Mae gan Chwaraeon Abertawe amrywiaeth eang o glybiau chwaraeon cystadleuol ac anghystadleuol.
I gymryd rhan, bydd angen aelodaeth Chwaraeon i Fyfyrwyr arnoch a bydd angen i chi hefyd ymaelodi â chlwb penodol.
I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw glwb, fel amseroedd hyfforddi a ffioedd aelodaeth, ewch i dudalennau'r clwb ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Er bod y dudalen hon yn cynnwys pob un o’n clybiau chwaraeon i fyfyrwyr, mae rhai chwaraeon sy’n rhan o’n rhaglen chwaraeon perfformiad uchel. Cliciwch yma i weld y dudalen chwaraeon perfformiad uchel.
Celf ymladd hunanamddiffyn modern yw aicido. Fe'i datblygwyd yn Japan yn y 1930au gan Morihei Ueshiba, a oedd yn feistr ar nifer o grefftau ymladd traddodiadol.
Bydd aicido yn ymarfer pob rhan o'ch corff. Bydd yn helpu i ddatblygu hyblygrwydd, cryfder y cyhyrau, cydsymudiad ac atgyrchion, gan gynnig sesiwn ymarfer ardderchog i'r corff cyfan.
Mae aicido yn addas i bawb. Nid oes angen unrhyw gryfder corfforol mawr nac ysbryd ymosodol, dim ond ymrwymiad i hyfforddi a pharodrwydd i wella'ch hun.
Ymunodd tîm Titaniaid Abertawe â Chynghrair Pêl-droed Americanaidd Prifysgolion Prydain yn 2009 ac, ar hyn o bryd, mae'n cystadlu yn Uwch Gynghrair y De, sef lefel uchaf y gêm ar gyfer prifysgolion Prydain.
Mae'r tîm wedi cyrraedd rowndiau chwarterol cenedlaethol ac wedi ennill sawl teitl Varsity. Cynigir hyfforddiant sbrintio arbenigol gan Athletau Cymru ac mae'r tîm hyfforddi yn cynnwys unigolion â phrofiad o hyfforddi mewn ysgolion uwchradd yn yr UD.
Mae'r clwb yn croesawu aelodau p'un a ydynt yn ddechreuwyr neu'n saethwyr mwy profiadol ac mae'n darparu offer a chyfleusterau ar Gampws y Bae ar gyfer amrywiaeth o ddisgyblaethau gan gynnwys bwa noeth, bwa adwyro, bwa cyfansawdd a bwa hir.
Mae'r clwb yn cymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau dan do ac awyr agored yn ystod y flwyddyn ac mae'n rhan o Gynghrair Prifysgolion Cymru a De-orllewin Lloegr. Mae hefyd yn cymryd rhan mewn dwy gystadleuaeth BUCS yn ystod y flwyddyn yn erbyn dros 700 o saethwyr o bob cwr o'r DU.
P'un a ydych am ymuno er mwyn cadw'n iach, cyflawni'ch amser gorau neu gymryd rhan yn y sesiynau cymdeithasol ar ddydd Mercher a gwneud ffrindiau newydd, cewch groeso cynnes gan Glwb Athletau a Thrawsgwlad Prifysgol Abertawe.
Mae'r clwb yn cynnig amrywiaeth o sesiynau ar gyfer rhedwyr trac, rhedwyr pellter hir a rhedwyr cymdeithasol.
Mae'r clwb yn cystadlu mewn amrywiaeth o rasys yn ystod y flwyddyn gan gynnwys digwyddiadau trac a maes, trawsgwlad, aml-dir a rasys ar y ffordd, yn lleol a ledled y DU.
Mae Abertawe yn cystadlu yn erbyn prifysgolion eraill yn Is-adran De-orllewin Cynghrair Pêl Fas Prifysgolion Prydain a Chynghrair Pêl Feddal Prifysgolion Prydain Cymru.
