Bydd y Ffreutur yn cau ar 31 Mai 2023 nes y cyhoeddir yn wahanol . Bydd cegin dros dro ar agor rhwng Tŷ Fulton a'r Techniwm Digidol.

Bydd y gegin dros dro, a fydd ar waith o 31 Mai, yn cynnig bwydlen gyfyngedig, gan gynnwys opsiynau costau byw, a bydd angen archebu drwy’r gwasanaeth clicio a chasglu presennol, naill ai drwy Ap Uni Food Hub, neu wrth y cownter. Am ragor o wybodaeth am y gwaith adnewyddu, cliciwch yma.


Calon y Gegin ar gampws Singleton. Mwynhewch amrywiaeth ardderchog o gysyniadau bwyd o’r gegin gan gynnwys y canlynol:

Hollo Pollo - Ychwanegwch sbeis at eich pryd gyda’n bwydlen wedi’i hysbrydoli gan Beriw. Mae ein cyw iâr yn danllyd a blasus, wedi’i iro yn ein cymysgedd sitrws a sbeis enwog, ac yna ei goginio’n berffaith ar eich cyfer chi. Ychwanegwch esgyll a cholslo neu dewiswch fargen pryd am gyfuniad blasus a diod

Liberty Grill - Mwynhewch bryd bwyd Americana gyda chasgliad o glasuron o’r Unol Daleithiau. Mwynhewch sawrau ein byrgyrs 6 owns wedi’u grilio, burritos gorlawn, nachos, esgyll byfflo a mac a chaws â digonedd o opsiynau planhigion a detholiad o brydau atodol a saladau

Y Clasuron – Eich hoff fwydydd cysur ar gyfer yr adegau pan fydd angen y prydau cartref clasurol hynny arnoch chi.