-
17 Awst 2022Prifysgol Abertawe i hyfforddi hyd yn oed mwy o fyfyrwyr meddygol
Mae Prifysgol Abertawe wedi sicrhau mwy o lefydd ar ei rhaglen Meddygaeth Mynediad i Raddedigion lwyddiannus fel rhan o fuddsoddiad gan y llywodraeth i gynyddu nifer y meddygon a hyfforddwyd yng Nghymru ar gyfer Cymru.
-
17 Awst 2022Myfyrwraig o Brifysgol Abertawe'n ennill gwobr am ei chyfraniad rhagorol at y Gymraeg
Cafodd Alpha Evans o Brifysgol Abertawe ei choroni'n enillydd Gwobr Merêd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion ym mis Awst.
-
16 Awst 2022Gwyddor deunyddiau a pheirianneg ar y brig yn y DU am foddhad myfyrwyr
Mae gwyddor deunyddiau a pheirianneg wedi cyrraedd y brig yn y DU am foddhad myfyrwyr yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS). Mae'r llwyddiant diweddaraf hwn yn dilyn gwobrau am waith arloesol yr adran ar dechnoleg ynni adnewyddadwy.
-
16 Awst 2022Arbenigwyr yn rhannu gwybodaeth er mwyn lleihau perygl tanau gwyllt ledled Ewrop
Gyda'r argyfwng hinsawdd yn cynyddu risg tanau gwyllt yn y DU a llawer o rannau eraill yng ngogledd Ewrop, mae gwyddonwyr o bedwar ban byd yn rhannu eu harbenigedd er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r peryglon.
-
12 Awst 2022Annog myfyrwyr i ganfod eu lle am ddyfodol disglair yn Abertawe
Gyda chanlyniadau Safon Uwch ar y gorwel yr wythnos nesaf, efallai fod rhai myfyrwyr yn teimlo'n ansicr ynghylch dechrau cwrs mewn prifysgol ar ôl heriau'r blynyddoedd diwethaf.
-
11 Awst 2022Tymereddau cynyddol ac amodau eithriadol o sych yn cyfrannu at berygl digynsail tanau gwyllt yn y DU
Yn ogystal â’r tymereddau uchaf a gofnodwyd erioed, mae’r DU yn wynebu amodau digynsail sy’n achosi perygl tanau gwyllt ac ymddygiad eithafol gan danau, yn ôl arbenigwyr tanau gwyllt.
-
10 Awst 2022Anrhydedd newydd i’r Athro am ei gyfraniad i Covid
Mae academydd o Abertawe sydd ar flaen y gad o ran llywio ein dealltwriaeth o Covid-19 wedi cael cydnabyddiaeth bellach am ei waith ym maes gwyddor data.
-
8 Awst 2022Gwobrau busnes uchel eu bri yng Nghymru'n dathlu graddedigion mentrus o Brifysgol Abertawe
Mae dau fusnes dan arweiniad graddedigion o Brifysgol Abertawe wedi derbyn yr anrhydeddau mwyaf yng Ngwobrau Busnesau Newydd Cymru eleni.
-
6 Awst 2022Prifysgol Abertawe'n cael ei henwi'n un o fannau gwyrdd gorau'r wlad
Barnwyd unwaith eto fod tiroedd nodedig ac amrywiol dau gampws Prifysgol Abertawe ymysg y mannau gwyrdd gorau yng Nghymru.
-
5 Awst 2022Gêm fideo arloesol sy'n cefnogi sgiliau iechyd meddwl a hyblygrwydd seicolegol
Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi datblygu ffordd unigryw o helpu pobl ifanc i feithrin gwytnwch seicolegol, gan ddefnyddio gêm fideo at ddibenion ymyriadau iechyd meddwl a dysgu corfforedig.
-
5 Awst 2022Morwellt yn fwy gwerthfawr na'r disgwyl i ddyfodol y blaned
Mae arbenigwyr sydd wrth wraidd ymdrechion i adfer dolydd morwellt arfordirol y DU yn dweud y dylid ailasesu cyfraniad y planhigyn anhygoel at y rhestr bwysicaf o bethau i'w gwneud yn hanes y ddynolryw.
-
5 Awst 2022Rhagolygon economaidd Cymru ar eu mwyaf ansicr am 20 mlynedd – arbenigwr yn dweud bod angen ymyrraeth strategol ac ymwybyddiaeth o ryngddibyniaeth
Mae rhagolygon economaidd Cymru'n fwy ansicr nag y buont ar unrhyw adeg ers sefydlu'r Cynulliad – ac mae angen mwy o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru a mwy o gydweithrediad rhwng gwleidyddion ar bob lefel, yn ôl barn arbenigwr blaenllaw mewn arolwg newydd o economi Cymru ers datganoli.
-
4 Awst 2022Sut gall dysgu am les hybu lles myfyrwyr prifysgol
Gallai astudio gwyddor lles fel rhan o'u cyrsiau fod yn ffordd allweddol o wella sut mae myfyrwyr heddiw yn ymdopi â'r llu o bethau sy'n achosi straen iddynt, yn ôl ymchwil.
-
3 Awst 2022OASIS solar: Trydan glân, gwyrdd a dibynadwy i bentref wrth i Adeilad Gweithredol cyntaf India agor
Bydd pentref yng nghefn gwlad India bellach yn cael trydan glân a dibynadwy am y tro cyntaf, diolch i Adeilad Gweithredol newydd ei agor, sy'n debyg i'r rhai hynny mae Abertawe wedi'u harloesi, sy'n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau ei bŵer solar ei hun.
-
2 Awst 2022Galwad am gasglu data am fwydo ar y fron er mwyn mesur effaith meddyginiaethau
Mae papur newydd gan Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â ConcePTION, prosiect a gefnogir gan IMI (Innovative Medicines Initiative), wedi galw am gasglu data am fwydo ar y fron yn rheolaidd mewn cronfeydd data gofal iechyd. Y nod yw meithrin dealltwriaeth well o effeithiau tymor hir meddyginiaethau a gymerir gan fenywod yn ystod beichiogrwydd ac wrth fwydo ar y fron.
-
2 Awst 2022Arbenigedd y Brifysgol i helpu preswylwyr mewn “Adeilad Byw” newydd yng nghanol Abertawe i dyfu eu bwyd eu hunain
Mae Canolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy Prifysgol Abertawe (CSAR) yn bartner allweddol mewn menter arloesol gan Biophilic Living a fydd yn darparu ymagwedd newydd at fyw a gweithio yn y ddinas.
-
1 Awst 2022Astudiaeth newydd yn datgelu bod y cyhoedd yn ei gwneud hi'n anos i fenywod fwydo ar y fron
Yn ôl ymchwilwyr, anghymeradwyaeth neu hyd yn oed ffieidd-dod gan y cyhoedd yw un o'r rhesymau pam mae rhai menywod yn amharod i fwydo ar y fron y tu allan i'r cartref.
