Trosolwg
Mae gan Helen gefndir mewn addysg gynradd ac addysg gychwynnol a pharhaus i athrawon, a hi yw Cyfarwyddwr y Rhaglen ar gyfer y Dystysgrif Addysg i Athrawon (TAR). Yn flaenorol, mae wedi arwain rhaglenni ôl-raddedig ac israddedig gan gynnwys BA mewn Astudiaethau Addysg, BA mewn Addysg, MA mewn Addysg a TAR Cynradd.
Prif ddiddordebau ymchwil Helen yw’r egwyddorion a’r addysgegau sy’n berthnasol i ddatblygiad sgiliau meddwl a metawybyddiaeth plant, a gwnaeth ei thesis doethurol ganolbwyntio ar feddwl plant ifanc a’r ffordd yr addysgir hyn. Mae’n hyfforddwr achrededig ar gyfer nifer o raglenni sgiliau meddwl ac mae wedi astudio yn Project Zero, Prifysgol Harvard.
Hefyd mae Helen yn ymddiddori mewn archwilio ymagweddau at gefnogi lles, addysgeg effeithiol, myfyrio gan athrawon ac ymchwil sy’n agos at yr ymarfer. Ar hyn o bryd, mae’n ymgymryd ag ymchwil wreiddiol i faes sy’n datblygu’n gyflym sef addysg a rhyngweithio sy’n cynnwys dynion ac anifeiliaid.
Mae Helen yn ymgymryd â gwaith adolygu cymheiriaid ar gyfer nifer o gyfnodolion academaidd, mae’n Arholwr Allanol profiadol (Edge Hill; Coleg y Brifysgol Llundain, Sefydliad Addysg Llundain; Prifysgol Southampton) ac yn oruchwylydd profiadol i fyfyrwyr ôl-raddedig.
Mae Helen yn Arolygydd Tîm ac yn Arolygydd Cymheiriaid ar gyfer Arolygiaeth Cymru sef Estyn, ac mae wedi’i hethol yn Ysgrifennydd Anrhydeddus Cymdeithas Ryngwladol Datblygiad Proffesiynol (IPDA). Mae’n aelod o nifer o bwyllgorau eraill gan gynnwys IPDA Cymru, Fforwm Let’s Think a Chyngor y Prifysgolion a’r Ysgolion dros Addysg Athrawon (USCET).