bay campus image
Llun proffil o Paul Davies

Mr Paul Davies

Uwch-ddarlithydd

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
316
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae

Trosolwg

Ymunodd Paul â'r Brifysgol yn 2015 ar ôl gyrfa lwyddiannus mewn diwydiant a oedd yn rhychwantu 20 o flynyddoedd.  Bu'n gweithio ar lefelau uwch mewn gwerthiannau a marchnata yn y sectorau technoleg a meddalwedd, gan ddechrau gyda dau o brif weithgynhyrchwyr y byd (IBM, Silicon Graphics/Cray Supercomputers) cyn symud ymlaen i rolau cyfarwyddwr gwerthiannau a rheoli ar gyfer nifer o gwmnïau newydd yn y DU, gan gynnwys cwmnïau arobryn.  Gan ddefnyddio ei brofiad ymarferol, mae ei ffocws addysgu wedi canolbwyntio ar gyflwyno a datblygu nifer o bynciau ymarferol a hynod berthnasol newydd, drwy gynnwys marchnata digidol, rheoli gwerthiannau a datblygu cymwysiadau'n bennaf.

Mae gan Paul radd Baglor mewn Economeg a Busnes, mae'n gymrawd AdvanceHE, yn aelod etholedig o'r Sefydliad Marchnata Siartredig ac yn meddu ar gymhwyster addysgu ôl-raddedig (gydag anrhydedd). Mae wedi cael rolau strategol yn yr ysgol, yn Gyfarwyddwr Rhaglen am 3 blynedd ac yn gyd-gadeirydd pwyllgor traws-ysgolion arloesol am 2 flynedd a oedd yn canolbwyntio ar hyrwyddo cynwysoldeb, hunaniaeth a chymuned yn y sefydliad. Mae wedi derbyn sawl canmoliaeth, enwebiad a gwobr gan gydweithwyr, myfyrwyr a chyrff proffesiynol ac mae'n siarad yn aml mewn cynadleddau. Mae ei weithgareddau ymchwil yn seiliedig ar weithredu arloesiadau addysgegol a phrosiectau mentrau digidol sy'n archwilio ac yn datblygu ffyrdd newydd o wella profiad y myfyrwyr a chyflogadwyedd. Fel academydd sy'n ymarfer, ef yw rheolwr gyfarwyddwr cwmni deillio sy'n cynnig gwasanaethau marchnata ac ymgynghoriaeth fusnes i ystod o gleientiaid yn y sectorau preifat a chyhoeddus. Mae'r gwaith hwn yn llywio addysgu ond hefyd mae'n cynnig cyfleoedd profiad busnes rheolaidd ac ymarferol i fyfyrwyr.

Mae gan Paul ymagwedd gynhwysol at addysgu sy'n cyfuno damcaniaeth gyfoes ag ymarfer yn y byd go iawn. Mae prosiectau parhaus (ac ymchwil gysylltiedig) yn archwilio sut gall rhoi VR ac XR ar waith gefnogi myfyrwyr drwy greu cyfleoedd dysgu newydd sy'n meithrin hyder ac yn ysbrydoli datblygu sgiliau ar bob lefel.

Meysydd Arbenigedd

  • Marchnata Digidol
  • Gwerthu Strategol a Rheoli Gwerthiannau
  • Datblygu Cymwysiadau
  • Marchnata Cymdeithasol
  • Arloesi a Thwf
  • Masnacheiddio technoleg a'i sefydlu
  • Cyflogadwyedd
  • Technolegau newydd (e.e. VR/XR, Realiti Cymysg)

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu
Myfyrwyr blwyddyn olaf yn dysgu'n gymdeithasol ac yn defnyddio Realiti Rhithwir

Defnydd ymarferol o asesu dilys a'i ddatblygu, addysgeg weithredol, dysgu cymdeithasol a dysgu â chymorth technoleg. Rhan o dîm yr Ysgol Reolaeth sy'n gyfrifol am gyflwyno addysg weithredol i sefydliadau (drwy ganolfan addysgu achrededig Sefydliad Marchnata Siartredig y Brifysgol).

Ymchwil Prif Wobrau Cydweithrediadau