Mae'r clwb, a sefydlwyd yn 2015, yn croesawu chwaraewyr o bob gallu a phrofiad, p'un a hoffent chwarae'n gystadleuol neu roi cynnig ar rywbeth newydd.
Mae gan Glwb Pêl-fasged Prifysgol Abertawe dri thîm dynion ac un tîm merched sy'n darparu ar gyfer chwaraewyr o bob gallu.
Yn ogystal â chystadlu mewn cystadlaethau BUCS, mae gan y clwb gysylltiadau agos â chlwb lleol y ddinas, Swansea Storm, sydd hefyd yn ei alluogi i gystadlu yng nghynghrair Cymru.
Mae'r clwb yn croesawu bocswyr ar bob lefel o brofiad, o ddechreuwyr i focswyr profiadol. Mae bocsio yn ffordd wych o gadw'n heini ac anogir newydd-ddyfodiaid i fynd i sesiwn gychwynnol a chymryd rhan.
Yn rhyfedd ddigon, caiacau a ddefnyddir gan Glwb Canŵio Prifysgol Abertawe. Dim ond weithiau y byddant yn defnyddio canŵ!
Mae sesiynau yn y pwll yn helpu i addysgu'r sgiliau sylfaenol cyn i chi fynd ati i ganŵio ar afonydd Cymru.
Yn ogystal â theithiau rheolaidd i ganŵio ar afonydd, cynhelir digwyddiadau BUCS a gwyliau padlo ledled y DU, polo mewn canŵod a chaiacio môr. Trefnir taith flynyddol i'r Alban yn ystod gwyliau'r Pasg hefyd.
Daeth Sirens Abertawe yn rhan o Undeb Athletau Prifysgol Abertawe yn 2007 ac ers hynny maent wedi cael llwyddiant sylweddol. Mae codi hwyl yn gamp gymhleth sy'n cynnwys cymysgedd o styntiau, twmblo, neidio a dawnsio.
Mae'r Sirens yn dîm cymdeithasol a chystadleuol, yn dibynnu ar y lefel o ymrwymiad rydych yn chwilio amdani.
Mae gan y clwb dri thîm dynion, dau yn chwarae mewn cystadlaethau BUCS ac un yn chwarae gemau lleol, dau dîm dan do, a thîm merched sydd wrthi'n cael ei ddatblygu i chwarae yn erbyn timau lleol a phrifysgolion eraill.
Mae aelodaeth gymdeithasol ar gael hefyd i'r sawl nad ydynt am chwarae.
Mae pob aelod yn rhannu brwdfrydedd dros bob math o feicio, beicio ffordd a beicio mynydd, p'un a yw hynny'n golygu reidio beic ar draws Penrhyn Gŵyr ar brynhawn heulog neu roi cynnig ar ddisgyniad technegol drwy'r goedwig.
Mae'r clwb yn darparu ar gyfer beicwyr o bob gallu, o'r sawl sydd am fynd am dro cymdeithasol i'r caffi unwaith yr wythnos, i'r rheini sydd am gystadlu ar lefel leol a chenedlaethol. Mae'r clwb yn trefnu teithiau ymhellach o'r ddinas hefyd – er enghraifft, penwythnos o feicio mynydd yn Fforest y Ddena, neu hyd yn oed daith flynyddol y tîm beicio ffordd i Ewrop i ddringo mynyddoedd go iawn.
Nod y clwb yw bod y timau dynion a merched yn cystadlu mewn twrnameintiau cenedlaethol gan gynnwys y prif ddigwyddiad sef Pencampwriaeth flynyddol y Prifysgolion.
Cynhelir digwyddiadau cymdeithasol bob pythefnos hefyd.
Mae'r clwb yn croesawu holl fyfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe, p'un a oes gennych eich ceffyl eich hun a'ch bod yn awyddus i fireinio eich sgiliau dressage neu neidio, neu erioed wedi marchogaeth o'r blaen.
