Mae Abertawe, dinas glan môr Cymru a man geni Dylan Thomas, yn ddinas forol fywiog ac yn ganolfan siopa ranbarthol – ac mae'n gartref i Brifysgol orau Cymru, mewn rhan hardd o'r byd.
Dafliad carreg i ffwrdd, mae pentref Fictoraidd y Mwmblws yn cynnig dewis gwych o atyniadau, gan gynnwys pier, bwtigau traddodiadol, siopau crefft a siopau hufen iâ: adnabyddir y Mwmblws fel y Porth i Benrhyn Gŵyr – ardal o harddwch naturiol eithriadol cyntaf Prydain. Mae Penrhyn Gŵyr yn ymestyn i'r gorllewin o'r Mwmblws mewn dilyniant o olygfeydd arfordirol a gwledig trawiadol. I'r dwyrain, mae Gwlad y Rhaeadrau yng Nghwm Afan a Chwm Nedd yn boblogaidd iawn ymhlith cerddwyr a beicwyr.