-
30 Gorffennaf 2022Prifysgol Abertawe'n cydweithredu â'r brifysgol fwyaf i fenywod yn y byd er mwyn hybu'r sector ynni
Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth â'r brifysgol fwyaf i fenywod yn y byd er mwyn darparu rhaglen ar y cyd a fydd yn grymuso ysgolheigion benywaidd ifanc o Saudi Arabia yn y sector ynni.
-
29 Gorffennaf 2022Cyhoeddi enillwyr cyntaf erioed Gwobr y Canghellor
Dathlodd Prifysgol Abertawe gyflawniadau tri enillydd cyntaf erioed Gwobr y Canghellor yn ystod seremonïau graddio a gynhaliwyd yn Arena Abertawe yr wythnos hon.
-
29 Gorffennaf 2022Arbenigwr bioleg y môr yn coroni ei yrfa yn Abertawe gyda PhD ar ymddygiad morloi
Mae myfyriwr bioleg y môr a ddewisodd astudio am ei radd Baglor a'i radd Meistr ym Mhrifysgol Abertawe bellach wedi coroni'r cwbl drwy raddio gyda PhD yn y Gwyddorau Biolegol.
-
27 Gorffennaf 2022Torri ei chwys ei hun – llwyddiant nodedig Jessica yn dangos nad yw cyflwr ar y sbectrwm awtistig yn rhwystr iddi
Mae menyw sydd ymhlith y bobl gyntaf yn ei theulu i fynd i'r brifysgol, ac sy’n byw gyda syndrom Asperger ac anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), wedi talu teyrnged i bawb sydd wedi ei chefnogi, gan annog eraill i ddilyn ei hesiampl, wrth iddi ennill gradd meistr – gyda rhagoriaeth – mewn Hanes ym Mhrifysgol Abertawe.
-
27 Gorffennaf 2022Arbenigwyr yn uno i ddathlu hwb gwerth £2m ar gyfer Uwchgyfrifiadura Cymru
Mae arbenigwyr data, cyflenwyr technoleg a llunwyr polisi wedi dod ynghyd i ddathlu pŵer a dyfodol uwchgyfrifiadura yng Nghymru.
-
27 Gorffennaf 2022Cyhoeddi arlwy Prifysgol Abertawe yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022
Mae Prifysgol Abertawe yn falch o noddi'r Babell Lên yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2022.
-
26 Gorffennaf 2022Michelle yn rhoi aren wrth weithio ac astudio i fod yn barafeddyg yn ystod y pandemig
Mae menyw o'r Barri'n dathlu graddio heddiw, gan goroni taith academaidd, broffesiynol a phersonol lle cymhwysodd i fod yn barafeddyg wrth weithio i'r GIG yn ystod y pandemig. Yn ogystal, cymerodd ran mewn proses cyfnewid arennau a helpodd ei gor-nith i wella ar ôl salwch difrifol.
-
22 Gorffennaf 2022Mae bwrsariaethau mathemateg Carol Vorderman gwerth £2,000 ar agor i bob myfyriwr – gan gynnwys y rhai sy’n cyflwyno cais drwy glirio
Mae naw bwrsariaeth mynediad at fathemateg Carol Vorderman – sy’n werth £2,000 yr un – ar gael i’r holl fyfyrwyr sy’n cyflwyno cais i astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe, gan gynnwys y rhai sy’n cyflwyno cais drwy glirio.
-
21 Gorffennaf 2022Myfyrwraig sy'n gwella ar ôl anhwylder bwyta'n dathlu graddio
Mae menyw sydd wedi dioddef o iechyd meddwl gwael ac anhwylder bwyta'n dathlu heddiw wrth iddi raddio o Brifysgol Abertawe gyda gradd israddedig mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff.
-
21 Gorffennaf 2022Rhywogaethau bacterol newydd o bridd Asia yn helpu'r frwydr yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau
Mae arbenigwyr o Brifysgol Abertawe wedi helpu i nodi sawl rhywogaeth newydd o facteria sy'n tyfu ym mhridd cras Asia a allai wneud cyfraniad allweddol at y frwydr yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau.
-
19 Gorffennaf 2022Marwolaeth drasig arddegwr yn ysbrydoli ei mam i ennill gradd a dechrau gyrfa newydd
Mae myfyrwraig aeddfed a gafodd drasiedi enbyd yn ei theulu yn ystod ei chwrs gradd bellach wedi graddio'n llwyddiannus, er cof am ei diweddar ferch.
-
18 Gorffennaf 2022Ysgolion cynradd yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn astudiaeth diogelwch haul
Mae ymchwilydd sydd wedi’i hysgogi gan losg haul ei mab ar ddiwrnod mabolgampau ysgol yn annog ysgolion cynradd ledled Cymru i helpu i ddatblygu canllawiau diogelwch haul ar gyfer tymhorau’r gwanwyn a’r haf.
-
18 Gorffennaf 2022Darlithydd o Brifysgol Abertawe'n cael ei gydnabod am wneud gwahaniaeth sylweddol i fywyd myfyrwyr
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyflwyno gwobr uchel ei bri i ddarlithydd o Brifysgol Abertawe sydd wedi rhoi cymorth anfesuradwy i'w fyfyrwyr.
-
15 Gorffennaf 2022Cynrychiolwyr yn rhannu arbenigedd mewn cynhadledd ynghylch deallusrwydd artiffisial
Daeth ymchwilwyr doethurol ac academyddion sy'n gysylltiedig â dwy ganolfan hyfforddiant doethurol mewn deallusrwydd artiffisial a gwyddor data ynghyd i rannu syniadau yng Nghynhadledd Deallusrwydd Artiffisial 2022.
-
14 Gorffennaf 2022Sut gall dur yn ein hadeiladau gynhyrchu ynni glân – cydweithrediad newydd rhwng y Brifysgol a Tata Steel
Paneli solar mewn toeau sy'n wyrddach, yn ysgafnach, yn rhatach ac yn fwy hyblyg, ac y gellir eu hargraffu ar y dur a ddefnyddir mewn adeiladau, yw ffocws cydweithrediad ymchwil tair blynedd newydd rhwng arbenigwyr Abertawe a Tata Steel UK.
-
12 Gorffennaf 2022Astudiaeth yn dangos y ffactorau sy'n effeithio ar agwedd y cyhoedd tuag at Covid a'r normal newydd
Gallai'r argyfwng ynghylch partïon yn adeiladau llywodraeth y DU, diffyg sylw i'r feirws yn y cyfryngau a'r gred ei fod bellach yn llai peryglus i gyd effeithio ar gydymffurfiaeth â chanllawiau Covid yn y dyfodol.
-
12 Gorffennaf 2022Ymchwilwyr i ddatblygu ffyrdd digidol o ddatrys diffygion mewn gwaith adeiladu mawr sy’n cynnwys concrit
Dyfarnwyd cyllid gwerth £322,000 i dîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe er mwyn datblygu ffyrdd digidol o leihau diffygion mewn gwaith adeiladu sy’n cynnwys concrit.
