Cyflwyno’r tîm
Darganfyddwch am uwch dîm rheoli Bwyd Prifysgol Abertawe a phwy i gysylltu â nhw os bydd gennych gwestiwn.
Darganfyddwch am uwch dîm rheoli Bwyd Prifysgol Abertawe a phwy i gysylltu â nhw os bydd gennych gwestiwn.
Helo, Jayne ydw i. Fi yw Cyfarwyddwr Contractau’r tîm bwyd, a byddai rhai yn dweud mai fi yw pennaeth y tîm bwyd gan mai fi yw’r cyswllt partneriaeth â’r brifysgol. Fi sy’n ymdrin â materion ariannol, iechyd a diogelwch a thwf y sector arlwyo. Ar ôl bod yn y diwydiant ers pan oeddwn i’n ifanc, gan gychwyn fel casglwr persli a gweithio fy ffordd i fyny i fod yn rheolwr ardal, cyn dod yn arbenigwr coffi draw yn Costa, mae fy ngallu i wneud latte yn well na’ch gallu chi. Dewch i fy herio! Tra’ch bod chi yma, gallaf ddefnyddio fy sgiliau fel proffiliwr personoliaeth ardystiedig, y gwnes i ei ddysgu wrth weithio i’r heddlu ac ennill fy ngradd yn y gyfraith. Pan nad wyf i yn y gwaith, rwyf i wrth fy modd yn treulio amser gyda fy nheulu ac yn teithio i archwilio’r byd, a de Asia yw fy hoff le.
Helo, Neil ydw i. Fi yw rheolwr gweithrediadau’r tîm bwyd, o ofalu am wasanaethau dyddiol yn ein holl siopau i lawer o swyddogaethau a chyfrifoldebau eraill. Bob tro y byddwch chi’n defnyddio’r caban neu’r ap yna i archebu eich bwyd, rwy’n gwneud yn siŵr ei fod yn gweithio’n iawn ac yn effeithiol gan wneud yn siŵr hefyd fod y goleuadau yn dal i weithio a’r nwy yn dal i lifo i goginio’r bwyd hwnnw. Fi yw’r Brenin Cynaliadwyedd a Masnach Deg hefyd, yn gwneud ymdrech barhaus i wneud yn siŵr bod ein cynhyrchion yn rhai masnach deg a’n bod ni’n ailgylchu, yn ailddefnyddio ac yn rhoi yn ôl i’r gymuned a’r amgylchedd hyd eithaf ein gallu. Y rhan fwyaf o’r amser, byddwch chi’n fy ngweld i’n rhedeg i bob man yn lle cerdded. Os bydd angen i chi sgwrs gyda fi, rhedwch wrth fy ochr i.
Helo, Kim ydw i. Fi yw rheolwr gweithrediadau lletygarwch a phobl y tîm bwyd, o wleddau digwyddiadau i’ch paneidiau o de a choffi ar gyfer cyfarfodydd, fi sy’n trefnu. Rwyf i wedi gweithio i Brifysgol Abertawe ers 16 mlynedd mewn llawer o swyddi gan gynnwys 9 mlynedd yn y sector lletygarwch. Rwy’n ymfalchïo yn y ffaith ei bod hi’n hawdd sgwrsio â mi ac mai fi yw’r gorau am ddatrys problemau, sy’n fy ngwneud i’n berffaith ar gyfer lletygarwch. Os bydd angen cyngor neu gymorth arnoch ar unrhyw adeg gydag unrhyw faterion, nid lletygarwch yn unig, cysylltwch â fi ac fe wnaf i helpu os gallaf. Pan nad wyf i yn y gwaith, ac eithrio fy nheulu, mae gen i gariad mawr at glwb pêl-droed Lerpwl.
