Prifysgol Abertawe Gwasanaethau Arlwyo
Mae'r Gwasanaethau Arlwyo ym Mhrifysgol Abertawe yn darparu gwasanaethau arlwyo ar y ddau gampws. Hefyd mae ein staff yn darparu lletygarwch ar gyfer cyfarfodydd, cynadleddau a digwyddiadau ar Gampws y Bae a Champws Singleton.
Mae ein tîm yn ymfalchïo mewn datblygu opsiynau ciniawa sy'n addas i'r holl staff, myfyrwyr ac ymwelwyr. Mae gennym opsiynau fegan, llysieuol, di-lwten a halal ar gael. Gofynnwch i aelod o staff am ragor o fanylion.
Gallwch ddod o hyd i ni ar y cyfryngau cymdeithasol:
Twitter = @swansea_unifood
Instagram = @swanseaunifood