-
5 Gorffennaf 2022Cofrestr MS y DU yn dathlu 10fed pen-blwydd gyda hwb ariannol o £2m
Mae Cofrestr Cymdeithas Parlys Ymledol (Multiple Sclerosis) y DU nid yn unig yn dathlu degawd o gasglu data ac ymchwil hanfodol, mae hefyd wedi sicrhau £2 filiwn arall o gyllid.
-
5 Gorffennaf 2022Arbenigwr cemeg yn sicrhau cyllid gan Sefydliad Humboldt i recriwtio gwyddonwyr ar gyfer ymchwil i nanoddeunyddiau
Mae arbenigwr mewn nanoddeunyddiau sy'n gweithio yn Abertawe a'r Almaen wedi sicrhau tua £250,000 o gyllid gan Sefydliad Humboldt i recriwtio gwyddonwyr gyrfa gynnar i ymuno â'i dîm ymchwil.
-
5 Gorffennaf 2022Prifysgol Abertawe'n Ennill Gwobr Ragoriaeth AGCAS Uchel ei Bri
Mae Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe wedi ennill y categori Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb yng Ngwobrau Rhagoriaeth AGCAS (Cymdeithas y Gwasanaethau Cynghori ar Yrfaoedd i Raddedigion) eleni.
-
4 Gorffennaf 2022Nifer sylweddol o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe'n cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad
Bydd saith myfyriwr presennol Prifysgol Abertawe a thri o'n graddedigion yn cystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad yr haf hwn yn Birmingham.
-
1 Gorffennaf 2022Animeiddiad newydd i gadw plant yn ddiogel ar-lein rhag perthnasoedd rhywiol amhriodol
Bydd animeiddiad newydd ac argymhellion adroddiad, a ddatblygwyd gan brosiect diogelwch ar-lein DRAGON-S Prifysgol Abertawe, yn darparu adnoddau hanfodol i gynorthwyo â hyfforddiant rhag meithrin perthnasoedd rhywiol amhriodol â phlant ar-lein.
-
30 Mehefin 2022Newid yn yr hinsawdd yn cynyddu tebygolrwydd tanau gwyllt yn fyd-eang – ond gall pobl helpu i leihau'r risg
Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw yn amlygu bod risg tanau gwyllt yn cynyddu'n fyd-eang o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, a bod hynny'n digwydd yn gyflymach na rhagamcanion modelau o'r hinsawdd.
-
30 Mehefin 2022Y swydd berffaith i bennaeth newydd y Ganolfan Eifftaidd
Yn ogystal â chynnau brwdfrydedd gydol oes Ken Griffin dros Eifftoleg, mae ymweliad ag amgueddfa yn ystod ei blentyndod wedi arwain at sicrhau'r swydd berffaith iddo.
-
30 Mehefin 2022Plant iau yn y flwyddyn ysgol yn fwy tebygol o gael eu trin am ADHD
Mae plant iau yn y flwyddyn ysgol yn fwy tebygol o gael eu trin am ADHD, sy'n awgrymu y gall anaeddfedrwydd ddylanwadu ar ddiagnosis.
-
29 Mehefin 2022Prifysgol Abertawe yw'r 15fed brifysgol orau yn y DU yng Ngwobrau StudentCrowd
Prifysgol Abertawe yw'r 15fed brifysgol orau yn y DU yng Ngwobrau Prifysgol StudentCrowd 2022, ac mae wedi cyrraedd yr 20fed safle yng nghategori Undeb y Myfyrwyr.
-
29 Mehefin 2022Ymchwil cipio carbon yn helpu diwydiant i leihau allyriadau carbon
Fel rhan o drefniant cydweithio rhwng ymchwilwyr yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) ym Mhrifysgol Abertawe a’r cynhyrchydd inswleiddio ROCKWOOL Limited, bydd uned arddangos newydd ar gyfer carbon deuocsid yn cael ei osod ar safle gweithgynhyrchu’r cwmni ym Mhen-y-bont, De Cymru.
-
28 Mehefin 2022Abertawe i arwain rhwydwaith ymchwil rhyngwladol ar eithafiaeth wleidyddol ar-lein dreisgar
Bydd Prifysgol Abertawe'n gwneud cyfraniad blaenllaw at rwydwaith ymchwil rhyngwladol, a sefydlwyd yn 2014 drwy gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd (UE), sy'n astudio eithafiaeth a therfysgaeth ar-lein ac ymatebion iddynt.
-
28 Mehefin 2022Y Ganolfan Eifftaidd ar y rhestr fer ar gyfer gwobr nodedig i amgueddfeydd
Cyhoeddwyd heddiw fod Canolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Kids in Museums i Amgueddfeydd sy'n Croesawu Teuluoedd.
-
27 Mehefin 2022Defnydd terfysgwyr o'r cyfryngau cymdeithasol, a sut i wrthsefyll y bygythiad – Abertawe'n cynnal cynhadledd ryngwladol i arbenigwyr
Defnydd grwpiau terfysgol o'r cyfryngau cymdeithasol, a sut gellir ei wrthsefyll, fydd yn cael prif sylw cynhadledd ryngwladol nodedig yn Abertawe, a fydd yn dod ag ymchwilwyr, ymarferwyr a chynrychiolwyr o lywodraethau a chwmnïau technolegol mawr ledled y byd ynghyd.
-
27 Mehefin 2022Ymagwedd gynaliadwy at reoli plâu bwyd – Abertawe i gynnal cynhadledd ryngwladol fawr i arbenigwyr
Mae bwydo poblogaeth sy'n tyfu wrth leihau'r effaith ar yr amgylchedd yn her ddybryd, ond bydd cynhadledd ryngwladol fawr ym Mhrifysgol Abertawe'n helpu drwy ddod ag arbenigwyr ym maes rheoli plâu integredig at ei gilydd. Byddant yn trafod ymagweddau newydd at reoli pryfed sy'n blâu a fydd yn lleihau'r ddibyniaeth ar bryfladdwyr cemegol niweidiol.
-
24 Mehefin 2022Hwb i ddiogelwch wrth i Barc Singleton gael goleuadau ychwanegol
Bydd Parc Singleton yn cael goleuadau newydd er mwyn helpu i gadw myfyrwyr a staff yn ddiogel.
-
23 Mehefin 2022Rhestr o'r menywod disgleiriaf ym maes peirianneg yn cydnabod academyddion o Brifysgol Abertawe
Mae'r Athro Serena Margadonna o Brifysgol Abertawe wedi cael ei henwi ymhlith y 50 o fenywod disgleiriaf ym maes peirianneg (WE50) yn y DU gan WES (Women's Engineering Society).
-
23 Mehefin 2022Prifysgol Abertawe yn lansio strategaeth iaith a diwylliant Cymraeg newydd
Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio strategaeth pum mlynedd newydd sy'n amlinellu ei huchelgeisiau a’i dyheadau ar gyfer parhau â’i gwaith o sicrhau lle blaenllaw i’r Gymraeg yn y sefydliad ac yn y gymuned leol.
