Ynglŷn â Taliesin
Mae canolfan gelfyddydau Taliesin wedi’i lleoli yng nghalon campws Singleton Prifysgol Abertawe ac rydym ni’n bodoli i gyfoethogi bywydau diwylliannol unigolion a chymunedau ar draws y rhanbarth, gan gyflwyno profiadau celfyddydau i gynulleidfaoedd yn ein lleoliadau ac ar strydoedd Abertawe.
Rydym yn gweithio gyda Taliesin i gefnogi’r ganolfan gelfyddydau yn ôl y gofyn gan redeg gwasanaeth bar ar gyfer eu holl ddigwyddiadau. Os hoffech ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau sydd ar y gorwel, ewch i wefan Taliesin.