Mae'r clwb yn cynnig hyfforddiant proffesiynol gan hyfforddwr BHSI ac, yn ogystal â sesiynau marchogaeth wythnosol, mae'n cynnig: ceffylau y gellir eu llogi i farchogaeth ar y traeth neu oddi ar y ffordd, cystadlaethau timau BUCS, gemau merlogampau, cystadlaethau rhwng clybiau, hyfforddiant polocrosse, digwyddiadau sobr a chymdeithasol, teithiau gyda chlybiau chwaraeon eraill dramor, y defnydd o beiriant marchogaeth, nosweithiau cymdeithasol â thema ar ddydd Mercher a bargeinion i aelodau'r clwb ym mar y noddwr.
Mae gan y clwb dîm dynion a thîm merched sy'n cystadlu yn y cynghreiriau BUCS. Maent wedi profi llwyddiant sylweddol – yn wir, y llynedd, gorffennodd y dynion ar frig eu cynghrair.
Mae'r hyfforddiant yn digwydd yn Parc Chwaraeon Bae Abertawe a'r clwb sy'n darparu'r holl hyfforddiant a'r offer.
Mae gan glwb pêl-droed y dynion chwe thîm, y mae pedwar ohonynt yn cystadlu yn y cynghreiriau BUCS a'r ddau arall yn cystadlu yng Nghynghrair Rhyng-adrannol Prifysgol Abertawe.
Mae gan y clwb dîm dydd Sadwrn hefyd, a sefydlwyd gan gyn-fyfyrwyr y clwb gyda'r nod o chwarae yng Nghynghrair Cymru.
Mae'r clwb yn cymdeithasu'n wythnosol, ac mae gan y gysylltiadau cryf â'r gymuned leol, gan gynnal nifer o ddigwyddiadau elusennol, gweithgareddau codi arian a sesiynau gwirfoddoli.
Mae tîm pêl-droed y merched yn garfan hynod gystadleuol a brwdfrydig, gyda dau dîm yn cystadlu yng nghystadlaethau BUCS a chystadlaethau eraill.
Mae gan y clwb hyfforddwr ffitrwydd ac mae'n trefnu digwyddiadau cymdeithasol a chystadlaethau pump bob ochr.
Mae Pêl-droed Ryng-adrannol Prifysgol Abertawe yn cynnwys 19 o dimau sy'n cystadlu mewn cynghrair yn ystod y flwyddyn academaidd. Erbyn hyn, y gynghrair yw'r clwb neu'r gymdeithas fwyaf yn y Brifysgol.
Ceir Cwpan Cynghrair Rhyng-adrannol hefyd, a dewisir carfan o chwaraewyr ar ddiwedd y tymor i wynebu Cynghrair Pêl-droed Rhyng-adrannol Prifysgol Caerdydd yng nghystadleuaeth Varsity Cymru.
Mae'r clwb golff yn chwarae yng Nghlwb Golff Pennard, cwrs golff ar Benrhyn Gŵyr sydd ymhlith y 10 gorau yng Nghymru. Mae aelodaeth o'r clwb yn cynnwys buddiannau fel golff anghyfyngedig a cherdyn bar i aelodau sy'n rhoi gostyngiad ar fwydydd a diodydd.
Mae gan y clwb ddau dîm yn cystadlu yng nghystadlaethau BUCS.
Mae Clwb Hoci Dynion Prifysgol Abertawe yn croesawu aelodau, p'un a ydynt yn chwaraewyr rhyngwladol neu'n ddechreuwyr. Hoci oedd un o'r campau cyntaf a chwaraewyd yn y Brifysgol. Fe'i sefydlwyd yn 1920 ac, erbyn hyn, mae gan y clwb bedwar tîm a chymuned gymdeithasol fawr.
Mae digwyddiadau rheolaidd y clwb yn cynnwys taith Pasg, sydd wedi ymweld â Chroatia a Chatalwnia yn y gorffennol; 'Penwythnos Cyn-fyfyrwyr', lle mae mwy na 100 o gyn-chwaraewyr yn dychwelyd i gystadlu yn nigwyddiad mwyaf Chwaraeon Abertawe i gyn-fyfyrwyr; a'r gêm Varsity flynyddol yn erbyn Prifysgol Caerdydd.