-
22 Mehefin 2022Adroddiad Cynllun S4 am ganfyddiadau 10 mlynedd gyntaf y rhaglen allgymorth gwyddoniaeth
Mae gwaith dadansoddi a wnaed gan Gynllun Gwyddoniaeth i Ysgolion (S4) Prifysgol Abertawe, sef rhaglen allgymorth STEM ar gyfer ehangu mynediad a sefydlwyd yn 2012, wedi canfod bod y rhaglen yn cael effaith gadarnhaol ar bobl ifanc o ardaloedd tlawd drwy wella eu dyheadau gyrfa a'u barn am astudio gwyddoniaeth yn y brifysgol.
-
20 Mehefin 2022Hwb gwerth £2m i droi syniadau disglair yn gyfleoedd byd-eang
Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill cyllid gwerth mwy na £2m i barhau i ddatblygu effaith ei gwaith ymchwil ac arloesi eang.
-
16 Mehefin 2022Rhestr fer wedi'i chyhoeddi ar gyfer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2022
Mae athro ysgol dan hyfforddiant, rhywun sydd wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobr Stori Fer Costa ac awdur y darlledwyd ei waith ar BBC Radio 4 ymhlith y 12 o awduron ar restr fer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2022.
-
13 Mehefin 2022Prifysgol Abertawe'n noddi crysau oddi cartref Dinas Abertawe yn ystod 2022-23
Bydd logo Prifysgol Abertawe yn ymddangos ar flaen crysau oddi cartref newydd Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn ystod tymor 2022-23.
-
2 Mehefin 2022Technocamps yn ennill gwobr UKRI
Mae Technocamps wedi ennill Gwobr Ysbrydoliaeth STEM Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) am Gyfraniad Neilltuol at Ehangu Cyfranogiad, Amrywiaeth a Chynhwysiant mewn pynciau STEM.
-
1 Mehefin 2022Gweledigaeth i wneud Abertawe'n ganolfan cynhyrchion naturiol gam yn nes
Gallai ardal Abertawe fod yn ganolfan cynhyrchion naturiol – o fioblaladdwyr i ddewisiadau amgen naturiol ym maes cynhyrchion cosmetig a fferyllol – gan fod cyllid newydd gael ei gadarnhau am astudiaeth ddichonoldeb ynghylch sefydlu hyb newydd i gefnogi ymchwil a busnesau yn y sector hwn sy'n tyfu'n gyflym.
-
1 Mehefin 2022Prifysgol Abertawe'n cynnal cyfres o ddigwyddiadau i ddathlu bywyd a gwaith Ludwig Wittgenstein
Caiff bywyd a gwaith Ludwig Wittgenstein, yr athronydd a symudodd o Awstria i Brydain, eu dathlu drwy gyfres o ddigwyddiadau a gynhelir gan Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â Fforwm Diwylliannol Awstria yn Llundain a Menter Wittgenstein ym mis Mehefin 2020. Yn ôl llawer o bobl, ef oedd athronydd mwyaf yr 20fed ganrif.
-
31 Mai 2022Argraffiad diweddaraf llyfr yn archwilio problemau twristiaeth allweddol yr oes
Mae'r problemau y mae atyniadau i ymwelwyr ledled y byd yn eu hwynebu bellach yn cael eu harchwilio yn argraffiad diweddaraf llyfr a olygwyd gan arbenigwr twristiaeth o Brifysgol Abertawe
-
30 Mai 2022Siarter newydd i hyrwyddo teithio cynaliadwy ym Mae Abertawe
Cynhaliodd Prifysgol Abertawe lansiad ar gyfer Siarter Teithio Llesol Bae Abertawe, a lofnodwyd gan 11 o'r prif sefydliadau ar draws y rhanbarth.
-
26 Mai 2022Prifysgol Abertawe’n cyhoeddi arlwy'r GwyddonLe yn Eisteddfod yr Urdd Sir Ddinbych 2022
Mae Prifysgol Abertawe yn falch o noddi un o brif atyniadau maes Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, sef pafiliwn y GwyddonLe, eto eleni, gan gynnig wythnos lawn o weithgareddau addysgiadol difyr i blant a phobl ifanc.
-
25 Mai 2022Safleoedd Effaith Times Higher Education 2022
Mae Prifysgol Abertawe ymysg y 200 prifysgol orau yn Safleoedd Effaith Times Higher Education 2022.
-
24 Mai 2022Prosiect ffilmiau dogfen yn uno'r Brifysgol a'r gymuned i dynnu sylw at benrhyn Gŵyr
Caiff prosiect ffilmiau unigryw a ddaeth â myfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe a'r gymuned ynghyd i arddangos harddwch Gŵyr ei lansio'n swyddogol fis nesaf.
-
24 Mai 2022Gwobrau Ymchwil ac Arloesi'n gyfrifol am ddathliad mawr cyntaf Prifysgol Abertawe ers 2020
Amlygwyd ehanger ymchwil Prifysgol Abertawe sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang yng Ngwobrau Ymchwil ac Arloesi 2022 wrth i 14 o brosiectau gael eu gwobrwyo.
-
20 Mai 2022Astudiaeth newydd yn chwilio am siaradwyr Cymraeg sy'n byw mewn cartrefi gofal
Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe'n chwilio am help i gynnal astudiaeth unigryw o brofiad siaradwyr Cymraeg hŷn o ofal.
-
19 Mai 2022Cynhadledd ymchwil i hybu partneriaeth Prifysgol Abertawe â Grenoble a'i chysylltiadau Ewropeaidd
Bydd cysylltiadau Ewropeaidd ac ymchwil Prifysgol Abertawe ym mhob rhan o'r sefydliad yn cael eu cryfhau pan fydd ymchwilwyr sy'n gweithio yn Abertawe a Ffrainc yn cwrdd ym mis Gorffennaf, fel rhan o bartneriaeth ffyniannus ag Université Grenoble Alpes (UGA).
-
18 Mai 2022Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe ar restr fer gwobrau gyrfaoedd a chyflogadwyedd mawreddog
Mae Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwebu am bum gwobr yng Ngwobrau Rhagoriaeth AGCAS (Association of Graduate Careers Advisory Services) 2022.
-
18 Mai 2022Diogelu plant rhag yr haul – bydd ymchwil newydd yn archwilio rôl ysgolion cynradd wrth atal canser y croen
Wrth i gyfraddau canser y croen gynyddu, gan gynnwys llawer o achosion y gellir eu hatal, bydd prosiect ymchwil newydd yn archwilio rôl ysgolion cynradd yng Nghymru ac yn asesu effeithiolrwydd polisïau diogelwch rhag yr haul wrth amddiffyn plant. Bydd y canlyniadau'n helpu i atal canser y croen yn well yng Nghymru a'r tu hwnt.
-
18 Mai 2022Profion iechyd yn gwneud gwahaniaeth wrth achub bywydau pobl sydd ag anabledd dysgu
Mae ymchwilwyr o Gymru wedi canfod bod profion iechyd yn helpu pobl sydd ag anabledd dysgu i oroesi, yn enwedig y rhai sy'n dioddef o awtistiaeth neu syndrom Down.
