Prifysgol Abertawe, Campws y Bae
person

Dr Nika Balomenou

Athro Cyswllt mewn Twristiaeth a Chymdeithaseg Weledol

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 602930

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.
341
Trydydd Llawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae Nika yn Athro Cysylltiol mewn Twristiaeth a Chymdeithaseg Weledol yn Ysgol Reolaeth Abertawe. Mae hi'n gyd-gadeirydd un o Grwpiau Diddordeb Arbennig y Gymdeithas Twristiaeth a Hamdden, Addysg ac Ymchwil, sef Dulliau Gweledol mewn Ymchwil Twristiaeth. Mae ei diddordebau ymchwil yn cynnwys dulliau gweledol a'r defnydd o ddelweddau a grëir gan gyfranogwr mewn ymchwil twristiaeth gyda ffocws arbennig ar rymuso cymunedau lletyol.

Ymunodd Nika â Phrifysgol Abertawe ym mis Medi 2021, yn dilyn 12 mlynedd ym Mhrifysgol Swydd Hertford, lle ymysg cyfrifoldebau eraill, roedd hi'n arwain y Grŵp Ymchwil Menter a Gwerth ac roedd hi'n Diwtor Ymchwil ar gyfer Ysgol Fusnes Swydd Hertford.   Bellach mae Nika yn arwain yr MSc mewn Rheoli Twristiaeth Ryngwladol a hi yw Cyfarwyddwr y Rhaglen. Mae Nika'n cyhoeddi ei gwaith mewn cyfnodolion rhyngwladol rhagorol. Mae hi'n rhan o fwrdd golygyddol y Cyfnodolion Destination and Marketing Management a Tourism Planning and Development.

Meysydd Arbenigedd

  • Twristiaeth
  • Cymdeithaseg Weledol
  • Cynllunio Twristiaeth Strategol
  • Grymuso Cymunedol
  • Parciau Cenedlaethol
  • Rhyngweithiadau a phrofiad rhwng Lletywyr a Gwesteion