Mae Prifysgol Abertawe’n hollol ymrwymedig i gydraddoldeb LGBT+
Rydym yn ymdrechu i wella a mesur ein llwyddiannau ym maes cydraddoldeb LGBT+ er mwyn sicrhau bod staff a myfyrwyr yn teimlo’n ddiogel ac wedi’u derbyn yn y gwaith ac yn eu hastudiaethau, waeth beth yw eu tueddfryd rhywiol a’u hunaniaeth rhywedd.
Rydym yn falch o fod yn aelodau o Fynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewal sy’n rhoi i ni offeryn meincnodi diffiniol i fesur ein cynnydd o ran cynnwys pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yn y gweithle.
Mae’r mynegai’n canolbwyntio ar 10 maes polisi ac arfer cyflogaeth, gan gynnwys grwpiau rhwydweithio, datblygu gyrfa, hyfforddiant ac ymgysylltu cymunedol.
Yn 2020, mae Prifysgol Abertawe wedi cadw safle 47 ym Mynegai Cyflogwyr y DU. Rydym yn falch iawn o wella’n safle ymhlith y Cyrff Addysg sy’n cyfranogi, gyda Phrifysgol Abertawe’n ennill y chweched safle yn y DU.