins | 84/100 |
Rownd 4 | Cyfraith yr UE | Symudiad rhydd nwyddau | Mari Watkins | 86/100 |
Rownd 5 | Cyfraith Gyhoeddus | Adolygiad Barnwrol | William Housley | 84/100 |
Rownd 6 | Cyfraith Gyhoeddus | Adolygiad Barnwrol | Mohab Bosila | 87/100 |
Mewn seremoni wobrwyo, cyhoeddwyd yr enillwyr gan yr Athro Alison Perry, Cyd-bennaeth yr Adran. Dyfarnwyd gwobrau i’r pum prif sgoriwr yn y gystadleuaeth, a dyma nhw:
Llongyfarchiadau i bob un a gymerodd ran, a gobeithio eich bod wedi elwa ar y profiad. Ar y cyfan, croesawyd y gystadleuaeth hon gan y myfyrwyr, ac rwy’n edrych ymlaen at ei chynnal unwaith eto yn 2019/2020 – gobeithio y bydd y myfyrwyr a gystadlodd eleni’n dychwelyd i feirniadu!
Diolch yn benodol i’r rhai hynny a roddodd o’u hamser i feirniadu – o blith y staff a’r myfyrwyr. Ni fyddai wedi bod yn bosibl heboch chi.
Cadwch lygad am ddiweddariadau ynghylch ein Huwch-gystadleuaeth Dadlau mewn Ffug Lys Barn!
Trosolwg
Rwy’n ddyledus i gydweithiwr roeddwn yn siarad ag ef ym mis Medi 2018, a ofynnodd a oeddem ni wedi cyflwyno myfyrwyr i’r Gystadleuaeth Llysddadleuwyr y Flwyddyn.“Na,” atebais, “Dwi heb glywed amdani.”Rhoddodd eu manylion cyswllt i mi a chofrestrais, cyn darllen y rheolau a sylwi bod angen pedwar myfyriwr arnom i gyflwyno tîm. Yn ffodus, mae Cymdeithas Bar Myfyrwyr Abertawe wedi bod yn nwylo medrus ei Llywydd, Chris Brain, ac roedd yn fwy na hapus i helpu o ran recriwtio. Mwy am hynny wedyn.
I ddechrau, beth yw’r gystadleuaeth? n y bôn, ceir cystadlaethau rhanbarthol bach, gyda phedwar tîm ym mhob rhanbarth. Caerdydd, Bryste, Caerwysg ac Abertawe oedd yn ein rhanbarth ni, a chynhaliwyd y digwyddiad gan BPP Bryste. Mae’r diwrnod yn cynnwys dau dreial - un treial sifil ac un troseddol ac ym mhob un mae'r tîm yn cynrychioli'r naill ai Hawliwr neu'r Atebydd a naill ai’r Erlyniaeth neu'r Diffynnydd. Yn y treial troseddol, mae’n rhaid i bob aelod wneud un gynhadledd, blaen holiad, croesholiad, a chyflwyno ar ddarn o dystiolaeth. Yn y treial sifil, mae’n rhaid i bob aelod wneud un gynhadledd, blaen holiad, croesholiad ac araith i gloi. Ni all unrhyw aelod o’r tîm wneud yr un sgil ddwywaith, ac mae’n rhaid i bob aelod o’r tîm wneud un o’r sgiliau trin y tyst.
Deall? Ddim yn llwyr! Mae cyfanswm sgoriau pob tîm yn y ddwy rownd yn penderfynu pa dîm sy’n ennill y gystadleuaeth ranbarthol. Fodd bynnag, y deuddeg prif unigolyn o bob rhanbarth yn unig sy’n cyrraedd y rownd derfynol genedlaethol, a gynhaliwyd eleni yn yr Old Bailey. Mae’n rhaid iddynt gystadlu mewn dau dreial, ond cymryd rhan ym mhob un o’r sgiliau unwaith yn unig y tro hwn. Mae’r tri myfyriwr gorau yn ennill gwobrau, gan gynnwys ysgoloriaeth i BPP ar gyfer y BPTC.
A dyna ‘ny...
2018/2019
Fel y rhan fwyaf o gystadlaethau, dyma’r tro cyntaf roedd Abertawe wedi cystadlu, ac ar ôl proses fewnol a drefnwyd gan Gymdeithas Bar y Myfyrwyr, y pedwar myfyriwr a ddewiswyd oedd Meryl Hanmer (GDL), Caryl Thomas (GDL), Lewis Morgan (Blwyddyn Gyntaf), a Rhys Allen (Blwyddyn Gyntaf).Nid oedd gan yr un ohonynt sgiliau trin tystion, ac roedd pob un ohonynt yn ei flwyddyn gyntaf o astudiaethau’r Gyfraith. Eto’i gyd, gwnaethant fynd ati yn barod i ddysgu ac yn benderfynol o ddatblygu eu sgiliau cyfreithiol.
Roedd y sefyllfaoedd yn y rowndiau rhanbarthol yn cynnwys ymosodiad honedig yn ystod cynnal gwasanaeth mewn bwyty, ac anaf personol a achoswyd gan esgeulustod honedig (gyda'r Hawlydd yn honni ei fod wedi syrthio oddi ar dŵr yr eglwys!) Roeddent y tu allan i’r hyn roedd y myfyrwyr yn teimlo’n gyfforddus yn ei drafod i raddau helaeth, ond gwnaethant rannu'r rolau a thaflu eu hunain i’r gwaith o baratoi, gan feistroli sgiliau angenrheidiol gan gynnwys pwysigrwydd gofyn cwestiynau arweiniol wrth groesholi, a pheidio byth â gofyn cwestiynau arweiniol yn y blaen holiad.