Mae Clwb Hoci Merched Prifysgol Abertawe hefyd yn croesawu chwaraewyr o bob gallu. Mae pedwar tîm yn cystadlu yng nghystadlaethau BUCS, a phumed tîm yn chwarae gemau cyfeillgar achlysurol, sy'n rhoi cyfle i newydd-ddyfodiaid.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r tîm wedi bod ar daith i Groatia, Sbaen, yr Iseldiroedd a'r Eidal.
Celf ymladd a ddechreuodd gyda'r samwrai yn Japan yn ystod y cyfnod canoloesol yw Jiu Jitsu. Mae'r gamp wedi'i diweddaru er mwyn sicrhau ei bod yn effeithiol mewn amgylcheddau amddiffyn ac ymladd modern. Mae'n addas i bawb, waeth beth fo'u profiad a'u ffitrwydd. Caiff pob dosbarth Jiu Jitsu ei gynnal ar lefel mynediad mewn amgylchedd anfygythiol gyda'r nod o feithrin hyder a sgiliau.
Mae clwb Jiu Jitsu Abertawe yn ennill medalau yn rheolaidd mewn cystadlaethau cenedlaethol i ddynion a merched ac mae'n croesawu Pencampwriaeth Cymru yn rheolaidd.
Mae croeso i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe roi cynnig ar jwdo yng Nghlwb Jwdo Olympaidd Samwrai, sy'n darparu ar gyfer unigolion o bob gallu, o ddechreuwyr i jwdowyr rhyngwladol.
Mae gan glwb karate Prifysgol Abertawe, sef clwb celf ymladd hynaf y Brifysgol, draddodiad balch o gynhyrchu pencampwyr cenedlaethol.
Rydym yn croesawu pawb, ni waeth faint o brofiad sydd ganddynt, ac mae'r clwb yn cymryd rhan mewn nifer o gystadlaethau bob blwyddyn gan gynnwys Pencampwriaeth y Prifysgolion (BUCS) yn Sheffield.
Os nad ydych yn awyddus i gystadlu, mae'r hyfforddiant yn ffordd wych o gadw'n heini, gwneud ffrindiau a chael hwyl wrth ddysgu technegau hunanamddiffyn.
Mae clwb cic-focsio Prifysgol Abertawe yn addas i bawb, ni waeth faint o brofiad sydd ganddynt, o ddechreuwyr i gic-focswyr profiadol.
Mae prif hyfforddwr y clwb yn bencampwr byd, Cymru a Phrydain, ac mae gan y clwb hanes nodedig o gystadlu gyda nifer o bencampwyr Prydain, Cymru a chenedlaethol a medalyddion byd. Enillodd y tîm dlws pencampwriaeth UCL yn 2012.
Clwb lacrosse Abertawe yw'r clwb cymysg hynaf ar y campws. Mae'r clwb yn croesawu aelodau newydd, o ddechreuwyr i chwaraewyr profiadol, ac mae'n trefnu digon o ddigwyddiadau cymdeithasol.
Mae tîm achub bywyd Abertawe yn darparu ar gyfer unigolion o bob gallu – p'un a ydych am gadw'n heini, dysgu sgiliau bywyd newydd, gweithio tuag at gystadlaethau neu gael hwyl.
Mae'r clwb yn trefnu hyfforddiant cymorth cyntaf a digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd ac yn anelu at gynnal sesiynau ar y traeth drwy gydol y flwyddyn.
P'un a ydych yn hoffi antur yn yr awyr agored neu'n chwilio am ffordd newydd o gael hwyl gyda'ch ffrindiau, cewch groeso yn y clwb mynydda.
Trefnir teithiau rheolaidd o amgylch y wlad ac, yn ogystal â dringo, mae'r clwb yn cynnig cyfleoedd i heicio a gweithgareddau eraill sy'n seiliedig ar fynydda, gyda chystadlaethau dringo cymdeithasol a chystadleuol yn ogystal â digwyddiadau cymdeithasol wythnosol.
