An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Dr Simon John

Dr Simon John

Uwch-ddarlithydd, History

Cyfeiriad ebost

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol

Dolenni Ymchwil

104
Llawr Cyntaf
James Callaghan
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy’n Uwch Ddarlithydd Hanes Canoloesol yn yr Adran Hanes. Ymunais â’r adran yn 2016. Cyn hynny, bûm yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Rhydychen (2013-2016) ac yn Gymrawd Ymchwil Iau yn y Sefydliad Ymchwil Hanesyddol, Llundain, dan nawdd Sefydliad Scouloudi. Rwy’n Gymrawd y Gymdeithas Hanes Frenhinol, ac yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.

Meysydd Arbenigedd

  • Y Croesgadau ac ymlediad Cristnogaeth Ladin
  • Brenhiniaeth Ganoloesol
  • Ysgrifennu hanesyddol yn yr Oesoedd Canol
  • Canoloesoldeb
  • Henebion cyhoeddus a chynrychiolaeth hanes canoloesol

Uchafbwyntiau Gyrfa

Ymchwil

Mae fy mhrif ddiddordebau ymchwil yn ymwneud â hanes Cristnogaeth Ladin yng nghanol yr Oesoedd Canol. Mae fy ngwaith wedi ystyried theori ac arfer ysgrifennu hanesyddol, trosglwyddo a derbyn testunau, agweddau canoloesol tuag at wirionedd hanesyddol a’r gorffennol, syniadaeth wleidyddol am frenhiniaeth ac effaith gymdeithasol-ddiwylliannol y Croesgadau mewn Cristnogaeth Ladin.

Mae fy mhrosiect cyfredol, ‘Contested Pasts: public monuments and historical culture in Western Europe, 1815-1930’ (wedi’i ariannu gan yr Academi Brydeinig ac Ymddiriedolaeth Leverhulme), yn archwilio defnydd gwleidyddol henebion a cherfluniau cyhoeddus mewn gwladwriaethau Ewropeaidd yn y 19eg ganrif. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar greu henebion sy’n dangos ffigurau canoloesol yn Ewrop y 19eg ganrif.