Swansea University Bay Campus
female smiling

Dr Jennifer Rudd

Uwch Ddarlithydd mewn Arloesedd ac Ymgysylltu

Cyfeiriad ebost

JavaScript is required to view this email address.

Welsh language proficiency

Siaradwr Cymraeg Sylfaenol
212
Ail lawr
Yr Ysgol Reolaeth
Campws y Bae
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig
Sylwebydd y Cyfryngau

Trosolwg

Mae gan Dr Rudd ddegawd o brofiad yn gweithio ym maes cemeg a'r economi gylchol dechnegol, gan ddatblygu'r genhedlaeth nesaf o baneli solar a gweithio ar gynhyrchu hydrogen a dal carbon. Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon, datblygodd Dr Rudd y rhaglen You and CO2 yn 2018, gan geisio addysgu pobl ifanc am liniaru newid yn yr hinsawdd. Ers hynny mae wedi gweithio ar nifer o raglenni addysg ynghylch newid yn yr hinsawdd ar draws y disgyblaethau, ystodau oedran a gwledydd. Mae hi wedi helpu i hyfforddi athrawon yn Nigeria, wedi cyd-greu rhaglen ar gyfer disgyblion ysgolion cynradd Cymru i ddysgu am ffasiwn cyflym, wedi cyd-ddatblygu graddfa newydd ar gyfer mesur gallu'r hinsawdd ac wedi ymgynghori ar ran ystod o sefydliadau'r trydydd sector ac addysgol ar raglenni addysg newid yn yr hinsawdd.

Mae Dr Rudd yn aelod o gomisiwn Sero Net erbyn 2035, yn cynghori Llywodraeth Cymru ar lwybrau i Sero Net, mae wedi cael ei gwahodd i gyflwyno ei gwaith yn y Senedd ac mewn digwyddiadau masnach yn Llundain.

Mae Dr Rudd wedi cyfleu'r argyfwng hinsawdd drwy sgyrsiau cenedlaethol, ar y radio a'r cyfryngau argraffedig ac wedi rhoi sgwrs TEDx yn 2019. Mae'n cael ei gwahodd yn rheolaidd i roi sgyrsiau ar liniaru newid yn yr hinsawdd ac addysg newid yn yr hinsawdd ac mae hefyd wedi cael ei henwebu am ddwy o wobrau Prifysgol Abertawe yn 2020.

Meysydd Arbenigedd

  • Dal, storio a defnyddio carbon
  • Yr economi gylchol
  • Lliniaru newid yn yr hinsawdd
  • Addysg am newid yn yr hinsawdd

Uchafbwyntiau Gyrfa

Diddordebau Addysgu

 

MN-3522 Cynaliadwyedd a Rheoli

Amgylcheddol Mae materion gwyrdd yn datblygu'n fwyfwy pwysig i fusnesau. Nod y cwrs yw astudio'r ysgogwyr a'r cyfleoedd i fusnesau wella eu perfformiad amgylcheddol. Caiff ystod eang o faterion rheoli amgylcheddol eu harchwilio, o safbwynt y statws presennol a datblygiadau yn y dyfodol, a chaiff y rhain eu cyfleu drwy ddefnyddio hanesion achos priodol.

MN-M606 Cynaliadwyedd a Rheoli

Amgylcheddol Mae materion gwyrdd yn datblygu'n fwyfwy pwysig i fusnesau. Bydd y modiwl hwn yn cyflwyno i chi’r damcaniaethau a’r arferion allweddol sy'n sail i reoli cynaliadwyedd ac amgylcheddol mewn busnes. Caiff ystod eang o faterion rheoli amgylcheddol eu harchwilio, o safbwynt y statws presennol a datblygiadau yn y dyfodol, a chaiff y rhain eu cyfleu drwy ddefnyddio hanesion achos priodol.

MN-D004 Traethawd Hir

 

Ymchwil Prif Wobrau