Ar y diwrnod, gwnaeth pob un ohonynt gytuno eu bod yn dwlu ar y profiad, ac roedd yn ddefnyddiol i gael adborth gan y beirniaid a oedd i gyd yn ymarferwyr profiadol. Gwnaethant ‘ennill’ y ddau dreial yn ôl eu teilyngdod ac roeddent mewn hwyliau arbennig. Roeddent yn aros yn bryderus am newyddion y sgoriau oherwydd na chyhoeddwyd y canlyniadau ar y diwrnod. Cafodd y rhain eu cyhoeddi y diwrnod canlynol, ac roeddent wedi gwneud yn wych – daeth Abertawe'n gyntaf yn y rhanbarth, ac roedd Caryl Thomas ymhlith y deuddeg cyfranogwr gorau yn genedlaethol ac yn gymwys ar gyfer y rowndiau cenedlaethol. Roedd pob aelod o’r tîm wrth ei fodd â chyrraedd y brig, yn enwedig o ystyried y diffyg profiad a oedd ganddynt yn y gystadleuaeth.
Dri mis yn ddiweddarach, cynrychiolodd Caryl y Brifysgol yn y rowndiau cenedlaethol, a gynhaliwyd yn yr Old Bailey. Cafodd ei grymuso gan gyngor gan Bennaeth yr Ysgol, yr Athro Elwen Evans CB, a’i hysbrydoli gan hanes a mawredd y Llys Troseddol Canolog. Perfformiodd Caryl yn wych ym mhob un o’r sgiliau, ond cafodd ei chanmol yn arbennig am ei chroesholiad - a oedd wedi’i fireinio’n berffaith dros y misoedd blaenorol. Er na chyrhaeddodd y pedwar uchaf, cafodd adborth ardderchog gan y beirniaid a chael profiad gwych yn y lleoliad mawreddog.
Trosolwg
Mae Cystadleuaeth Ffug Achos Llys Prifysgol Surrey yn ddigwyddiad sydd wedi’i drefnu’n hynod o dda gan Gymdeithas y Gyfraith Prifysgol Surrey. Caiff ei gynnal gan fyfyrwyr, ac mae’r oriau y maen nhw’n eu rhoi i drefnu’r digwyddiad yn amlwg oherwydd y manylder ym mhob rownd. Yna caiff ei gloi gan rownd derfynol, a gynhelir gan Lys y Goron, Kingston ac sy'n cael ei llywyddu gan farnwr lleol.
Mae’r gystadleuaeth yn cynnwys arddangos sgiliau trin tystion ac eiriolaeth ac mae'n ceisio copïo treial troseddol, gyda Phrifysgolion o bob cwr o'r wlad yn cymryd rhan ac yn arddangos eu sgiliau.
2018/2019
Fel yr arfer, dewiswyd cystadleuwyr eleni gan Gymdeithas Bar y Myfyrwyr. Roedd y Llywydd, Chris Brain yn ddiwyd yn ei broses ddethol ac roedd yn gallu newid cyfansoddiad y tîm yn ystod y gystadleuaeth os oedd angen. Roedd y rownd gyntaf, yn erbyn Prifysgol Caerwysg yn cynnwys Louis Elliott (Blwyddyn Gyntaf) a Chris ei hun (Trydedd Flwyddyn) ar ôl i aelod arall o’r tîm orfod tynnu’n ôl. Aethpwyd i’r afael â’r newid hwn yn syfrdanol, a churodd y tîm Caerwysg i fynd ymlaen i’r rownd nesaf.
Roedd fformat ychydig yn wahanol i’r ail rownd, gan mai dim ond y ddau brif sgoriwr fyddai’n mynd ymlaen i’r rownd nesaf o’r timau a oedd yn cymryd rhan. Roedd felly angen ennill yn ogystal ag ennill yn dda er mwyn cyrraedd y rownd derfynol. Rhys Allen (Blwyddyn Gyntaf) a Caryl Thomas (GDL) oedd yn y tîm y tro hwn, a baratôdd achos anodd ar gyfer Diffynnydd ffuglennol a oedd yn cael ei gyhuddo o drais rhywiol. Perfformiodd y ddau’n hynod o dda i gael sgôr o 96/100 i ennill yr achos ffeithiol.
Reading fyddai eu gwrthwynebwyr, trwy dro mewn tynged. Roedd Reading wedi sgorio'r ail nifer uchaf o bwyntiau er iddynt gael eu trechu gan Abertawe yn y rowndiau cynderfynol. I benderfynu p’un ai Louis, Rhys neu Caryl fyddai’n ymddangos yn y rownd derfynol, cynhaliwyd rhagbrofion gan Chris gyda’r tri yn gorfod cyflwyno ple lliniaru. Perfformiodd y tri yn dda dros ben, ond yn y diwedd Rhys a Caryl a ddewiswyd i’r tîm.
Achos y rownd derfynol, a gynhaliwyd gerbron HHJ Plaschkes CB, oedd erlyn Diffynnydd ifanc a oedd wedi’i gyhuddo o feddiant gyda'r bwriad o gyflenwi. Gweithiodd Rhys a Caryl yn galed i ddatblygu dull penodol o gynrychioli’r Erlyniad mewn achosion o’r fath, ac roeddent yn llwyddiannus - gan ennill euogfarn a'r teitl.
Perfformiodd bob un o’r pedwar yn eithriadol o dda a datblygodd eu sgiliau’n fawr dros y flwyddyn.
