Ym mhob cwr o’r byd, mae argyfwng y coronafeirws (Covid-19) wedi newid ein ffyrdd o fyw a chydweithio. Yma yn Abertawe, rydym wedi manteisio ar 100 mlynedd o gadernid, arloesi a chydweithredu i addasu, ac i gyfrannu at yr ymateb rhyngwladol i’r clefyd.
Mae ein staff, ein myfyrwyr a’n partneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i gynorthwyo i fodloni’r gofynion logisteg a wynebir gan ein hisadeiledd gofal iechyd, ac mae ein hymchwilwyr sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang yn modelu effeithiau cymdeithasol, economaidd a seicolegol yr argyfwng ar ein bywydau. Bydd prifysgolion fel un ni yn chwarae rôl hollbwysig mewn ymdrechion lleol a byd-eang i ddychwelyd i fywyd normal, drwy ddarparu parhad a chefnogaeth i’r cymunedau rydym mor falch o fod yn rhan ohonynt.
Drwy gydol ein hanes, buom yn falch o harneisio ein harbenigedd, ein hadnoddau a’n technoleg i fynd i’r afael â’r heriau mwyaf a wynebir gan ein cymdeithas; o newid yn yr hinsawdd i anghydraddoldeb byd-eang. Mae ein cenhadaeth ddinesig yn ein sbarduno i ymateb â phwrpas a hyblygrwydd i’r argyfwng iechyd cyhoeddus rydym yn ei wynebu heddiw, ac i gydweithredu i greu dyfodol cadarnhaol i bob un ohonom.
Yr Athro Paul Boyle
Is-ganghellor
Arbenigwyr Covid-19 i’r cyfryngau
Arbenigwyr Covid-19 i’r cyfryngau Yma ym Mhrifysgol Abertawe, mae gennym restr gynyddol o arbenigwyr sy’n gallu cynnig barn neu sylwadau craff ar agweddau ar argyfwng Covid-19. Os ydych yn aelod o’r cyfryngau ac yn chwilio am arbenigwr, ebostiwch eich ymholiad cychwynnol i swyddfa’r wasg.