Trosolwg
Cyn ymuno ag Abertawe, roedd Simon yn Ddarlithydd ym Mhrifysgol Aston ac yn Athro Cynorthwyol Ymchwil ym Mhrifysgol ‘Northwestern’ yn Chicago yn yr Unol Daleithiau. Mae hefyd ar hyn o bryd yn Ddirprwy Athro Cynorthwyol yn Northwestern. Cwblhaodd ei PhD mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae hefyd wedi cyflawni swyddi addysgu neu ymchwil ym Mhrifysgol Caerfaddon a Phrifysgol Caergrawnt.
Mae ymchwil Simon yn canolbwyntio ar (1) y dadansoddiad beirniadol o foeseg gorfforaethol a niwed corfforaethol a (2) anghydraddoldebau hiliol, ethnig a rhywedd mewn gyrfaoedd ym maes gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM). Ei nod yw cynhyrchu ymchwil sydd o ddiddordeb i amrywiaeth o gynulleidfaoedd anacademaidd yn ogystal ag i'r cyhoedd yn fwy cyffredinol. Mae wedi gweithio gyda nifer o elusennau a chyrff anllywodraethol ac mae ei ymchwil wedi cael ei drafod ar nifer o’r cyfryngau gan gynnwys The Times, BBC a Science Magazine.