Mae gan glwb pêl-rwyd Prifysgol Abertawe dri thîm sy'n chwarae mewn cystadlaethau BUCS, a phedwerydd tîm sy'n chwarae mewn cynghrair leol yn Abertawe.
Cynhelir cynghrair pêl-rwyd rhyng-adrannol a digwyddiadau cymdeithasol wythnosol hefyd, yn ogystal ag ymgyrchoedd codi arian i elusennau lleol. Mae'r clwb yn trefnu taith yn ystod gwyliau'r Pasg ac yn croesawu aelodau newydd, p'un a oes ganddynt ddiddordeb mewn hyfforddi, dyfarnu, chwarae neu gymdeithasu.
Mae'r clwb yn canolbwyntio'n bennaf ar saethu targed reiffl tyllfedd fach .22 ar faes saethu cyfagos.
Mae'n grŵp gallu cymysg ond mae timau hefyd yn cystadlu mewn cystadlaethau lleol, BUCS a Varsity. Drwy gydol y flwyddyn, cynhelir amrywiaeth o ddiwrnodau gweithgareddau, gan gynnwys digwyddiadau rhagflas ar gyfer saethu pistol a cholomennod clai.
Oherwydd cyfyngiadau'r maes saethu, dim ond 30 o aelodau y gall y clwb eu derbyn.
Mae clwb Rhwyfo Prifysgol Abertawe yn croesawu dechreuwyr a rhwyfwyr profiadol.
Mae'r clwb yn cystadlu mewn amrywiaeth eang o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn yng Nghymru a thu hwnt, ac mae'r amserlen hyfforddi yn cynnwys sesiynau hyfforddi grŵp ar y tir a nifer o sesiynau yn y dŵr.
Mae'r clwb yn croesawu chwaraewyr o bob gallu a phrofiad – gan gynnwys y rheini sydd wedi chwarae rygbi'r undeb a'r sawl nad ydynt erioed wedi gafael mewn pêl rygbi.
Mae'r clwb yn cystadlu mewn cystadlaethau BUCS ac yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol wythnosol.
Mae gan glwb rygbi'r undeb Prifysgol Abertawe bedwar tîm dynion sy'n cystadlu mewn gemau BUCS a'r gêm Varsity flynyddol yn erbyn Prifysgol Caerdydd.
Mae'r tîm Barbariaid XV yn chwarae yn erbyn timau lleol ac mae dau dîm yn chwarae yng Nghynghrair Glasfyfyrwyr Cymru. Mae'r clwb yn croesawu chwaraewyr o bob safon – efallai y bydd gan rai o aelodau'r tîm XV cyntaf gontractau lled-broffesiynol, a gallai eraill fod yn gafael mewn pêl am y tro cyntaf.
Mae'r clwb rygbi merched yn croesawu darpar chwaraewyr, ni waeth beth fo'u cefndir chwaraeon, eu sgiliau neu eu profiad.
Mae chwaraewyr y clwb wedi mynd ymlaen i chwarae rygbi rhyngwladol ac mae aelodau o'r garfan bresennol wedi chwarae rygbi rhanbarthol neu rygbi lefel uwch.
Mae croeso i'r sawl nad ydynt yn siŵr a hoffent chwarae ymuno yn y nosweithiau cymdeithasol.
Mae'r clwb yn croesawu unrhyw forwyr, o ddechreuwyr i unigolion profiadol. Mae'n berchen ar 12 o gychod hwylio 'firefly' a hwyliau yng nghlwb hwylio Tata Steel ym Mhort Talbot a chynhelir sesiynau hwylio ar brynhawn dydd Mercher. Trefnir digwyddiadau cymdeithasol ar nos Fercher.
Mae gan y clwb hwylio dimau rasio cystadleuol ac mae'r calendr rasio yn golygu eu bod yn teithio i bob cwr o'r wlad i gystadlu yn erbyn prifysgolion eraill.