-
16 Mai 2022Cyllid i helpu prosiect arloesol ym maes lled-ddargludyddion i gyflawni uchelgeisiau sero net
Mae cyfleuster ymchwil ac arloesi newydd ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn hwb cyllid gwerth bron £2.5m i gynnal prosiect a fydd yn treialu strategaethau arloesol i leihau allyriadau fel y bydd y diwydiant lled-ddargludyddion yn helpu'r sector i gyflawni ei uchelgeisiau sero net.
-
12 Mai 2022Nofel gyntaf Patricia Lockwood yn ennill Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2022
Mae bardd, nofelydd ac ysgrifydd o America, Patricia Lockwood, wedi ennill un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – am ei nofel gyntaf, No One Is Talking About This (Bloomsbury Publishing).
-
12 Mai 2022Cynnydd yn ymchwil y Brifysgol sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang ac sy'n rhagori'n rhyngwladol
Mae canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF2021) a gyhoeddwyd heddiw (12 Mai) yn dangos bod cyfran Prifysgol Abertawe o ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ac sy'n rhagori'n rhyngwladol wedi gwella. Yn asesiad 2021, barnwyd bod 86% o ymchwil gyffredinol y Brifysgol yn 4* (yn arwain y ffordd yn fyd-eang) neu'n 3* (yn rhagori'n rhyngwladol) – i fyny o 80% yn REF2014.
-
11 Mai 2022Canfod feirysau drwy bigiad pin
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe, Biovici Ltd ac yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol wedi datblygu dull i ganfod feirysau mewn cyfeintiau bach iawn.
-
11 Mai 2022Academi'r Gwyddorau Meddygol yn enwi Athro Iechyd Cyhoeddus yn Gymrawd
Mae arbenigwr iechyd cyhoeddus o Brifysgol Abertawe wedi cael ei anrhydeddu gan Academi'r Gwyddorau Meddygol.
-
11 Mai 2022Gweld mwy o rywogaethau ar yr arfordir yn gwella lles – ymchwil newydd yn tanlinellu buddion bioamrywiaeth
Mae gweld nifer mawr o rywogaethau ar arfordiroedd trefol – o anifeiliaid morol i wymonau – yn debygol o wella lles pobl leol ac ymwelwyr, yn ôl ymchwil newydd gan dîm ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r canfyddiadau'n darparu rhagor o dystiolaeth bod bioamrywiaeth yn creu buddion pellgyrhaeddol.
-
9 Mai 2022Addysg a photensial ennill yn allweddol i boblogrwydd wrth chwilio am gariad ar-lein
Ni all arian brynu cariad ond mae'n gwneud eich proffil yn fwy atyniadol wrth chwilio am gariad ar-lein. Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod lefel addysg ac incwm yn arbennig o bwysig, yn enwedig yn achos dynion.
-
9 Mai 2022Prifysgol Abertawe yng Ngŵyl y Gelli
Mae straeon byrion cwiar o Gymru, lleisiau pob dydd o bandemig Covid-19, a chyfrol fuddugol Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni ymhlith y pynciau'n sy'n barod i ddifyrru cynulleidfaoedd yng Ngŵyl y Gelli wrth iddi gael ei chynnal am y 35ed tro rhwng 26 Mai a 5 Mehefin.
-
8 Mai 2022Astudiaeth newydd yn awgrymu na chyrchwyd gwasanaethau gan bedwar o bob 10 person roedd angen gofal cymdeithasol arnynt yn ystod y pandemig
Ni chyrchwyd gwasanaethau gan gynifer â phedwar o bob 10 person yng Nghymru roedd angen gofal cymdeithasol arnynt o bosib yn ystod pandemig Covid-19, yn ôl adroddiad newydd.
-
4 Mai 2022Ymchwil newydd yn dangos sut gall syrffio hybu lles y rhai sy'n goroesi anafiadau i'r ymennydd
Mae cenedlaethau o syrffwyr yn gwybod nad oes unrhyw beth tebyg i ddal y don berffaith, ond mae ymchwil newydd bellach wedi archwilio pa mor llesol y mae pŵer y môr.
-
3 Mai 2022Cymdeithas Ddysgedig Cymru'n anrhydeddu academyddion o Brifysgol Abertawe
Mae wyth academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith y newydd-ddyfodiaid i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
-
29 Ebrill 2022Myfyriwr o Brifysgol Abertawe'n ennill dwy wobr mewn cystadleuaeth gwyddoniaeth seneddol
Mae ymchwilydd PhD mewn cemeg wedi ennill dwy wobr yn STEM for BRITAIN, sef cystadleuaeth posteri gwyddonol fawr a gynhelir yn Senedd y DU, sydd â'r nod o roi dealltwriaeth i wleidyddion o'r gwaith ymchwil rhagorol y mae ymchwilwyr gyrfa gynnar yn ei wneud ym mhrifysgolion y DU.
-
29 Ebrill 2022Sefydliad Cymru gyfan yn gweithio i hyrwyddo iechyd a lles y genedl: Adolygu'r flwyddyn
Mae'r heriau unigryw sy'n wynebu iechyd a lles wrth i ni gyrraedd cyfnod newydd ar ôl y pandemig wedi cael eu hamlygu mewn adroddiad blynyddol a lansiwyd heddiw.
-
28 Ebrill 2022Partneru i ddarparu cyfleoedd ymchwil ac arloesi
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe yn cydweithio i helpu i wella iechyd a lles cymunedau yn y tair sir o dan gytundeb newydd.
-
28 Ebrill 2022Ymchwilwyr Abertawe'n datblygu dull newydd i atal moleciwl rhag cylchdroi drwy ddefnyddio ynni isel iawn
Mae ymchwilwyr Abertawe wedi datblygu dull newydd i atal moleciwl rhag cylchdroi drwy ddefnyddio ynni isel iawn, gan daflu goleuni newydd ar ryngweithiadau rhwng moleciwlau ac arwynebau.
-
26 Ebrill 2022Derw hynafol i daflu goleuni ar hinsawdd y 4,500 o flynyddoedd diwethaf
Bydd ymchwilwyr cyn bo hir yn gallu ail-lunio hinsawdd gogledd-orllewin Ewrop, gan gynnwys y DU, dros y 4,500 o flynyddoedd diwethaf, a dyddio adeiladau a gwrthrychau pren mewn modd mwy cywir, drwy ddadansoddi cemeg hen dderw. Gwneir hyn drwy brosiect newydd a arweinir gan Abertawe sydd newydd gael ei ddewis i dderbyn cyllid Ewropeaidd gwerth €3m.
-
26 Ebrill 2022Ymchwilydd yn ennill cyllid rhyngwladol i helpu i arloesi gofal ym maes diabetes
Mae gwaith arloesol ymchwilydd o Brifysgol Abertawe ym maes diabetes wedi'i helpu i gael hwb mawr o ran cyllid.
