Trosolwg
Ymunodd Ryan ag Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton fel Athro Cyswllt ym mis Mawrth 2019. Cyn hyn, bu’n Ddeon Ysgol y Gyfraith Aston yn Birmingham ac yn Ddarllenydd Addysg Gyfreithiol.
Astudiodd ar gyfer ei LLB ym Mhrifysgol Caerdydd lle cwblhaodd LLM mewn Astudiaethau Cyfreithiol Ewropeaidd hefyd. Roedd ei draethawd ymchwil, a gyflwynwyd i Brifysgol Bryste o dan oruchwyliaeth yr Athro Panos Koutrakos, yn edrych ar ddehongliad barnwrol o eithriadau i symudiad rhydd cyfalaf yng nghyfraith yr UE.
Mae'n adolygydd cymheiriaid ar gyfer The Law Teacher - cyfnodolyn addysg gyfreithiol blaenllaw – gydag arbenigedd mewn dylunio cwricwlwm a dysgu a ategir gan dechnoleg ac mae'n aelod o Is-bwyllgor Addysg y Gymdeithas Ysgolheigion Cyfreithiol. Yn ogystal, mae wedi bod yn datblygu arbenigedd ym maes diwygio addysg gyfreithiol ac mae'n aelod o grŵp cyfeirio'r Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr ar ddatblygu'r Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr. Mae wedi bod yn rhan o'r adolygiad cyfnodol o raglenni o fewn ei sefydliad ei hun ac fel arbenigwr allanol.
Ryan hefyd yw Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu'r Coleg.
Mae Ryan wedi cyhoeddi gwerslyfr ar system gyfreithiol Cymru a Lloegr sy'n ymdrin â’r pwnc mewn modd cyfoes sy'n seiliedig ar sgiliau.
Y tu allan i Ddysgu ac Addysgu, mae diddordebau ymchwil Ryan mewn sawl agwedd ar gyfraith marchnad fewnol yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig cyfraith trethiant Ewropeaidd, goruchwyliaeth ddarbodus, cyfraith cystadleuaeth a'r broses o ryddfrydoli cyfalaf. Mae'n estyn croeso cynnes i ddarpar fyfyrwyr PhD sydd â diddordeb yn unrhyw un o'r pynciau uchod, gan gynnwys y rhai sydd â diddordeb mewn addysg gyfreithiol.
I ffwrdd o'r byd academaidd mae Ryan yn mwynhau treulio amser gyda’i wraig a'u dau fachgen ifanc – Peter a Simon.