Mae nifer o grwpiau a rhaglenni rhwydweithio wedi’u sefydlu ym Mhrifysgol Abertawe
Y Rhwydwaith Gofalwyr
Rydym yn falch o’r ffaith mai Abertawe oedd y sefydliad addysg uwch cyntaf yng Nghymru i ddod yn aelod o Employers for Carers ym mis Awst 2019. Mae’r aelodaeth yn cynnig mynediad at amrywiaeth o adnoddau sy’n gallu ein helpu i gefnogi ein staff sy’n cydbwyso gwaith a gofal.
Rhwydwaith Staff LGBT+
Mae gan y Brifysgol Rwydwaith sefydledig ar gyfer staff Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsryweddol (LGBT) +
Rhaglen Cyfeillion LGBT+
Mae Rhaglen y Cyfeillion yn agored i bawb yn y Brifysgol sy’n cefnogi cydraddoldeb LGBT+ ac sydd am dderbyn gwybodaeth am ymgyrchoedd, digwyddiadau a gweithgareddau LGBT+.
Grŵp Mary Williams
Rhwydwaith o fenywod mewn rolau uwch yn y Brifysgol a sefydlwyd ar Ddiwrnod Ada Lovelace (15 Hydref) 2013. Nod y Grŵp yw rhannu a defnyddio arfer da, hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn eu meysydd a gweithredu fel modelau rôl.
SIREN (Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Rhyngwladol Abertawe)
Mae Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol Rhyngwladol Abertawe (SIREN) yn rhwydwaith o unigolion sydd â diddordeb mewn hyrwyddo cydraddoldeb hiliol.
Y Rhwydwaith Staff Anabl
Rydym wrthi’n sefydlu Rhwydwaith Staff Anabl yn y Brifysgol.