Trosolwg
Cystadleuaeth Dadlau mewn Ffug Lys Barn Oxford University Press, mewn cydweithrediad ag Inns of Court College of Advocacy, yw un o’r cystadlaethau dadlau mewn ffug lys barn mwyaf mawreddog yng Nghymru a Lloegr. Mae’n denu canran uchel o ysgolion cyfraith ddomestig i gystadlu bob blwyddyn. Mae’r fformat, sef apêl gan ddau gynrychiolydd o Ysgol y Gyfraith yn erbyn dau gynrychiolydd o Ysgol y Gyfraith arall, yn cwmpasu pob maes sy’n ymwneud â’r Gyfraith, a chaiff sefyllfa wahanol ei chreu ar gyfer pob rownd. Fel arfer mae’r gystadleuaeth yn cynnwys cyfanswm o chwech neu saith o rowndiau – yn dibynnu ar nifer y timau sy’n cystadlu.
2018-2019
Caiff cynrychiolwyr y Brifysgol yn y gystadleuaeth hon eu dewis gan aelodau o staff yr Ysgol, yn dilyn proses o gyflwyno cais, ar sail perfformiad eiriolaeth a phrofiad o sgiliau dadlau.Eleni, y tîm o ddau a ddewiswyd oedd Lawrence Thomas (Ail Flwyddyn) a Cal Reid-Hutchings (Trydedd Flwyddyn).
Roedd y broblem yn y rownd gyntaf yn canolbwyntio ar y cwestiwn o ddyletswydd gofal ym maes cyfraith camweddau, yn enwedig o ran rhagdybiaeth o gyfrifoldeb. Rhoddwyd pwyslais penodol ar benderfyniad diweddar yr Uchel Lys o Banca Nazionale del Lavoro SPA v Playboy Club London Ltd ac Eraill [2018] UKSC 43.Cynrychiolodd Lawrence a Cal yr Atebwyr, ac roeddent yn erbyn Ysgol y Gyfraith Caerdydd. Defnyddiwyd daearyddiaeth i ffurfio cynghrair yn ystod y rowndiau cynnar i osgoi gorfod croesi’r wlad!
Ar y diwrnod, perfformiodd Lawrence a Cal yn eithriadol o dda wrth iddynt ymddangos am y tro cyntaf mewn ffug lys barn allanol, a gerbron barnwr yn ymddwyn fel beirniad. Cawsant eu curo o drwch blewyn gan dîm gwych o Gaerdydd, a aeth ymlaen i drydedd rownd y gystadleuaeth. Gwnaeth Lawrence a Cal ill dau ddysgu llawer o’r broses ac maen nhw wedi’u hysbrydoli i barhau â’u heiriolaeth.
Byddwn yn mynd amdani unwaith eto yn y gystadleuaeth yn 2019/2020, ac yn gwahodd myfyrwyr sydd â diddordeb i wneud cais ar ddechrau’r flwyddyn academaidd.
Trosolwg
Mae Cystadleuaeth Dadlau mewn Ffug Lys Barn Siambrau Llys ESU-Essex, mewn cydweithrediad ag Inns of Court College of Advocacy, yn hen gystadleuaeth dadlau mewn ffug lys barn yng Nghymru a Lloegr. Cynhaliwyd y rownd derfynol gyntaf ym 1972. Mae’r gystadleuaeth yn denu canran uchel o ysgolion cyfraith ddomestig bob blwyddyn, ac mae’r gystadleuaeth yn ffyrnig. Mae’r fformat, sef apêl gan ddau gynrychiolydd o Ysgol y Gyfraith yn erbyn dau gynrychiolydd o Ysgol y Gyfraith arall, yn cwmpasu pob maes sy’n ymwneud â’r Gyfraith, a chaiff sefyllfa wahanol ei chreu ar gyfer pob rownd. Fel arfer mae’r gystadleuaeth yn cynnwys cyfanswm o chwech neu saith o rowndiau – yn dibynnu ar nifer y timau sy’n cystadlu.
2018-2019
Caiff cynrychiolwyr y Brifysgol yn y gystadleuaeth hon eu dewis gan aelodau o staff yr Ysgol, yn dilyn proses o gyflwyno cais, ar sail perfformiad eiriolaeth a phrofiad o sgiliau dadlau mewn ffug lys barn. Ymhellach, er mwyn cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n gallu cymryd rhan, nid ydym yn gadael i’r un myfyrwyr gynrychioli’r Brifysgol mewn sawl cystadleuaeth dadlau mewn ffug lys barn mewn blwyddyn. Eleni, y tîm o ddau a ddewiswyd oedd Venus Graces (Statws Uwch Ail Flwyddyn) a Cal Reid-Hutchings (Ail Flwyddyn).
Eleni, roedd y broblem gyntaf yn canolbwyntio ar ddau bwynt gwahanol o apêl. Roedd y cyntaf yn canolbwyntio ar ddifenwi cymeriad ac roedd yr ail yn canolbwyntio ar hawl preifatrwydd, gan fod y ffeithiau'n ymwneud â ‘rhywun enwog’ a oedd wedi bod yn destun ymyrraeth yn y wasg a datgeliadau. Roedd yn achos cymhleth yr oedd angen i’r tîm wneud llawer o waith ymchwil pellach arno. Gwnaethant wneud llawer o waith ychwanegol yn ystod adeg brysur o’r flwyddyn i sicrhau eu bod yn gallu cyflwyno achos cryf.
Ar y diwrnod, cawsant eu canmol gan y beirniad am eu hegni a’u brwdfrydedd, ac yn benodol am eu dadl sgerbwd, gyda'r barnwr yn dweud ei bod yn hoffi eu harddull nhw yn well nag arddull eu gwrthwynebwyr. Fodd bynnag, yn gyffredinol, roedd y beirniad o blaid tîm Caerdydd fymryn yn fwy - yr oedd eu perfformiad yn rhagori ar Abertawe. Aethant ymlaen i gyrraedd trydedd rownd y gystadleuaeth, a llongyfarchiadau enfawr iddynt.