-
26 Ebrill 2022Ysgolion y DU yn darparu addysg annigonol am y gylchred fislifol, yn ôl astudiaeth
Mae addysg am y gylchred fislifol yn ysgolion y DU yn anghyson ac yn annigonol, ac mae athrawon yn teimlo bod ganddynt ddiffyg amser, hyder a gwybodaeth am y pwnc, yn ôl ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe.
-
25 Ebrill 2022Prifysgol Abertawe ar restr fer Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2022
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer y categori Allgymorth ac Ehangu Cyfranogiad yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni eleni.
-
22 Ebrill 2022Castell Howell ac Arena Abertawe i noddi Prifysgol Abertawe ar gyfer Varsity Cymru
Castell Howell, y cyfanwerthwr bwyd o Gymru, ac Arena Abertawe, y lleoliad digwyddiadau newydd, fydd prif noddwyr Prifysgol Abertawe wrth i Varsity Cymru ddychwelyd eleni.
-
13 Ebrill 2022Myfyrwyr entrepreneuraidd Abertawe yn hybu eu syniadau busnes drwy The Big Pitch
Cafodd syniadau busnes myfyrwyr entrepreneuraidd hwb mawr yng nghystadleuaeth flynyddol The Big Pitch Prifysgol Abertawe, wedi'i noddi gan Santander Universities.
-
12 Ebrill 2022Adolygiad newydd yn canfod bod mamau awtistig yn wynebu rhwystrau ychwanegol i fwydo ar y fron
Mae adolygiad newydd gan Brifysgol Abertawe, gan weithio gyda Phrifysgol Caint ac Autistic UK, y sefydliad nid-er-elw, wedi canfod nad yw cymorth bwydo ar y fron gan fydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn addas i ddiwallu anghenion menywod awtistig yn aml.
-
8 Ebrill 2022Partneriaethau Prifysgol Abertawe'n cefnogi ymchwil i ddiogelu ac adfer coedwigoedd glaw
Mae ymchwilwyr blaenllaw yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn parhau â phartneriaeth lwyddiannus â rhaglen ymchwil flaenllaw i goedwigoedd glaw ym Morneo yn dilyn grant ymchwil newydd gwerth £330,000.
-
6 Ebrill 2022Gwobrau uchel eu bri'n cydnabod cydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe ac Aspire2Be
Mae Prifysgol Abertawe ac Aspire2Be wedi cael cymeradwyaeth uchel yng Ngwobrau Cenedlaethol Cyflogadwyedd Israddedigion o ganlyniad i'w prosiect ar y cyd, iBroadcast.
-
6 Ebrill 2022Tablau QS o Brifysgolion y Byd fesul Pwnc 2022: Prifysgol Abertawe'n perfformio'n well nag erioed
Mae Prifysgol Abertawe wedi perfformio'n well nag erioed yn un o'r tablau mwyaf blaenllaw o brifysgolion y byd fesul pwnc a gyhoeddwyd heddiw.
-
5 Ebrill 2022Prosiect ymchwil newydd yn cymryd camau tuag at economi gylchol
Mae prosiect ymchwil â’r nod o ddod ag economi wirioneddol gylchol un cam yn agosach wedi derbyn grant ymchwil gwerth £1.2m gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (ESPRC).
-
1 Ebrill 2022Myfyriwr o Brifysgol Abertawe'n ennill £1,000 drwy gystadleuaeth Dealer Tech
Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi ennill £1,000 mewn cystadleuaeth am ei syniad i greu cronfa ddata ar-lein ar gyfer cyflenwyr, gwneuthurwyr a delwriaethau cerbydau.
-
1 Ebrill 2022Academydd o Brifysgol Abertawe'n ennill gwobr am y traethawd ymchwil gorau
Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill gwobr Agronomy am y traethawd ymchwil PhD gorau o ganlyniad i'w ymchwil i sefydlu cyfuniad newydd o ddulliau o ganfod clefydau mewn cnydau bwyd, a allai gael effaith economaidd ac amgylcheddol fyd-eang.
-
31 Mawrth 2022Y Brifysgol yn ymuno mewn dathliad arbennig o gefnogaeth Abertawe i fudwyr
Mae Prifysgol Abertawe'n gwneud cyfraniad allweddol at helpu i lywio gwybodaeth pobl ifanc am fudo mewn arddangosfa newydd unigryw yn y ddinas.
-
31 Mawrth 2022Lleisiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn flaenllaw ar restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2022
Mae'r rhestr fer ar gyfer un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – wedi cael ei chyhoeddi. O Sri Lanka i Trinidad, Tecsas, ac Iwerddon drwy'r Dwyrain Canol, mae'r rhestr fer eleni'n cynnwys casgliad pwerus o lenorion rhyngwladol sy'n rhoi llais i rai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
-
29 Mawrth 2022Gwella palmentydd ffordd asffalt gan ddefnyddio nanogyfansoddion mwynol wedi’u peiriannu
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Dechnegol Braunschweig wedi datblygu rhwymydd asffalt newydd ac ecogyfeillgar ar y lefel nano.
-
25 Mawrth 2022Bysedd yn dangos cysylltiad rhwng testosteron isel a derbyniadau i'r ysbyty oherwydd Covid-19
A allai hyd bysedd rhywun awgrymu pa mor sâl y gallai fod ar ôl dal Covid-19?
-
23 Mawrth 2022Prifysgol Abertawe'n llofnodi’r Ymrwymiad i Dechnegwyr
Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi’r Ymrwymiad i Dechnegwyr, gan ymuno â thros hanner prifysgolion y DU a sawl sefydliad ymchwil wrth gefnogi addewid i gefnogi eu technegwyr.
-
21 Mawrth 2022Gwarchod coed anferth yr Amason – ymweliad gan ddaearyddwraig o Abertawe'n casglu data allweddol ac yn sicrhau ymrwymiad gan lywodraeth
Mae daearyddwraig o Abertawe wedi dychwelyd o'r Amason yn ddiweddar ar ôl casglu data allweddol am goed anferth dros 80 metr o uchder, a ddarganfuwyd yn gyntaf gyda'i chymorth hithau yn 2018. O ganlyniad i'r gwaith hwn, mae llywodraeth y dalaith ym Mrasil wedi ymrwymo i gyhoeddi Bil i'w gwarchod hwythau a'u hamgylchoedd.
-
18 Mawrth 2022Y Brifysgol yn taflu goleuni ar bwysigrwydd ailgylchu
Dangosodd Prifysgol Abertawe ei hymrwymiad i gynaliadwyedd drwy droi'n wyrdd i ddathlu Diwrnod Ailgylchu Byd-eang.
-
17 Mawrth 2022Myfyrwyr yn teithio dros yr Iwerydd i rannu ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial
Mae myfyrwyr PhD o Brifysgol Abertawe wedi bod yn rhannu eu hymchwil arloesol i ddeallusrwydd artiffisial â chydweithwyr yn America.
