An aerial view of Singleton Campus and the bay opposite
Dr Michael Bresalier

Dr Michael Bresalier

Darlithydd mewn Hanes Meddygaeth, History
137
Llawr Cyntaf
Adeilad Keir Hardie
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Rwy’n ddarlithydd mewn hanes meddygaeth, gydag arbenigedd yn agweddau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a byd-eang iechyd a chlefydau yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Cefais fy hyfforddi mewn hanes cymdeithasol (Prifysgol Ottawa) astudiaethau amgylcheddol (Prifysgol York, Toronto), a hanes ac athroniaeth gwyddoniaeth (Caergrawnt). Cyn ymuno â'r Adran, roeddwn yn Gymrawd Ymchwil Wellcome yn yr Adran Hanes, Coleg y Brenin Llundain a chyn hynny roedd gen i swyddi ymchwil ac addysgu yn y Coleg Imperial, Prifysgol Manceinion a Phrifysgol Bryste. 

Meysydd Arbenigedd

  • Epidemigau a heintiau yn y byd modern
  • Hanes byd-eang meddygaeth fodern
  • Anifeiliaid mewn meddygaeth fodern
  • Safbwyntiau hanesyddol ar achosion ac atebion i newyn
  • Hanes iechyd rhyngwladol
  • Meddygaeth, clefydau ac ymerodraeth

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

Hanes meddygaeth fodern, 1790 - presennol

Clefydau mewn hanes

Meddygaeth wladychol, ôl-wladychol a byd-eang

Anghydraddoldebau iechyd a meddygaeth

Cyrff meddygol modern

Geowleidyddiaeth newyn a dyneiddiaeth

Canlyniadau cymdeithasol, ecolegol a gwleidyddol y 'chwyldro da byw'

Ymchwil Cydweithrediadau