Trosolwg
Ymunodd Dr Virk ag Ysgol Reolaeth Abertawe ym mis Awst 2021 fel Uwch-ddarlithydd mewn Cyllid. Cyn iddo gael ei benodi, bu'n gweithio yn Ysgol Busnes Plymouth fel darlithydd mewn Cyllid ac fel ymchwilydd ôl-ddoethurol yn Ysgol Economeg Hanken, y Ffindir.
Dyfarnwyd gradd D.Sc. mewn Cyllid iddo o Brifysgol Economeg Hanken, ac mae ef hefyd wedi ennill MSc mewn Cyllid Cyfrifiadurol o'r un brifysgol. Cwblhaodd ei radd Meistr mewn Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'i astudiaethau israddedig mewn Mathemateg a Ffiseg ym Mhrifysgol Quaid-i-Azam, Islamabad a Choleg Cristnogol Forman, Lahore ym Mhacistan, yn ôl eu trefn.
Mae ef wedi cyhoeddi ei ymchwil mewn cyfnodolion blaengar ym maes Cyllid gan gynnwys Journal of International Money and Finance, European Financial Management, International Review of Financial Analysis, Economics letters, International Journal of Economics and Finance i enwi ychydig ohonynt.
Mae ef wedi darparu tystiolaeth ysgrifenedig ar gyfer pwyllgor Trysorlys Senedd y DU o ran beth fydd gwedd y byd wedi iddo adfer ar ôl pandemig COVID-19. Gweler y fersiwn a gyhoeddwyd yma.
Mae ganddo hefyd brofiad o arwain wrth ddatblygu cyrsiau.
Mae ei waith gyda'r Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer gwerthuso a monitro atebion busnes hynod arloesol yn dangos ei arbenigedd wrth ddarparu ymgynghoriaeth i fusnesau newydd i fanteisio ar gyfleoedd cyhoeddus a phreifat am gyllid sy'n hollbwysig ar gyfer eu twf mewnol a'u harweinyddiaeth arloesol.
Mae Dr Virk wedi goruchwylio 2 fyfyriwr doethurol i gwblhau eu gradd ac mae ef wedi arholi 5 o fyfyrwyr yn y DU ac ym Mhacistan.
Mae ef wedi bod yn cyflwyno'i waith ymchwil yn rheolaidd yn genedlaethol ac yn rhyngwladol: Mae'r fforymau hyn yn cynnwys Cyfarfodydd Blynyddol Rhyngwladol FMA, Cyfarfodydd Rheolaeth Ariannol Ewropeaidd a Chyfarfodydd Cymdeithas Ariannol Rhyngwladol.