-
13 Mawrth 2022Dyfarniadau Cwmni Lifrai Cymru yn hybu ymchwil i sglerosis ymledol a bywyd morol
Mae dau ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill ysgoloriaethau teithio gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, a fydd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu gwaith ymchwil a'i rannu gydag arbenigwyr eraill.
-
11 Mawrth 2022Datganiad yr Is-ganghellor am Wcráin
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymuno â phrifysgolion a sefydliadau academaidd ledled y byd wrth gondemnio'n ddiamwys benderfyniad gwladwriaeth Rwsia i ymosod ar Wcráin.
-
11 Mawrth 2022Ymweliad brenhinol â chyfleuster ymchwil sy'n newid bywydau yn Abertawe
Ymwelodd Ei Huchelder Iarlles Wessex, noddwr The Scar Free Foundation, â'r rhaglen ymchwil adlunio wynebau blaenllaw ym Mhrifysgol Abertawe, gan gwrdd â chleifion a allai elwa o'r astudiaethau arloesol hyn.
-
9 Mawrth 2022Ymweliad â swyddogion diwylliannol yn hybu cysylltiadau Abertawe ag Oman a Qatar
Cysylltiadau cryfach ag Oman a Qatar oedd testun y trafodaethau yn ystod ymweliad gan uwch-gynrychiolwyr Prifysgol Abertawe â swyddfeydd Swyddogion Diwylliannol y ddwy wlad yn Llundain.
-
8 Mawrth 2022Diwydiannau gwyrddach – peirianwyr cemegol yn canfod ffyrdd newydd o ailddefnyddio carbon er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd
Mae peirianwyr cemegol o Brifysgol Abertawe'n dod o hyd i ffyrdd newydd o ddal ac ailddefnyddio carbon drwy greu cynhyrchion newydd er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
-
4 Mawrth 2022Astudiaeth newydd yn archwilio sut gallai llygryddion dan do effeithio ar iechyd plant
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi lansio astudiaeth fawr i ddarganfod sut mae llygryddion pob dydd yn effeithio ar ddatblygiad ac iechyd ffetysau a phlant.
-
3 Mawrth 2022Astudiaeth yn darganfod bod newyddion rhwydweithiau'r DU yn rhoi mwy o sylw i faterion datganoledig o ganlyniad i bandemig Covid-19
Mae astudiaeth newydd a gomisiynwyd gan Ofcom wedi datgelu bod darparwyr newyddion rhwydweithiau'r DU wedi rhoi mwy o sylw i bynciau datganoledig, yn bennaf o ganlyniad i'r pandemig.
-
3 Mawrth 2022Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng nghwmni'r Farwnes Tanni Grey-Thompson
Bydd y Farwnes Tanni Grey-Thompson yn siarad am yr heriau y mae hi wedi'u hwynebu a sut mae hi wedi'u goresgyn hwy, gan ddilyn thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022, sef #BreakTheBias.
-
3 Mawrth 2022Storio gwres yn yr haf i'w ddefnyddio yn y gaeaf – gallai ymchwil newydd i ddulliau storio ynni thermol leihau biliau a hybu ynni adnewyddadwy
Technoleg newydd a allai storio gwres am ddiwrnodau neu fisoedd hyd yn oed, gan helpu'r broses o symud tuag at sero net, yw ffocws prosiect newydd sy'n cynnwys Rhaglen Ymchwil y Ganolfan Adeiladu Gweithredol, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, sydd newydd gael cyllid gwerth £146,000.
-
24 Chwefror 2022Gwyddonydd o Brifysgol Abertawe i gyflwyno ei ymchwil yn Senedd y DU
Bydd Thomas Spriggs, myfyriwr ymchwil PhD ym Mhrifysgol Abertawe, yn cyflwyno ei ymchwil ffiseg yn Senedd y DU, i banel llawn beirniaid arbenigol a gwleidyddion, fel un o’r ymgeiswyr yn rownd derfynol STEM for Britain 2022.
-
23 Chwefror 2022Prifysgol Abertawe yn 26ain ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall
Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwi ymysg y 100 o gyflogwyr mwyaf cynhwysol yn y DU ar gyfer staff LGBTQ+, am y chweched flwyddyn yn olynol.
-
22 Chwefror 2022Sesiynau ar-lein am ddim ar gyfer gradd ran-amser yn y dyniaethau
Os ydych yn ystyried ailgydio yn eich addysg neu'n dymuno cael blas ar astudio, bydd Prifysgol Abertawe'n cynnig cyfres o sesiynau am ddim i roi profiad uniongyrchol i chi.
-
17 Chwefror 2022Prifysgol Abertawe'n ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am dechnolegau ynni adnewyddadwy chwyldroadol
Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod ei hymchwil Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg sy'n arwain chwyldro mewn technolegau ynni adnewyddadwy, yn benodol ynni solar a chreu a storio gwres.
-
17 Chwefror 2022Ap newydd sy'n gallu helpu pobl ifanc i lywio eu cymunedau
Mae ap newydd wedi cael ei lansio sy'n rhoi'r cyfle i bobl ifanc werthuso eu cymunedau a helpu i'w gwella.
-
16 Chwefror 2022Athletwyr elît yn defnyddio Dillad Clyfar Prifysgol Abertawe
Mae Gweinidog Llywodraeth y DU, David TC Davies, wedi ymweld â phrosiect Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy’n werth £132 miliwn, i weld sut datblygwyd y dechnoleg ar gyfer Dillad Clyfar - dillad yr oedd rhai athletwyr (gan gynnwys rhai a enillodd fedalau) wedi’u gwisgo yn y gemau Olympaidd yn Tokyo y llynedd.
-
15 Chwefror 2022Prifysgol Abertawe'n helpu i wreiddio treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Abertawe yn y cwricwlwm
Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio pecyn adnoddau digidol newydd ar gyfer plant rhwng 9 ac 11 oed a fydd yn helpu disgyblion i ddysgu am ddiwydiant copr rhyngwladol bwysig Abertawe wrth ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.
-
14 Chwefror 2022Astudiaeth yn datgelu effaith y cyfnodau clo ar iechyd meddwl pobl ifanc
Cafodd yr ail gyfnod clo o ganlyniad i Covid-19 yr effaith fwyaf ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc ymhlith poblogaeth Cymru, yn ôl ymchwil newydd.
-
11 Chwefror 2022Covid-19: Astudiaeth yn chwilio am gyfranogwyr i archwilio agweddau'r cyhoedd at ofal cymdeithasol yng Nghymru
Mae astudiaeth gan Brifysgol Abertawe'n chwilio am gyfranogwyr i archwilio agweddau'r cyhoedd at ofal cymdeithasol yng Nghymru yn dilyn pandemig Covid-19.
-
10 Chwefror 2022Arbenigwyr yn dadlau bod ymagwedd y DU at Covid-19 ymhlith plant yn ‘eithriad rhyngwladol'
Mae'r DU yn ‘eithriad rhyngwladol’ yn ei hymagwedd at ddiogelu plant rhag Covid-19, mae arbenigwyr yn dadlau yn The BMJ heddiw.
