Mae'r Brifysgol wedi cyflwyno system newydd i ganiatáu i fyfyrwyr rhyngwladol a rhai o'r UE (ac eithrio'r DU) dalu ffioedd dysgu yn gyflym ac yn rhwydd ar wefan y Brifysgol drwy GlobalPay. Mae'r system yn ddiogel, ar gael 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, ac mae'n hawdd ei defnyddio drwy Western Union Business Solutions.
Gall myfyrwyr ddewis un o 12 iaith wahanol i'w tywys drwy'r broses o dalu ffioedd dysgu. Gellir talu gan ddefnyddio 22 math gwahanol o arian cyfred. Nid oes comisiwn yn cael ei godi na thaliadau trosglwyddo banc ychwanegol.
Sylwer, ni fydd myfyrwyr yn gallu talu mewn punnoedd sterling drwy GlobalPay.
Mewn rhai sefyllfaoedd, bydd angen i fyfyrwyr wneud trosglwyddiad mewn Ewros neu Ddoleri'r UD os nad yw arian cyfred eu gwlad ar gael. Yn y sefyllfa honno, mae'n bosib y bydd angen i'r myfyriwr dalu ffi trosglwyddiad rhyngwladol a gellir codi tâl uwch am y trosglwyddiad hwn.
Ar ôl i chi fewngofnodi i GlobalPay, byddwch yn derbyn cyfarwyddiadau argraffedig am sut i drosglwyddo'r arian drwy eich banc lleol.
Er mwyn cwblhau'r broses o drosglwyddo arian i Brifysgol Abertawe, bydd angen i fyfyriwr gwblhau'r trosglwyddiad drwy Fancio ar y Rhyngrwyd neu gyflwyno manylion y trosglwyddiad banc i'w fanc lleol o fewn 48 awr.
Bydd Western Union Business Solutions yn anfon e-bost i gadarnhau eu bod wedi derbyn yr arian.