Mae'r clwb hefyd yn cynnal ei ddigwyddiad hwylio blynyddol ei hun – The Swansea Spartan, ac mae'n cynnal cyrsiau'r Gymdeithas Hwylio Frenhinol gan gynnwys lefel 2, cychod pŵer a chymorth cyntaf.
Mae'r clwb yn darparu ar gyfer unigolion o bob gallu. Trefnir teithiau rheolaidd i lethrau sgïo sych i sgïo ac eirafyrddio ac mae cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol.
Mae clwb sboncen Abertawe yn croesawu unigolion o bob gallu, o ddechreuwyr sydd erioed wedi chwarae o'r blaen i'r sawl sy'n gallu taro'r bêl rhwng eu coesau.
Mae aelodaeth yn cynnwys nosweithiau clwb, twrnameintiau, mynediad i Gynghreiriau Sboncen Abertawe, digwyddiadau cymdeithasol a'r cyfle i chwarae i un o bedwar tîm y clwb.
Mae'r clwb deifio yn croesawu unigolion o bob gallu a gallwch fynd ati i gyflawni eich hyfforddiant SCUBA mewn amgylchedd diogel gyda hyfforddwyr â chymwysterau cenedlaethol.
Yn ogystal â deifio SCUBA, mae cyfleoedd hefyd i ddysgu sgiliau trin cwch, defnyddio radio VHF a chymorth cyntaf a dilyn cyrsiau datblygu sgiliau eraill.
Mae'r clwb yn cynnig cyngor a chymorth i aelodau a gallwch hurio offer y clwb i'ch helpu i gwblhau hyfforddiant a mwynhau teithiau.
Mae'r aelodau hefyd yn mwynhau chwarae hoci tanddwr (Octopush) – camp tanddwr gyflym sy'n helpu chwaraewyr i ddal eu hanadl a mireinio eu sgiliau cnap a gwaith tîm – a digwyddiadau eraill fel sesiynau glanhau traeth a chasglu sbwriel a barbiciws er budd yr RNLI a'r DDRC (Canolfan Ymchwil i Glefydau Deifio).
Mae'r clwb syrffio yn croesawu pawb gan gynnwys syrffwyr a'r rheini nad ydynt yn syrffio, y sawl sy'n caru'r traeth, corff-fyrddwyr, y sawl sy'n hoffi parti, sglefrwyr a mwy.
Mae'r clwb yn cystadlu yn y gystadleuaeth BUCS flynyddol ym mis Hydref, y gystadleuaeth syrffio fwyaf yn Ewrop, ac mae'n cynnal digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd.
Cynigir gostyngiad oddi ar bris gwersi syrffio, trefnir teithiau penwythnos o amgylch y DU a theithiau blynyddol dramor, a rhoddir cyngor i syrffwyr.
Clwb Rygbi Meddygon Abertawe yw tîm rygbi'r Coleg Gwyddorau Dynol ac Iechyd a'r Coleg Meddygaeth a GIG Abertawe.
Mae'r clwb yn rhan o Undeb Rygbi Abertawe a'r Cyffiniau a Chwaraeon Abertawe yn y Brifysgol ac mae'n cystadlu'n genedlaethol yng nghwpan undeb rygbi Cymdeithas Genedlaethol yr Ysgolion Meddygol (NAMS).
Croesewir aelodau newydd – mae brwdfrydedd yn bwysicach na phrofiad.
Mae'r tîm yn darparu ar gyfer nofwyr o allu gwahanol, o'r sawl sy'n awyddus i hyfforddi a rasio ar lefel gystadleuol i'r sawl sydd am gadw'n heini a bod yn gymdeithasol.
Mae'r tîm wedi tyfu mewn maint a chryfder sy'n golygu ei fod wedi gallu cofrestru tri thîm ym mhencampwriaethau BUCS, yn ogystal ag anfon nofwyr i bencampwriaethau BUCS cwrs hir a chwrs byr.