-
9 Chwefror 2022Y Brifysgol yn helpu i wella diogelwch meddyginiaethau ar ddechrau mamolaeth
Mae ymchwilwyr o Fanc Data SAIL a Phrifysgol Abertawe’n gwneud cyfraniad allweddol at brosiect rhyngwladol gwerth miliynau o bunnoedd i wella diogelwch meddyginiaethau a roddir i ddarpar famau a mamau sy'n bwydo babanod ar y fron.
-
3 Chwefror 2022Expertscape yn enwi athro o Brifysgol Abertawe yn arbenigwr mewn ymddygiad llonydd
Mae'r Athro Kelly Mackintosh o'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi cael ei chydnabod fel un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd mewn ymddygiad llonydd.
-
3 Chwefror 2022Lleisiau amrywiol a byd-eang yn flaenllaw ar restr hir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe
Cyhoeddir y rhestr hir ryngwladol ar gyfer un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd ar gyfer llenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe heddiw, dydd Iau 3 Chwefror. O Sri Lanka i Trinidad, Tecsas, ac Iwerddon drwy'r Dwyrain Canol, mae'r rhestr hir eleni'n cynnwys casgliad pwerus o lenorion rhyngwladol sy'n rhoi llais i rai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
-
28 Ionawr 2022Prifysgol Abertawe'n arwain yr ymchwil gyntaf o'i math sy'n archwilio gamblo a lles yn y Llu Awyr Brenhinol
Cyhoeddwyd astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe a Chronfa Les y Llu Awyr Brenhinol sy'n archwilio lles gweithlu presennol y Llu Awyr Brenhinol, gan roi pwyslais allweddol ar broblemau gamblo, y defnydd o alcohol ac iechyd meddwl.
-
28 Ionawr 2022Prifysgol Abertawe'n penodi Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi bod Niamh Lamond wedi cael ei phenodi'n Gofrestrydd ac yn Brif Swyddog Gweithredu, ar ôl proses recriwtio allanol gystadleuol. Mae Niamh wedi bod yn llenwi'r rôl ar sail interim ers mis Gorffennaf 2021 a bydd hi bellach yn parhau ynddi'n barhaol.
-
27 Ionawr 2022Cyllid gwerth £17 miliwn ar gyfer ymchwil data cydweithredol yng Nghymru
Bydd menter y mae Prifysgol Abertawe’n cymryd rhan ynddi sydd wedi trawsnewid sut gellir defnyddio data i roi cipolwg ar faterion cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru yn parhau, diolch i fuddsoddiad gwerth bron £17 miliwn.
-
26 Ionawr 2022Canmol gwaith arloesol y Brifysgol i hyrwyddo pwysigrwydd economi gylchol
Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i hyrwyddo economi gylchol wedi sicrhau cydnabyddiaeth ryngwladol.
-
26 Ionawr 2022Gwyddonwyr yn defnyddio GPS i olrhain symudiadau haid o fabŵns mewn mannau trefol am y tro cyntaf
Mewn astudiaeth unigryw, mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yn y DU a Phrifysgol Cape Town yn Ne Affrica wedi defnyddio coleri â system leoli fyd-eang (GPS) er mwyn astudio ymddygiad torfol haid o fabŵns sy'n byw ar gyrion dinas Cape Town.
-
26 Ionawr 2022Varsity Cymru'n dychwelyd ar ôl bwlch o ddwy flynedd
Ar ôl bwlch o ddwy flynedd o ganlyniad i bandemig Covid-19, mae'r dyddiad ar gyfer Varsity Cymru 2022 rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe wedi cael ei gadarnhau.
-
25 Ionawr 2022Sicrhau bod y cyhoedd yn cefnogi polisïau Covid-19: ffydd mewn arbenigwyr wrth i wleidyddion bolareiddio
Mae polisïau i fynd i'r afael â Covid-19 yn fwy tebygol o gael cefnogaeth eang y cyhoedd os bydd arbenigwyr neu glymbleidiau o bleidiau gwahanol, yn hytrach na gwleidyddion o un blaid yn unig, yn eu cynnig, yn ôl astudiaeth newydd o saith gwlad y cyfrannodd academydd o Brifysgol Abertawe ati.
-
24 Ionawr 2022Arbenigwyr yn pwysleisio cyfraniad lles at iechyd pobl
Amlygwyd pwysigrwydd lles a'i gyfraniad at iechyd mewn papur newydd gan academyddion o Brifysgol Abertawe.
-
24 Ionawr 2022Babanod i elwa o gronfa llaeth y fron gyntaf Cymru
Mae Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi lansio partneriaeth newydd â'r Human Milk Foundation (HMF) a fydd yn sefydlu cronfa llaeth y fron yng Nghymru am y tro cyntaf.
-
19 Ionawr 2022Academyddion o Brifysgol Abertawe'n cefnogi ymgyrch NASA drwy fapio argaeau ar draws afonydd
Cyhoeddwyd cronfa ddata ofodol newydd o argaeau a rhwystrau eraill a adeiladwyd yn rhannol neu'n llawn ar draws afonydd mwyaf y byd.
-
14 Ionawr 2022Astudiaeth o effaith problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ar gyfraddau marw pobl ifanc
Mae pobl ifanc â hanes o broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau yn fwy tebygol o farw na'r rhai sydd â phroblem iechyd meddwl yn unig neu sy'n camddefnyddio sylweddau yn unig.
-
12 Ionawr 2022Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn cydnabod Athro Iechyd Cyhoeddus
Mae arbenigwr iechyd cyhoeddus a gydnabuwyd gan y Frenhines yn dweud bod ei anrhydedd yn adlewyrchu enw da Banc Data SAIL Prifysgol Abertawe.
-
11 Ionawr 2022Arbenigwyr yn datgan bod dysgu ar-lein yn ystod y cyfnodau clo wedi effeithio ar les plant
Bu'n anodd i blant ysgol uwchradd ganolbwyntio ar eu gwaith ysgol ac ymddiddori ynddo pan gyflwynwyd dysgu ar-lein yn ystod y cyfnodau clo, gan effeithio'n negyddol ar eu hyder a'u lles, yn ôl astudiaeth newydd.
-
10 Ionawr 2022Effaith ffugiadau dwfn ar hyder mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr - grant gwerth €1.5m i arbenigwr o Brifysgol Abertawe
Dyfarnwyd €1.5m i arbenigwr yn y gyfraith o Brifysgol Abertawe i archwilio sut mae canfyddiadau'r cyhoedd ynghylch ffugiadau dwfn – delweddau, fideos neu sain sydd wedi cael eu trin â deallusrwydd artiffisial – yn effeithio ar hyder mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr o dorri hawliau dynol.
-
1 Ionawr 2022Dyfarnu CBE i'r Athro Tavi Murray yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd
Dyfarnwyd CBE i'r Athro Tavi Murray, Athro Rhewlifeg yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe, yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd am ei gwasanaethau i ymchwil i newid yn yr hinsawdd a rhewlifeg.