Nododd Yusuf a Venus eu bod wedi elwa’n sylweddol ar y profiad a’i fod wedi gwella eu sgiliau eirioli a’u hyder.
Trosolwg
Siambrau yn Llundain yw Landmark Chambers, sy’n cynnal dwy gystadleuaeth bob blwyddyn a luniwyd i brofi myfyrwyr ar feysydd ymarferol sy’n ganolog i’w gweithrediadau. Mae’r fformat yn broses ddwys, gydag oddeutu 25 o dimau’n cymryd rhan mewn un rownd. Mae gan bob unigolyn 10 munud i ddadlau ei bwynt apêl. Dim ond yr 8 tîm gorau yn y rownd gyntaf sy’n mynd ymlaen i’r rownd gogynderfynol nesaf.
Mae’r gystadleuaeth hefyd yn gyfle i’r myfyrwyr rwydweithio, oherwydd bod y rownd gyntaf yn cael ei chynnal yn eu Siambrau nhw. Mae’n cynnwys dosbarth meistr mewn Cyfraith Eiddo, a sesiwn holi ac ateb a luniwyd i helpu’r myfyrwyr i ddeall y broses o gyflwyno cais am dymor prawf.
2018-2019
Caiff cynrychiolwyr y Brifysgol yn y gystadleuaeth hon eu dewis gan aelodau o staff yr Ysgol, yn dilyn proses o gyflwyno cais, ar sail perfformiad eiriolaeth a phrofiad o sgiliau dadlau mewn ffug lys barn, yn seiliedig ar berfformiad eiriolaeth, profiad o sgiliau dadlau mewn ffug lys barn, a gwybodaeth am gyfraith eiddo, gan fod y sefyllfaoedd dadlau yn aml yn cynnwys pwyntiau cyfreithiol manwl iawn yn y maes hwn. Ymhellach, er mwyn cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n gallu cymryd rhan, nid ydym yn gadael i’r un myfyrwyr gynrychioli’r Brifysgol mewn sawl cystadleuaeth dadlau mewn ffug lys barn mewn blwyddyn. Eleni, y tîm o ddau a ddewiswyd oedd Varaidzo Kamhunga (Trydedd Flwyddyn) a Hannah Hutchison (Trydedd Flwyddyn).
Roedd y broblem ei hun yn cynnwys cwestiwn diddorol am feddiant gwag ac a oedd meddiant wedi'i ildio mewn sefyllfa amwys. Dangosodd Varaidzo a Hannah angerdd a brwdfrydedd eithriadol wrth daflu eu hunain i ymchwil i’r gyfraith a sgiliau eirioli, wrth iddynt feddwl am ffyrdd i gyfleu eu pwynt gydag egni a pherswâd.
Ar y diwrnod, bu’r proffesiynoldeb a’r brwdfrydedd yn werth y drafferth a dyfarnwyd lle iddynt ymhlith yr wyth uchaf. Ni chawsant eu taflu gan gais y barnwr i ganolbwyntio ar un o'u tri phwynt yn unig ac i anwybyddu'r cydbwysedd!
Roeddent am wynebu Bryste yn y rownd gogynderfynol, ac roedd yn rhaid iddynt fynd i’r afael â sefyllfa hyd yn oed yn fwy heriol – dehongli ‘adeilad’ ac ‘eiddo’ yng nghyd-destun achos meddiant. Unwaith eto gwnaethant ymgyfarwyddo â chanllawiau ymarferwyr a chyfraith achos aneglur, i baratoi, unwaith eto, ac ymgolli yn yr her cyn mynd i Brifysgol Bryste.
Daethant o fewn trwch blewyn unwaith eto i ennill, ond mwynhau’r profiad yn fawr serch hynny. Gwnaethant ddysgu llawer o’r broses gan gynnwys y gwahaniaeth rhwng cyfraith tir academaidd ac ymarfer y pwnc! Llongyfarchiadau i’r ddau ohonynt.
Trosolwg
Siambrau yn Llundain yw Landmark Chambers, sy’n cynnal dwy gystadleuaeth bob blwyddyn a luniwyd i brofi myfyrwyr ar feysydd ymarferol sy’n ganolog i’w gweithrediadau. Mae’r fformat yn broses ddwys, gydag oddeutu 25 o dimau’n cymryd rhan mewn un rownd. Mae gan bob unigolyn 10 munud i ddadlau ei bwynt apêl. Dim ond yr 8 tîm gorau yn y rownd gyntaf sy’n mynd ymlaen i’r rownd gogynderfynol nesaf.
Mae’r gystadleuaeth hefyd yn gyfle i’r myfyrwyr rwydweithio, oherwydd bod y rownd gyntaf yn cael ei chynnal yn eu Siambrau nhw. Mae’n cynnwys dosbarth meistr mewn Cyfraith Eiddo, a sesiwn holi ac ateb a luniwyd i helpu’r myfyrwyr i ddeall y broses o gyflwyno cais am dymor prawf.
2018-2019
Caiff cynrychiolwyr y Brifysgol yn y gystadleuaeth hon eu dewis gan aelodau o staff yr Ysgol, yn dilyn proses o gyflwyno cais, ar sail perfformiad eiriolaeth a phrofiad o sgiliau dadlau mewn ffug lys barn a gwybodaeth am gyfraith eiddo, gan fod y sefyllfaoedd dadlau yn aml yn cynnwys pwyntiau cyfreithiol manwl iawn yn y maes hwn. Ymhellach, er mwyn cynyddu nifer y myfyrwyr sy’n gallu cymryd rhan, nid ydym yn gadael i’r un myfyrwyr gynrychioli’r Brifysgol mewn sawl cystadleuaeth ddadlau mewn blwyddyn. Eleni, y tîm o ddau a ddewiswyd oedd Saira Jawaid (Statws Uwch Ail Flwyddyn) a Chris Brain (Trydedd Flwyddyn).
