Trosolwg
Darlithydd yn is-grŵp Pobl a Sefydliadau, Ysgol Reolaeth, Prifysgol Abertawe yw James.
Cwblhaodd James ei PhD ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd ei draethawd ymchwil yn edrych ar raglenni lles gweithleoedd o ran perthnasoedd pŵer rhwng cyflogwyr a gweithwyr, gan ystyried beth yw ystyr bod yn dost neu'n iach yn y gweithle. Ers cwblhau ei draethawd ymchwil, mae James wedi bod yn gweithio ar nifer o gyhoeddiadau sy'n ymwneud â'r gwaith ymchwil.
Mae diddordebau ymchwil James yn cynnwys astudiaethau rheoli beirniadol a sefydliadau, yn arbennig o ran materion megis pŵer a hunaniaeth yn y gweithle.
Mae'n Gymrawd Cysylltiol o’r Academi Addysg Uwch. Ar hyn o bryd, mae'n ymgymryd â'i Dystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysgu Addysg Uwch; yn dilyn hyn bydd yn Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch.