Trosolwg
Rwyf yn hanesydd Cymru fodern a diwylliant poblogaidd ym Mhrydain fodern.
Rwyf wedi cyhoeddi llyfrau ac erthyglau sy’n ystyried gwleidyddiaeth, chwaraeon, hil, hunaniaeth genedlaethol, cerddoriaeth bop, trychinebau a llywodraeth leol. Wrth wraidd mwyafrif fy ngwaith ymchwil y mae cwestiynau am hunaniaeth.Rwyf yn ymddiddori yn y ffordd y mae pobl yn meddwl am bwy ydynt a’u lle yn y byd.
Gellir lawrlwytho llawer o’r erthyglau hyn o’m proffil academia.edu.
Fy mlog ymchwil yw www.martinjohnes.com
Fy mhrif brosiect ymchwil ar hyn o bryd yw llyfr am iaith ac addysg yng Nghymru yn y 19eg ganrif, sydd â’r teitl dros dro:Welsh Not: Education and the Anglicization of 19th Century Wales.
Ar hyn o bryd, rwyf hefyd yn gweithio ar brosiectau ynghylch hanes moelni a gwrywdod, y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a rôl hanes ym myd addysg Cymru a diwylliant Cymru.