Gallwch gefnogi chwaraeon ym Mhrifysgol Abertawe drwy fod yn brif noddwr brand Chwaraeon Abertawe a chaiff eich brand ei ledaenu ar draws asedau Chwaraeon Abertawe.
Mae nawdd yn cynnwys:
- Lledaenu'ch brand yn un o'n cyfleusterau chwaraeon allweddol
- Dangos eich brand yn amlwg ar arwyddion asedau Chwaraeon Abertawe
- Bwrdd Hysbysebu x 2
- Cydnabyddiaeth a dolen ar wefan Prifysgol Abertawe
- Cydnabyddiaeth o'ch brand ar draws platfformau cyfryngau cymdeithasol Chwaraeon Abertawe
- Cynnwys eich brand mewn llofnodion e-bost staff Chwaraeon Abertawe
- Tocynnau ar gyfer gemau Varsity Cymru
- Tocynnau ar gyfer lletygarwch gemau Varsity Cymru
- Tocynnau ar gyfer y digwyddiad blynyddol, Gwobrau Chwaraeon Abertawe
I gael rhagor o wybodaeth am y cyfleoedd hyn am nawdd, cliciwch ar y botwm isod i gysylltu â ni.