Trosolwg
Mae fy nghefndir mewn addysg gynradd Gymraeg ac rwyf wedi addysgu mewn ysgolion cynradd yn Sir Gaerfyrddin. Rwyf wedi cael addysg trwy gyfrwng y Gymraeg ar hyd fy oes, ar ôl mynychu ysgolion cynradd ac uwchradd cyfrwng Cymraeg yn ogystal ag astudio ar gyfer TAR a Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol. Rwyf wedi ymgymryd â nifer o rolau yn yr ysgol, gan gynnwys; Mentor Myfyrwyr, Arweinydd Digidol, Cydlynydd Siarter Iaith Gymraeg ac Athro â Gofal.