
Mae ymchwil newydd gan academyddion yn dangos bod canhwyllau llygaid claf yn gallu dangos a yw wedi dioddef profiad trawmatig yn y gorffennol.
Gall unigolion ddioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig ar ôl profi digwyddiad trawmatig megis damwain car, straen ymladd, neu gam-drin. Gall achosi iddynt fod yn fwy sensitif, neu'n orgynhyrfus, yn wyneb digwyddiadau pob dydd a'u hatal rhag gallu ymlacio.
Gwnaeth yr ymchwil, a arweiniwyd gan Dr Aimee McKinnon ym Mhrifysgol Caerdydd ac a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Biological Psychology, chwilio am olion y digwyddiadau trawmatig hyn yn llygaid cleifion a oedd yn dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig drwy fesur cannwyll y llygad pan oedd cyfranogwyr yn gweld delweddau bygythiol megis arfau neu anifeiliaid mileinig, yn ogystal â delweddau eraill a oedd yn dangos digwyddiadau niwtral, neu ddelweddau dymunol hyd yn oed.
Roedd ymateb pobl a oedd yn dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig yn wahanol i ymateb pobl eraill, gan gynnwys y rhai a oedd wedi dioddef trawma ond heb yr anhwylder.
I ddechrau, methodd cannwyll y llygad gulhau'n sydyn yn ôl yr arfer pan newidiodd lefel y golau – ond cynyddodd canhwyllau eu llygaid hyd yn oed yn fwy yn sgil ysgogiadau emosiynol nag oedd yn wir yn achos y cyfranogwyr eraill.
Cafwyd canlyniad annisgwyl arall wrth i ganhwyllau llygaid y cleifion a oedd yn dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig ymateb yn ormodol i ysgogiadau a oedd yn dangos delweddau cadarnhaol megis golygfeydd chwaraeon cyffrous, yn ogystal ag ysgogiadau bygythiol.
Mae'r Athro Nicola Gray o Brifysgol Abertawe, un o awduron y papur ar y cyd â'r Athro Robert Snowden o Brifysgol Caerdydd, yn credu bod y canfyddiad hwn yn un pwysig.
Meddai: “Mae hyn yn dangos bod cannwyll y llygad yn gorymateb i unrhyw ysgogiad cynhyrfus, yn hytrach na'r rhai bygythiol yn unig. Gall hyn ein galluogi i ddefnyddio'r delweddau cadarnhaol hyn mewn therapi, yn hytrach na dibynnu ar ddelweddau negyddol a all aflonyddu ar y claf, a thrwy hynny wneud therapi'n fwy derbyniol a goddefadwy. Nawr, mae angen profi'r syniad yn empirig cyn iddo gael ei ddefnyddio at ddibenion clinigol.”
Ychwanegodd Dr McKinnon, sydd bellach ym Mhrifysgol Rhydychen: “Mae'r canfyddiadau hyn yn ein galluogi i ddeall bod pobl sy'n dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig yn barod yn awtomatig i deimlo bygythiad ac ofn mewn unrhyw gyd-destun emosiynol ansicr, gan roi cyfle i ni ystyried y baich mawr sydd arnynt mewn bywyd pob dydd.
“Mae hefyd yn awgrymu ei bod yn bwysig i ni gydnabod nad dim ond ysgogiadau sy'n seiliedig ar ofn y dylid mynd ati i'w hailystyried ym maes therapi.
“Os bydd rhywun sy'n dioddef o anhwylder straen ôl-drawmatig yn wynebu unrhyw ysgogiad emosiynol mawr, hyd yn oed os yw'n deimlad cadarnhaol, gall ei sbarduno ar unwaith i ymateb fel pe bai dan fygythiad. Mae angen i glinigwyr ddeall effaith ysgogiadau cadarnhaol er mwyn helpu defnyddwyr gwasanaeth i oresgyn yr heriau sylweddol y maent yn eu hwynebu.”