Helo, Sian ydw i. Fi yw Uwch Weinyddwr y tîm bwyd. Rwy’n cael fy nisgrifio fel y glud sy’n dal y tîm at ei gilydd ac mae fy swyddogaethau yn cynnwys popeth sy’n gysylltiedig â gweinyddiaeth, o’r gyflogres i anfonebau i adnoddau dynol. Ar ôl bod yn y diwydiant ers dros 20 mlynedd, mae gen i angerdd gwirioneddol i ddefnyddio fy sgiliau i fod o fudd i’r sector arlwyo. Rwy’n gyfeillgar ac mae’n hawdd sgwrsio â mi, ac mae’n ymddangos mai fi yw’r person yna y mae pawb yn dod i siarad â hi, gan wir chwarae rhan mam y swyddfa. Fodd bynnag, pan rwyf i allan gallaf fod yn dipyn o aderyn y nos, ac rwyf i wrth fy modd yn mynd i deithio ac i gyngherddau, hyd yn oed ar nosweithiau ysgol, cyn dychwelyd i’r gwaith caled y diwrnod nesaf.
Helo, Maz ydw i. Fi yw Rheolwr Manwerthu’r tîm bwyd. Rwyf i wedi bod yn y sector arlwyo, neu’n gysylltiedig ag ef ers 10 mlynedd, gan weithio yn flaenorol mewn stadia mawr. Fy swyddogaeth i yw rheoli unrhyw beth a arweinir gan siopau yn y brifysgol, gan gynnwys yr holl frandiau mawr (Greggs, Subway, Costa, ac ati). Rwy’n credu fy mod i’n berson hawdd sgwrsio â hi a fy mod i’n drefnus. Mae’n allweddol i lwyddo fel mam i 3, ac rwyf hefyd yn arwain trwy esiampl i ddatblygu perthynas â staff a chwsmeriaid. Yn fy amser hamdden, rwy’n mwynhau gwersylla a chaiacio, felly os gwelwch chi fi yn y dŵr agored, byddwch yn gwybod fy mod i’n cymryd saib haeddiannol.
Helo, Lindsay ydw i. Fi yw prif gogydd gweithredol y tîm bwyd, ac yn syml mae hyn yn golygu fy mod i’n gyfrifol am bopeth sy’n gysylltiedig â bwyd. Bob dydd rwy’n gwneud yn siŵr bod tîm y gegin yn dod â mwynhad a boddhad i’ch bwyd o’r adeg y bydd yn cychwyn fel cynhwysyn syml ac yn cael ei wneud yn saig flasus, a hefyd yn creu ac yn dod o hyd i seigiau newydd ac arloesol i chi eu blasu. Gan fy mod i’n dod o gefndir stadiwm, rwyf i wrth fy modd gyda digwyddiadau mawr a chreu profiadau gala a fydd yn byw yn eich cof am byth. Mae arbrofi gyda bwyd yn broses addysgiadol iawn i mi ac yn fy helpu i ymlacio. Rwy’n dod o’r Cymoedd ac felly mae gen i bersonoliaeth gref i gymryd cyfrifoldeb am y cogyddion ac rwy’n siŵr y gallwch chi fy nghlywed o’r tu allan i’r gegin, felly rwy’n tueddu i ddianc yn fy amser hamdden i orllewin Cymru i fwynhau’r heddwch cyn dychwelyd i ffair y gegin.
Helo, Kevin ydw i. Fi yw’r Rheolwr Ymgysylltu â Myfyrwyr a Marchnata yn y tîm bwyd. Fy swyddogaeth i yw ymgysylltu a chreu’r bartneriaeth yna o fewn y tîm bwyd i fyfyrwyr o ran pa seigiau a siopau bwyd yr hoffen nhw eu gweld, i ddefnyddio ein hadnoddau a’n partneriaethau i greu gwirfoddolwyr a gweithdai i ddysgu sgiliau allweddol. Gan ddod o gefndir bariau a digwyddiadau wrth weithio yn undeb myfyrwyr prifysgol Abertawe, rwyf i wedi dod â rhai gweithgareddau a digwyddiadau difyr a chyffrous iawn yn y gorffennol. Wythnos y glas yw fy hoff adeg o’r flwyddyn, oherwydd y cyffro a’r gweithgareddau newydd sy’n digwydd, a’r pethau am ddim wrth gwrs! Ydw, rwy’n hawlio fy nghyfran i o’r rheini! Yn ystod fy amser hamdden, rwy’n treulio fy amser gyda chwaraeon a fy mhlant, ac mae’r rhain fwy neu lai yn rheoli fy mywyd, felly os oes gennych chi awydd diwrnod allan gyda’r plant neu daflu pêl o gwmpas, fi yw’r dyn i chi.