Ynglŷn â Cuddfan Gymdeithasol Abertawe
Croeso i Swansea Social Hideaway, calon y Gegin ar gampws y Bae, lle gallwch fwynhau amrywiaeth ardderchog o gysyniadau bwyd o’r gegin gan gynnwys y canlynol:
Hollo Pollo - Ychwanegwch sbeis at eich pryd gyda’n bwydlen wedi’i hysbrydoli gan Beriw. Mae ein cyw iâr yn danllyd a blasus, wedi’i iro yn ein cymysgedd sitrws a sbeis enwog, ac yna ei goginio’n berffaith ar eich cyfer chi. Ychwanegwch esgyll a cholslo neu dewiswch fargen pryd am gyfuniad blasus a diod
Liberty Grill - Mwynhewch bryd bwyd Americana gyda chasgliad o glasuron o’r Unol Daleithiau. Mwynhewch sawrau ein byrgyrs 6 owns wedi’u grilio, burritos gorlawn, nachos, esgyll byfflo a mhac a chaws â digonedd o opsiynau planhigion a detholiad o brydau atodol a saladau
Y Clasuron – Eich hoff fwydydd cysur ar gyfer yr adegau pan fydd angen y prydau cartref clasurol hynny arnoch chi.
Bamboo – Mae ein seigiau o Asia gyfan yn cynnig newid i’ch cinio cyflym arferol! Mae’r cynhwysion mwyaf ffres yn cyfuno â hen ffefrynnau, gan greu seigiau reis a nwdls blasus a chyrsiau cyntaf ac atodol hyfryd. O Dim Sum i Katsu, mae popeth gennym ni ar eich cyfer.
Mae hwn yn fan cymdeithasol gwych y gallwch ei ddefnyddio â chyfleusterau i weithio tra byddwch yn ymlacio a mwynhau. Mae digwyddiadau a sinema yma hefyd. Ewch i’r ap i gael rhagor o fanylion am y rhain.