Trosolwg
Mae Lella Nouri yn Athro Cysylltiol Troseddeg ac yn Gyfarwyddwr Rhaglen ar gyfer yr MA mewn Seiberdroseddu a Therfysgaeth ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Lella yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Hyfforddiant Doethurol y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol mewn Gwella Rhyngweithiadau a Chydweithrediadau â Systemau sy'n Seiliedig ar Ddata a Deallusrwydd , sy'n werth £7.5m. Mae hefyd yn un o aelodau sefydlu Canolfan Ymchwil Seiberfygythiadau (CYTREC) y Brifysgol ac yn aelod o rwydwaith rhagoriaeth VOX-Pol sy'n canolbwyntio ar ymchwilio i gyffredinrwydd, amrywiadau, swyddogaethau ac effeithiau eithafiaeth wleidyddol dreisgar ar-lein a'r ymatebion iddi.
Meysydd arbenigedd ymchwil Lella yw eithafiaeth, defnydd terfysgwyr o'r rhyngrwyd ac, yn benodol, ideolegau'r asgell dde eithafol. Yn 2017/18, bu Lella yn ysgolhaig gwadd ym Mhrifysgol Califfornia yn Santa Barbara drwy Ddyfarniad Seiberddiogelwch Fulbright.
Mae ei gwaith diweddaraf ar ddefnydd eithafwyr o'r rhyngrwyd wedi archwilio naratifau asgell dde eithafol a'r ffordd y maent yn cael eu lledaenu drwy'r cyfryngau cymdeithasol, gan gynnig argymhellion ynghylch polisi ac ymatebion cymunedol. Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, mae Lella wedi bod wrthi'n gweithio gyda chynghorau ledled Cymru i frwydro yn erbyn delweddau casineb ar draws cymunedau. Cyn hyn, mae ei gwaith wedi canolbwyntio ar y ffordd y mae propaganda'r asgell dde eithafol yn cael ei ledaenu ar-lein, dehongliadau o seiberderfysgaeth, archwilio problemau diffinio, ac ymatebion llywodraethau i derfysgaeth.
Yn ogystal â chyd-drefnu digwyddiadau niferus ar y pynciau hyn, gan gynnwys gweithdy gan VOX-Pol ynghylch yr asgell dde eithafol, mae Lella wedi cyhoeddi amrywiaeth o gasgliadau a olygwyd, erthyglau mewn cyfnodolion, penodau mewn llyfrau, adroddiadau ymchwil a blogiau drwy gyhoeddwyr blaenllaw yn y maes.