Roedd y broblem ei hun yn canolbwyntio ar benderfyniad Pwyllgor Cynllunio i roi caniatâd i adeiladu fferm wynt yn agos at breswylfa, a phwerau’r perchennog i herio’r penderfyniad yn unol ag Adolygiad Barnwrol. Dyma bwynt hynod dechnegol o’r gyfraith yr oedd angen llawer o feddwl a manylder er mwyn deall y pwyntiau eang a mireinio'r arlliwiau. Gweithiodd Saira a Chris yn galed i fynd i’r afael â’r problemau, a chreu dadleuon meddylgar a bwriadol, wedi'u cefnogi gan ddadleuon sgerbwd cadarn.
Nid oedd eu hymdrechion yn ddigon ar y diwrnod, ac ni wnaethant gyrraedd yr wyth uchaf. Serch hynny, cawsant eu canmol gan y beirniaid am eu hymdrechion, a llewyrchu ymhlith y 24 o dimau a gymerodd ran. Dysgodd Saira a Chris lawer o’r broses, a’i mwynhau.
Trosolwg
Caiff y gystadleuaeth dadlau mewn ffug lys barn cyfraith feddygol ei threfnu gan Dr Tracey Elliott o Brifysgol Caerlŷr, ac mae wedi bod yn fforwm rhagorol i ddadlau a dadansoddi meysydd o’r gyfraith sy’n benodol i faterion meddygol. Mae’r fformat yn debyg i ddadleuon mewn ffug lys barn eraill o un pwynt, sef y caiff un broblem dadlau mewn ffug lys barn ei defnyddio ac mae angen i’r myfyrwyr baratoi dadleuon ar gyfer y ddwy ochr. Yn y rowndiau rhagbrofol, maen nhw’n dadlau unwaith am bob ochr, ac mae’r 8 tîm gorau yn cyrraedd y rowndiau gogynderfynol. Mae’r timau nad ydynt yn cymhwyso yn elwa ar ddosbarth meistr gan ymarferydd lleol.
2018/2019
Roedd y broses gwneud cais am y gystadleuaeth hon yn cyd-fynd â’r ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth ddadlau cyfraith feddygol, ac roedd yn bleser gweld bod pob un a wnaeth cais wedi cael lle yn un o’r timau. Hollie Bishop (Trydedd Flwyddyn) a Louise Lynch (Trydedd Flwyddyn) oedd y tîm ar gyfer y gystadleuaeth dadlau mewn ffug lys barn cyfraith feddygol.
Roedd y sefyllfa’n seiliedig ar esgeulustod meddygol, gyda chwestiynau o bellter o ran amser aros, a chydsyniad y claf. Ategwyd y rhain gan gwestiwn ynghylch a ellid adennill iawndal am achos a oedd yn anghyfreithlon yn yr awdurdodaeth hon ond a ganiateir mewn mannau eraill. Cymerodd y paratoadau lawer o amser yn darllen y testunau a'r cyfnodolion, heb sôn am yr argraffydd gan fod angen argraffu pum bwndel o bob ochr, ond roedd y tîm yn gweithio'n galed ac yn dda i sicrhau eu bod yn barod.
Perfformiodd Louise a Hollie’n rhagorol ar y diwrnod, gwnaethant hyd yn oed newid ochr pan ddaeth i'r amlwg nad oedd eu gwrthwynebwyr wedi sylweddoli pa ochr roedden nhw i fod dadlau a heb yr hyblygrwydd i newid. Er gwaethaf y rhwystr anferthol hwn, gwnaethant ennill y ddwy ddadl a cholli ar y cyfle i gyrraedd yr wyth uchaf o drwch blewyn – daethant yn y nawfed safle am y ddwy rownd gyntaf. Sylwodd Hollie a Louise bod eu sgiliau wedi gwella’n sylweddol yn ystod y gystadleuaeth.
Trosolwg
Menter gan gorff myfyrwyr Prifysgol Bryste yw Cystadleuaeth Dadlau mewn Ffug Lys Barn Cyfraith Feddygol, a noddir gan Gyfreithwyr Irwin Mitchell. Roedd y fformat yn syml iawn – roedd pob tîm yn cynnwys dau fyfyriwr, ac roedd gan bob rownd ddatganiad yr oedd yn rhaid i’r tîm naill ai ei gynnig neu ei wrthwynebu. Byddai’r beirniad yn sgorio’r timau, a byddai’r tîm â’r sgôr uchaf yn cyrraedd y rownd nesaf. Eleni, cafodd y pynciau ar gyfer y ddwy rownd gyntaf eu rhyddhau cyn y gystadleuaeth, ond roedd angen paratoi ar gyfer y rownd derfynol ar y diwrnod.
2018/2019
Roedd y broses gwneud cais am y gystadleuaeth hon yn cyd-fynd â’r ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth dadlau mewn ffug lys barn cyfraith feddygol, ac roedd yn bleser gweld bod pob un a wnaeth gais wedi cael lle yn un o’r timau. Fel y bu hi, y timau ar gyfer y dadleuon cyfraith feddygol oedd Rohan Ghosal (Ail Flwyddyn) ac Abigail Rainey (Ail Flwyddyn) mewn un tîm a Jodie Melberg (Ail Flwyddyn) a Danielle Fisher (Trydedd Flwyddyn) mewn tîm arall. Treuliodd y ddau dîm cryn amser yn ymchwilio i feysydd perthnasol y Gyfraith, ac ymarfer eu cyflwyniadau gydag aelod o staff, gan gynnwys Trish Rees, Cynullydd Cyfraith Feddygol. Roedd hyn yn arbennig o anodd i aelodau’r timau nad oeddent wedi gwneud cyflwyniad cyhoeddus o’r blaen, ond gwnaethant fagu hyder yn ystod y sesiynau ymarferol.
