ILS2
Hayley Hutchings Profile Picture

Yr Athro Hayley Hutchings

Athro, Health Data Science

Rhif ffôn

+44 (0) 1792 513412
208
Ail lawr
Y Sefydliad Gwyddor Bywyd 2
Campws Singleton
Ar gael ar gyfer Goruchwyliaeth Ôl-raddedig

Trosolwg

Mae'r Athro Hutchings yn Athro Ymchwil Gwasanaethau Iechyd yn Sefydliad Gwyddor Bywyd 2. Yn ogystal, Hayley yw Cyd-gyfarwyddwr Uned Dreialon Abertawe a Chyfarwyddwr Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil De-orllewin Cymru. Ariennir y ddau gorff gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae Hayley yn rhan o thema Iechyd a Gwybodeg Cleifion a'r Boblogaeth yn yr Ysgol Feddygaeth. 

Mae gan Hayley fwy na 25 o flynyddoedd o brofiad ymchwil ôl-ddoethurol o ymchwil a threialon yn ymwneud â gwasanaethau iechyd. Mae diddordebau ymchwil Hayley yn cynnwys adnoddau sy'n mesur canlyniadau a adroddir gan gleifion (PROMs), treialon a defnyddio data cysylltiedig dienw a gesglir yn rheolaidd.  Ar hyn o bryd, mae Hayley yn arwain neu'n darparu mewnbwn i ystod o brosiectau ymchwil yn y meysydd hyn.  

Mae gan Hayley hanes llwyddiannus o oruchwylio ac archwilio myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig ac yn y gorffennol mae hi wedi dal swyddi ar lefel strategol ysgol a phrifysgol i oruchwylio ymchwil ôl-raddedig. Ar hyn o bryd, mae Hayley yn aelod o bwyllgor ymchwil ôl-raddedig yr Ysgol Feddygaeth sy'n helpu i oruchwylio ymchwil gan fyfyrwyr meddygaeth ôl-raddedig yn ogystal â strategaethau.  

Ar ben ei swyddi ymchwil, mae Hayley yn goruchwylio myfyrwyr Gwyddorau Meddygol Cymhwysol a Geneteg a Biocemeg fel rhan o'u prosiectau ymchwil israddedig blwyddyn olaf.  

Mae Hayley yn darparu mewnbwn ymchwil arbenigol i nifer o bwyllgor cyllid a chyfnodolion meddygol mawr dylanwadol iawn.  

Meysydd Arbenigedd

  • Adnoddau sy'n mesur canlyniadau a adroddir gan gleifion
  • PROMs
  • Treialon
  • Cyflyrau cronig
  • Data cysylltiedig dienw a gesglir yn rheolaidd