Mae'r tîm hefyd yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol a digwyddiadau codi arian rheolaidd drwy gydol y flwyddyn.
Yn tarddu o Korea, ffurf fodern ar dechneg hunanamddiffyn sy'n fwyaf adnabyddus am ei gicio dynamig yw Tae Kwon Do.
Mae'r clwb yn rhan o UK ITF ac yn ymarfer Tae Kwon Do ITF yn bennaf (arddull nad yw'n cael ei gweld yn y Gemau Olympaidd), ond croesewir myfyrwyr o bob lefel, gallu ac arddull.
Mae'r dosbarthiadau yn canolbwyntio ar ffitrwydd, technegau Tae Kwon Do traddodiadol ac ymarferion paffio. Mae'r clwb hefyd yn trefnu graddau ar gyfer y rheini sydd am ennill gwregysau newydd ac mae'n cymryd rhan mewn amrywiaeth o gystadlaethau drwy gydol y flwyddyn.
Cynhelir digwyddiadau cymdeithasol a chodi arian hefyd.
Mae gan y clwb tennis dri thîm dynion ac un tîm merched sy'n cystadlu yng nghyngrair BUCS.
Mae'r clwb yn croesawu chwaraewyr o bob safon a chynhelir sesiynau tennis cymdeithasol a hyfforddiant i ddechreuwyr yn ogystal â sesiynau i chwaraewyr canolradd a chwaraewyr o safon uwch.
Mae cystadlaethau ar gael hefyd i'r sawl nad ydynt yn cael eu dewis i fod yn aelodau o un o dimau BUCS, a chynhelir digwyddiadau cymdeithasol rheolaidd.
Mae'r clwb treiathlon yn croesawu unigolion o bob gallu, o'r sawl sy'n nofio am y tro cyntaf i athletwyr profiadol.
Mae'r clwb yn cynrychioli'r Brifysgol mewn rasys ar draws y DU.
Fel aelod o'r clwb, gallwch gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau cyffrous gan gynnwys nofio yn y môr a nofio dŵr agored, teithiau beic mewn ardal o harddwch naturiol ym Mhenrhyn Gŵyr a sesiynau rhedeg ar hyd y traeth i'r Mwmbwls wrth i'r haul fachlud.
Ymhlith y digwyddiadau cymdeithasol a drefnwyd mae gemau tag laser a barbiciws ar y traeth.
Mae ffrisbi eithaf yn gamp gymdeithasol gyflym, digyswllt a chwaraeir mewn tîm sy'n cyfuno agweddau ar bêl-droed Americanaidd a phêl-rwyd â disg sy'n hedfan (Ffrisbi).
Mae'r clwb yn croesawu unrhyw un sy'n awyddus i ymuno â chymdeithas chwaraeon sy'n eich herio'n athletaidd ac sy'n eich annog i gael hwyl wrth ddysgu camp newydd.
Mae tîm Prifysgol Abertawe yn manteisio ar bartneriaeth â Chlwb Polo Dŵr Abertawe sy'n darparu hyfforddwyr profiadol a chymwys. Cynigir gostyngiad ar gostau hefyd a threfnir digwyddiadau cymdeithasol ardderchog.
Mae timau dynion a merched y brifysgol yn cymryd rhan yng nghyngrair BUCS, ac mae cyfleoedd i gystadlu mewn cynghreiriau eraill yn ogystal â'r gêm Varsity flynyddol yn erbyn Prifysgol Caerdydd.
Mae croeso i bawb, a threfnir rhaglen o ddigwyddiadau cymdeithasol hefyd.
Mae'r clwb yn addas i ddechreuwyr neu'r sawl sy'n hwylio'r tonnau ac yn gwybod y triciau i hyd.
Mae'r clwb yn trefnu teithiau rheolaidd i ddechreuwyr a hwylfyrddwyr canolradd a threfnir teithiau i draethau lleol ar gyfer yr aelodau mwy profiadol, yn ogystal â digwyddiadau cymdeithasol.