Ar y diwrnod ei hun, cynhaliwyd y digwyddiad gyda charedigrwydd ym Mryste, a gwnaeth y beirniaid ganmol ansawdd y cyflwyniadau. Yn wyneb cystadleuaeth gref, cafodd Jodie a Danielle eu curo o drwch blewyn yn y rownd gyntaf, ac aeth Rohan ac Abigail ymlaen i’r ail rownd, dim ond i gael eu trechu am le yn y rownd derfynol – lle’r oedd pob tîm o Fryste! Fodd bynnag, anrhydeddwyd ansawdd eu gwaith paratoi a'u cyflwyniadau, wrth i Rohan gael y wobr am y Prif Ddadleuwr Unigol; cyflawniad nodedig iddo ef ac i bob un o’r pedwar myfyriwr am yr ymdrech grŵp wrth ymchwilio i’r meysydd.
Trosolwg
Yn debyg i’r Gystadleuaeth Cyfweld â Chleient, mae gwreiddiau’r Gystadleuaeth Negodi yn yr Unol Daleithiau, lle mae’n parhau’n un o’r cystadlaethau domestig fwyaf yn y byd. Fodd bynnag, y gystadleuaeth ddomestig yng Nghymru a Lloegr yw’r ail fwyaf, ac mae wedi datblygu i’r lefel hon gyda chryn gymorth gan y Ganolfan ar gyfer Datrys Anghydfodau yn Effeithiol (CEDR), yn gyntaf oherwydd ei bod yn noddi’r gystadleuaeth ac yn ail oherwydd ei bod yn trefnu’r gystadleuaeth gyfan.
Yn ei hanfod, dyma’r hawsaf i’w esbonio. Mae tîm o ddau gynrychiolydd yn cynrychioli un ochr o anghydfod neu gyfle, ac mae tîm arall o ddau gynrychiolydd yn cynrychioli’r ochr arall. Mae ganddynt 50 munud i negodi cytundeb, gan ddefnyddio'r sgiliau trafod niferus er mwyn hwyluso'r achos. Mae’n rhaid iddynt hefyd roi hunan-adlewyrchiad o'r drafodaeth, gan esbonio'r hyn a wnaethant yn dda a'r hyn y gallent fod wedi'i wneud yn well. Ceir cystadlaethau rhanbarthol ac mae’r timau cymhwysol yn cystadlu yn y gystadleuaeth genedlaethol a gynhelir gan enillydd y flwyddyn flaenorol. Gwahoddir yr enillwyr cenedlaethol i gynrychioli Cymru a Lloegr yn y gystadleuaeth ryngwladol.
2018/2019
Yn dilyn cystadleuaeth fewnol, dewiswyd pedwar myfyriwr i gynrychioli’r Brifysgol, oherwydd caiff pob Prifysgol gyflwyno ddau dîm. Eleni, y myfyrwyr a ddewiswyd oedd Lawrence Thomas (Ail Flwyddyn), George Gordziejewicz (Ail Flwyddyn), Justine Mears (Blwyddyn Gyntaf) a Josh Creutzberg (Trydedd Flwyddyn).
Roedd y sefyllfaoedd y gwnaethant eu hwynebu’n gymhleth ac yn amrywiol. Roedd un yn cynnwys negodi rhwng amgueddfa a phobl frodorol a oedd yn teimlo eu bod yn cael eu portreadu'n wael yn yr arddangosfa. Roedd yr ail yn cynnwys negodi ar gyfer ymgyrch farchnata rhwng brand a band. Gweithiodd y ddau dîm yn galed i fireinio eu sgiliau, a rhoi pwyslais penodol ar drafodaethau cymodi, a meistroli ffeithiau'r achos.
Ar y diwrnod, gwnaethant weld yr anhawster sy’n gysylltiedig â wynebu timau gyda gwahanol arddulliau, ac ymgysylltu'n dda â thimau a oedd ag arddull tebyg, ac eraill a oedd yn ffafrio dull mwy gwrthwynebus.Cafodd y ddau dîm eu canmol gan y beirniaid, a thynnodd un beirniad sylw at Justine am gael adborth canmoladwy iawn. Ar y diwrnod, roeddent yn anlwcus i beidio â chyrraedd y ddau uchaf – roeddent yn wynebu rhanbarth cryf a rhai timau a oedd yr un mor wych. Fodd bynnag, dysgodd pob un o’r pedwar lawer o’r broses, datblygwyd maes sgil na ragwelwyd wrth ddechrau eu gyrfaoedd yn Ysgol y Gyfraith.
Rhaid sôn am Brooke Martinson (Trydedd Flwyddyn) a Shabaz Dosanjh (Statws Uwch y Flwyddyn Gyntaf) a oedd o gymorth mawr wrth ymarfer gyda’r timau cyn y gystadleuaeth – byddai’r broses wedi bod lawer yn fwy anodd hebddynt.
