GWNEWCH GAIS I FYW AR GAMPWS Y BAE

Fel myfyriwr yn Y Coleg, Prifysgol Abertawe, estynnir gwahoddiad i chi ymgartrefu ar Gampws y Bae. Mae Campws y Bae yn cynnig llety diogel a chyfleus ar eich cyfer yn ystod eich amser yn astudio ym Mhrifysgol Abertawe, gydag ystafelloedd astudio ensuite sy'n agos iawn i adeilad academaidd y Coleg wrth gerdded. Gwnewch gais i fyw ar Gampws y Bae yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf nawr.

Mae Y Coleg, ar y cyd â Gwasanaethau Preswyl Prifysgol Abertawe, yn croesawu eich cais am y flwyddyn academaidd nesaf. Rydym yn gweithio ar y cyd i ddarparu proses wedi'i symleiddio i fyfyrwyr sy'n astudio yn Y Coleg.

GWYBODAETH YCHWANEGOL

Pan fyddwch chi'n barod, crëwch gyfrif llety a dilynwch y cyfarwyddiadau ar bob cam

Gallwch fewngofnodi eto i'ch cyfrif llety a newid eich dewisiadau unrhyw bryd

Ni fydd diweddaru eich dewis yn effeithio ar y dyddiad pan wnaethoch eich cais cyntaf.

Ni chaiff cynigion llety eu rhoi nes bod gan yr ymgeisydd lythyr cynnig Diamod gan Y Coleg neu Brifysgol Abertawe

Os ydych chi am dderbyn y cynnig am lety bryd hynny, gofynnir i chi gytuno i denantiaeth a thalu blaendal cadw lle.

*Sylwer, fel arfer, dyrennir llety yn Neuaddau Preswyl Rod Jones ar Gampws y Bae i fyfyrwyr Y Coleg, Prifysgol Abertawe, a dyma le mae'r rhan fwyaf o fyfyrwyr sy'n astudio yn Y Coleg yn byw, gan gynnwys myfyrwyr ar raglen 4 blynedd (gyda Blwyddyn Sylfaen) yr Ysgol Reolaeth.

Os oes gennych chi gwestiynau am eich cais neu am sut i wneud cais, cysylltwch â'r tîm drwy e-bostio the-college-accommodation@abertawe.ac.uk 

 

CROESO I NEUADD ROD JONES

Mathau o ystafell

Ystafell safonol en-suite

Bydd yr holl ystafelloedd yn cynnwys:

  • Gwely dwbl bach (sef gwely tri chwarter),
  • Cist ochr y gwely,
  • Desg
  • Cadair
  • Silff lyfrau
  • Lle i gadw dillad
  • Ystafell ymolchi en-suite â chawod, toiled a basn golchi dwylo.

Mae gwasanaeth band eang ac yswiriant eiddo personol wedi'u cynnwys yn rhent yr holl ystafelloedd. 

Yn ogystal, mae'r ystafell yn cynnwys llenni atal golau, pinfwrdd a drych. Bydd gennych fynediad i gegin a rennir a sawl cyfleuster cymunedol (gweler Nodweddion Cymunedol).

Dan 18 oed

Os ydych chi dan 18 oed wrth ddechrau eich rhaglen gyda Y Coleg, cewch eich rhoi mewn fflatiau, dim alcohol yn awtomatig.

Amgylcheddau Byw

Gallwch chi ddewis fflatiau un rhyw neu fflatiau dim alcohol wrth wneud cais.

Mae ystafelloedd sy'n addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn ar gael, ynghyd â fflatiau i fyfyrwyr â namau ar y golwg neu ar y clyw. Sicrhewch eich bod chi'n nodi'r addasiadau i ystafell mae eu hangen arnoch wrth wneud cais er mwyn i ni allu dyrannu'r llety cywir i chi.

Ystafell En-suite Premiwm Nodweddion Cymunedol Ffïoedd y Neuadd a Dyddiadau Contract