Trosolwg
O’r tair prif gystadleuaeth i arddangos sgiliau anwrthwynebus, yr un a sefydlwyd fwyaf diweddar yw'r Gystadleuaeth Gyfryngu, sy'n profi galluoedd myfyrwyr i gyfryngu amrywiaeth o sefyllfaoedd, o anghydfodau teuluol i ddadleuon masnachol cymhleth. Nid oes llwyfan rhanbarthol, ac felly mae nifer o ysgolion y gyfraith o Loegr, Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban yn cymryd rhan - a phob un ohonynt yn awyddus i ennill teitl y tîm yn ogystal â’r dyfarniadau cyfryngwr unigol a gyflwynir bob blwyddyn.
Mae angen tîm o dri i gystadlu yn y gystadleuaeth, ac elfen ddiddorol ohoni yw bod pwy sydd yn y timau’n newid ym mhob rownd. Bydd pob cystadleuydd yn cyfryngu ddwywaith, ond bydd angen partner gwahanol bob tro. Mae angen llawer o hyblygrwydd oherwydd y bydd pob cyfryngwr unigol yn gweithio gyda’i gilydd i ddelio â chleientiaid a allai fod yn anodd. Gall Prifysgolion hefyd anfon cyfranogwyr ychwanegol i chwarae rôl fel cleientiaid yn y gystadleuaeth.
Rhan allweddol o'r gystadleuaeth, yn debyg i gystadlaethau tebyg, yw'r elfen addysgol a adlewyrchir gan ddosbarth meistr ar y diwrnod cyntaf. Cynhelir y dosbarth fel arfer gan noddwyr y digwyddiad, sef y Ganolfan ar gyfer Datrys Anghydfodau yn Effeithiol (CEDR).Mae'r tîm buddugol yn cynnal y digwyddiad y flwyddyn ganlynol, ac yn cael ei wahodd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth ryngwladol – y mae ei lleoliad yn newid bob yn ail flwyddyn rhwng Unol Daleithiau America ac Ewrop.
2018-2019
Cystadlodd Abertawe yn y gystadleuaeth hon am y tro cyntaf yn 2018-2019, gan ddewis tîm o dri ar sail mynegiannau o ddiddordeb ac ymarfer sefyllfaoedd blaenorol. Yusuf Ali (Ail Flwyddyn), Cal Reid-Hutchings (Trydedd Flwyddyn), a Josh Creutzberg (Trydedd Flwyddyn) oedd y tîm. Gellir gweld llun ohonynt, a gymerwyd yn y cinio nos ar ôl y gystadleuaeth i’r dde o’r darn hwn.
Cafodd paratoadau ar gyfer y digwyddiad, a gynhelir bob blwyddyn ar ddiwedd mis Ionawr, eu hatal gan arholiadau’r myfyrwyr ym mis Ionawr, a oedd, wrth gwrs, yn cael blaenoriaeth. Fodd bynnag, roeddent yn frwdfrydig iawn ac yn llawn egni, gan ymrwymo diwrnod i baratoi'r sefyllfaoedd a gweithio ar strategaethau i ymdrin â'r materion amrywiol a godwyd gan anghydfod ynghylch deintyddfa, hawliad dros ddrôn ymwthiol, ac anghydfod teuluol dros safle carafanau. Gweithiodd y tri yn galed i ddatblygu dealltwriaeth o egwyddorion datrysiad anwrthwyneus, a chymhwyso'r sgiliau i'r patrwm ffeithiau a ddarparwyd iddynt.
Cynhaliwyd digwyddiad eleni gan enillwyr y flwyddyn flaenorol, sef Prifysgol Gorllewin Lloegr, ac roeddent wedi trefnu cwrdd a chyfarch ardderchog lle aethpwyd i’r afael ag ansicrwydd y tîm hwn a oedd yn cystadlu am y tro cyntaf! Yn dilyn hyn, cafwyd dosbarth meistr gan Graham Massie, Prif Swyddog Gweithredol y noddwyr, CEDR, a roddodd gipolwg gwych ar egwyddorion amrywiol y sgil, yn ogystal â rhai awgrymiadau gwych i'r myfyrwyr wrth baratoi ar gyfer y gystadleuaeth.
Yn anffodus roeddwn i’n cyflwyno mewn cynhadledd yn Rhydychen ar y diwrnod, ond gwirfoddolodd yr Athro Angela Devereux i wylio’r tîm yn cystadlu a chynorthwyo wrth roi adborth. Dywedodd Angela wrthyf fod y tîm yn gweithio’n hynod dda gyda’i gilydd ac yn ymgysylltu’n dda â’r broses. Gwnaethant weithio’n galed i gynorthwyo’r ffug gleientiaid wrth ganfod atebion a oedd yn eu plesio.
Ail-ymunais â’r tîm ar gyfer y seremoni gloi a’r seremoni wobrwyo – cadarnhaodd bob un o’r tri yn y tîm eu bod wedi mwynhau’r profiad ac wedi dysgu llawer o’r broses. Er na wnaethant gyrraedd y tri uchaf (gyda Phrifysgol Glasgow a Phrifysgol Gorllewin Lloegr yn dod yn gydradd fuddugol), cyhoeddwyd pan ddaeth y canlyniadau llawn eu bod wedi dod yn gydradd bedwerydd (sy’n eithriadol o dda) o’r 20 o dimau a gymerodd ran. O ystyried mai dyma eu cyfryngiad llawn cyntaf, ac nid oeddent wedi cael llawer o amser i ymarfer oherwydd amseru’r gystadleuaeth, dyma ganlyniad syfrdanol a chadarnhaodd bob un o’r tri eu bod yn hapus iawn gyda’u safle.
Rydym yn bwriadu cystadlu unwaith eto yn 2019/2020, pan fydd Prifysgol Glasgow yn cynnal y digwyddiad.
Trosolwg
Cynhaliwyd y Gystadleuaeth Cyfweld â Chleient ers 1984, ac mae wedi cynyddu’n sylweddol ac yn haeddiannol dros y pum mlynedd diwethaf wrth i Ysgolion y Gyfraith ddatblygu gwerthfawrogiad o bwysigrwydd yr hyn sydd wedi cael ei alw'n draddodiadol yn 'sgiliau meddal' – sef cyfweld â chleient am y tro cyntaf yn yr achos hwn.
Mae’r gystadleuaeth ei hun yn cynnwys tîm o ddau o fyfyrwyr o bob Prifysgol. Rhoddir pwnc cyffredinol iddynt, a memorandwm byr ar gyfer pob cleient, sydd fel arfer yn llai na dwy neu dair llinell. O’r fan hon, rhaid iddynt gwrdd â chleient newydd, casglu gwybodaeth, rhoi cyngor iddynt ar y Gyfraith yn ogystal â chyngor ymarferol ac opsiynau y gallant eu hystyried a’u dilyn. Yna mae’n rhaid iddynt fyfyrio ar y cyfweliad, sut aeth yn ei flaen a'r hyn y gallent fod wedi'i wneud yn well a'r hyn a wnaethant yn dda.I gyd mewn 40 munud!
Rhennir y gystadleuaeth i ranbarthau, ac mae oddeutu 12 o dimau ym mhob rhanbarth. O’r fan hon, mae’r tri sgoriwr uchaf (dros ddau gyfweliad) yn symud ymlaen i’r Gystadleuaeth Genedlaethol, lle mae’n rhaid iddynt gynnal tri chyfweliad – a bydd enillydd cenedlaethol yn cael ei goroni. Yna mae’r tîm yn mynd ymlaen i’r gystadleuaeth ryngwladol lle mae’n cynrychioli Cymru a Lloegr.
2018/2019
Eleni, gwnaethom gynnal cystadleuaeth fewnol i benderfynu pa dîm fyddai’n cynrychioli Ysgol y Gyfraith yn y gystadleuaeth. Cyfraith Trosedd oedd y pwnc, gyda phwyslais ar ddwyn. Cymerodd wyth tîm ran yn y gystadleuaeth fewnol, a rhoi’r sgiliau yr oeddent wedi’u dysgu yn ystod y darlithoedd a’r sesiwn ymarfer ar waith. Yn sicr, roedd yn rhaid iddynt weithio'n galed gan fod y cleientiaid wedi cael eu briffio i fod yn gadarn gyda nhw, ac mae angen diolch i Varaidzo Kamhunga, Yasmin Daly, a Sophia Sheikh a chwaraeodd y rolau gydag argyhoeddiad clodwiw.
Roedd y lefelau sgiliau a ddangoswyd yn drawiadol iawn a dyfarnwyd rhai marciau uchel, ond yn y diwedd, roedd y tîm buddugol o'r GDL, Meryl Hanmer a Caryl Thomas.Roeddent yn hynod o ddigyffro o dan bwysau, ac yn eglur o ran eu cyngor ac opsiynau – a oedd yn dda ar gyfer y gystadleuaeth ei hun.
Eleni, cynhaliodd Prifysgol Caerwysg Ranbarth Cymru a De Orllewin Lloegr, a chymerodd Abertawe ran gydag 11 o dimau eraill. Roedd y rowndiau’n ddwys iawn, gyda chleientiaid a phroblemau anodd iawn, ond paratowyd Caryl a Meryl yn dda, ar ôl iddynt fod yn ymarfer yn erbyn aelodau o'r gyfadran a oedd yn benderfynol i orfodi'r myfyrwyr i ddod o hyd i'w ffurf orau. Roedd hyn yn gweddu'n dda i'r gystadleuaeth, a chyrhaeddodd Abertawe’r rowndiau cenedlaethol fel Enillwyr Rhanbarthol, gyda sgoriau uchel iawn yn gwneud eu galluoedd yn glir iawn. Cawsant ganmoliaeth uchel gan y beirniaid - llawer ohonynt yn staff o Brifysgolion eraill yn y rhanbarth.
Paratowyd Meryl a Caryl ar gyfer y rowndiau cenedlaethol, a oedd yn cael eu cynnal gan Brifysgol Gorllewin Lloegr.Gwnaed diwrnod hir yn hirach drwy ychwanegu trydydd cleient, ac roedd y diwrnod yn waeth oherwydd bod Cymru a’r Alban yn chwarae rygbi yn erbyn ei gilydd. Ond gyda’u teuluoedd a oedd yn gwylio, unwaith eto gwnaethant berfformio’n hynod o dda, ac yn gyson, gan ymdrin â thri achos troseddol pellach, gan gynnwys cleient a oedd ag obsesiwn â chymryd hunluniau, gan gynnwys y cyfreithwyr!
Yn y diwedd, daeth Meryl a Caryl yn bedwerydd a dweud eu bod wedi mwynhau’r profiad cyfan ac wedi dysgu cryn dipyn am sgiliau ychwanegol. Dyma berfformiad gorau Abertawe yn y gystadleuaeth, ac mae’n ffordd wych o’i hailgyflwyno i’r corff o fyfyrwyr.
Caiff yr adran hon ei diweddaru ag eitemau newyddion cyn hir – cadwch lygad am ragor o fanylion!
Cystadleuaeth Genedlaethol Dadlau Cyflym 2019/2020
Cyhoeddwyd yr Wythfed Gystadleuaeth Genedlaethol Dadlau Cyflym a cheir manylion ar-lein. Os oes gennych ddiddordeb, yna ddylech chi gofrestru’n gyflym gan ein bod wedi clywed bod lleoedd yn cael eu llenwi’n gyflym. Cyfle cyffrous yw hwn sy’n cyfuno addysg â chystadleuaeth!
Matthew